Vaughan Gething: Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf fy nghyfieithiad, ond mae wedi'i ysgrifennu. A gaf fi glustffon ar gyfer y cwestiwn dilynol? Mae'n ddrwg gennyf.
Vaughan Gething: Na, bydd yn mynd i mewn i fy nghlustiau. Diolch am y cwestiwn. Deallaf y bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr, eu teuluoedd a chymuned ehangach Caergybi. Mae fy swyddogion wedi estyn llaw i'r cwmni ac yn barod i gynnig cymorth i'r bobl yr effeithir arnynt ar yr adeg drallodus hon. Bydd yn rhaid imi aros am y clustffon am y tro, gan iddo ofyn y cwestiwn yn Gymraeg.
Vaughan Gething: Credaf fod cywair eich sylw olaf yn dadwneud rhai o'r pwyntiau mwy cadarnhaol a wnaethoch yn gynharach. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar weithwyr o gwbl. Rwyf wedi cytuno i wario sawl miliwn o bunnoedd—rwyf wedi amlinellu hyn mewn datganiadau ysgrifenedig blaenorol y bydd yr Aelod wedi cael cyfle i'w darllen—i reoleiddio'r cyflenwad mewn gwirionedd. Nid cyfrifoldeb statudol...
Vaughan Gething: Rydym wedi gweithio'n galed iawn dros bron i flwyddyn bellach i geisio rheoleiddio'r cyflenwad ers penodi'r derbynnydd swyddogol ac ers bod bygythiad gwirioneddol i'r cyflenwad pŵer. Mae rheswm pam na all y Dirprwy Lywydd ofyn y cwestiwn hwn er ei fod yn ei etholaeth, ac rwyf wedi gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am amrywiaeth o faterion y tu allan i'r Siambr. Mae'r cyflenwad pŵer yn...
Vaughan Gething: Os yw gweithwyr yn colli eu swyddi, mae gennym ystod o fesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith ac a roddwyd ar waith gennym yn y gorffennol. Ond yr hyn y ceisiwn ei wneud mewn gwirionedd mewn amryw o'r camau yr ydym yn eu cymryd yw ceisio osgoi colli nifer sylweddol o swyddi o ganlyniad i'r camau arfaethedig i dorri'r cyflenwadau pŵer. Yr hyn a ddywedodd y dyfarniad oedd y bydd pŵer pob...
Vaughan Gething: Mae fy swyddogion a minnau'n ystyried y dyfarniad, gan gynnwys safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag apêl bosibl o ddyfarniad yr Uchel Lys. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r straen a'r ansicrwydd y mae cwsmeriaid y parc ynni wedi'u profi. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb sy'n diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a swyddi....
Vaughan Gething: Y realiti yw efallai na fyddwn yn gallu sicrhau nad yw prifysgolion, a'r sector addysg bellach yn wir, a oedd hefyd yn elwa'n sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, ar eu colled. Mae hynny oherwydd y dewis sydd wedi'i wneud. Mae'n ddewis clir i beidio â chynnwys Llywodraeth Cymru a pheidio â chyflawni'r addewid maniffesto clir i sicrhau arian yn lle pob ceiniog o'r hen gronfeydd Ewropeaidd....
Vaughan Gething: Fel y gŵyr yr Aelod, mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a'r Senedd gyda'r ffordd y mae'r gronfa hon wedi gweithredu yn ei chyfnod treialu. Nid yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU fel y mae wedi'i ffurfio ar hyn o bryd. Rwy'n dal i gael trafodaethau gyda phartneriaid—nid Gweinidogion y Llywodraeth yn unig, ond y tu allan i Lywodraeth...
Vaughan Gething: Wel, rwy'n croesawu galwad gyson yr Aelod am weld prisio tir yn cymryd lle ardrethi busnes, ac wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw a ddylid diwygio ardrethi busnes ai peidio. Ond rwy'n parhau i ymddiddori yn realiti ymarferol y sefyllfa yr ydym ynddi yn awr a lle y gallem fod yn y dyfodol, a dyna pam ein bod wedi gweithio ochr yn ochr â...
Vaughan Gething: Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy canol trefi a dinasoedd, drwy ymyriadau sy'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau segur a gwag, cynyddu amrywiaeth a mynediad at wasanaethau mewn trefi a dinasoedd, a phwyslais ar ofod byw a gweithio hyblyg, mannau defnydd cymysg, gwell seilwaith gwyrdd, a gwasanaethau a hamdden wrth gwrs.
Vaughan Gething: Wel, wrth gwrs, bydd gan bob awdurdod lleol ei fandad ei hun yn y dyfodol agos, ac rwy'n gobeithio gweithio gyda nifer fwy byth o arweinwyr Llafur Cymru yn y dyfodol. Ond fel y gwelsom yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n effeithiol gydag arweinwyr o wahanol liwiau gwleidyddol. Ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ceir arweinydd Ceidwadol, aelodau annibynnol a Llafur. Pan...
Vaughan Gething: Ein gweledigaeth yw economi llesiant sy'n gyrru ffyniant, sy'n amgylcheddol gadarn ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae egwyddorion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 arloesol yn llywio'r penderfyniadau a wnawn wrth gefnogi ein mentrau economaidd.
Vaughan Gething: Mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw diwygio ardrethi busnes. O ran y system rhyddhad ardrethi, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi i ystod o fusnesau a byddem yn annog busnesau i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu hawl i'r rhyddhad ardrethi o 50 y cant. Nawr, mae'n her i rai busnesu newid i gael rhywfaint o ardrethi busnes ar ôl peidio â chael unrhyw ardrethi busnes...
Vaughan Gething: Mae COVID wedi cyflymu'r duedd a welwn, gyda'r newid yn y defnydd o ganol trefi a dinasoedd ac yn arbennig, pan oedd y pandemig ar ei anterth, roedd hi'n amlwg ei fod yn lleihau'r galw am fanwerthu ar y stryd fawr. Dyna pam, ym mis Ionawr 2020, y gwnaethom lansio'r rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu i gefnogi busnesau yng nghanol trefi, ac mae honno bellach yn cael ei harwain gan fy...
Vaughan Gething: Wel, mewn gwirionedd, y pwynt ehangach am iechyd meddwl yw ei fod yn rhywbeth i bob un ohonom, o ran cael rhywfaint o gydbwysedd yn yr hyn a wnawn a gallu bod yn llwyddiannus yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith hefyd. Mae'n ymwneud â mwy na'r rheini sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl; mae sicrhau iechyd meddwl da yn rhywbeth i bob un ohonom. Ac mewn gwirionedd, yn hytrach na chael...
Vaughan Gething: Na, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno. Rydym yn cael sgwrs am yr hyn sy'n gydbwysedd iach yn y ffordd y mae byd gwaith wedi newid yn ystod y pandemig, a pha mor barhaol y bydd y newid hwnnw. Ac mewn gwirionedd, rhai o'r heriau ynghylch goruchwylio pobl pan fyddant yn gweithio o bell—mae'n fater y mae Sarah Murphy, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wrth gwrs, wedi'i godi'n gyson. Mae...
Vaughan Gething: Croeso nôl. Mae iechyd a lles gweithwyr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau £1.4 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf er mwyn i'r rhaglen Amser i Newid Cymru barhau. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n gilydd ar raglen Cymru Iach ar Waith hefyd.
Vaughan Gething: Wel, cafwyd sylwadau pwysig ar yr union bwnc hwn ddoe gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mewn cwestiynau mewn mannau eraill. Edrychwch, cyfarfûm â'r fforwm economi ymwelwyr heddiw ac mae hwn yn bwnc y maent wedi'i godi. Ceir pryderon ynghylch nifer o feysydd. Yr her, fodd bynnag, yw'r cydbwysedd yn yr hyn y ceisiwn ei wneud, a'r cydbwysedd yn yr hyn y ceisiwn...
Vaughan Gething: Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector. Hefyd wrth gwrs, mae gennym gynllun adfer llunio’r weledigaeth a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl. Yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, rydym wedi nodi dyraniad o £47 miliwn dros dair blynedd i gyflawni'r blaenoriaethau hynny.
Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn ac am ein hatgoffa o rai o'r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu, a bydd y diffyg o £1 biliwn o arian yn lle cronfeydd yr UE yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny. Wrth nodi ein cenhadaeth economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, felly dyna pam...