Andrew RT Davies: Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau sy'n cael eu cyflwyno y prynhawn yma. Hoffwn ofyn am ddau bwynt o eglurhad gan y Gweinidog, os caf i. Ynghylch rhan Denmarc o'r rheoliadau sydd wedi'u symud gan y Llywodraeth, a wnaiff y Gweinidog, er iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni at ryw bwynt, nodi a oes unrhyw wybodaeth am y gyfradd drosglwyddo y tu allan i Ddenmarc? Rwy'n nodi bod damcaniaethu yn y...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn i gwestiynau’r arweinyddion a hefyd i'r cwestiwn penodol hwn am y treial ym Merthyr. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau pryd y gellir gwneud y dadansoddiad, os bydd y treial hwn yn llwyddiannus—a'r arwyddion cychwynnol yw ei fod wedi bod yn llwyddiannus—y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled gweddill Cymru, ac, yn arbennig, yn Rhondda...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi'r cynnig ger ein bron y prynhawn yma i'w drafod. Siaradaf am y gwelliant yn enw Darren Millar, gwelliant 3, sy'n tynnu sylw at yr adnoddau ychwanegol sy'n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru drwy ei rhan yn yr undeb. Gallwn ychwanegu fod £5 biliwn o adnoddau hyd yma yn gyfraniad ariannol sylweddol i'r ymdrech i drechu COVID a chefnogi'r...
Andrew RT Davies: Weinidog, un o'r gwelliannau cynllunio a gyflwynwyd i'r system mewn Cynulliad blaenorol oedd gweithredu TAN 6 ar gyfer anheddau gwledig. Yn anffodus, fy mhrofiad i o TAN 6 yw ei fod bellach wedi newid i fod yn fodel eithaf soffistigedig. Yn hytrach na'i fod yn fodel hawdd ar gyfer datblygu eiddo gwledig ar gyfer gweithwyr gwledig, mae yna glytwaith o gyflawniad gan awdurdodau cynllunio, ac...
Andrew RT Davies: Weinidog, nododd yr adolygiad o’r llifogydd a gynhaliwyd gan CNC yn gynharach eleni fod 12 rhybudd rhag llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’n hwyr, ac na chafodd rhai ardaloedd rybudd rhag llifogydd o gwbl. Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y prosiectau seilwaith mawr a rhai o'r materion mwy sy'n ymwneud â llifogydd, ond os na allwch wneud y pethau syml yn iawn, fel rhybuddio'r cyhoedd i fod...
Andrew RT Davies: O ran y rheoliadau y prynhawn yma, o safbwynt y Ceidwadwyr, byddwn ni'n ymatal ar y gyfres gyntaf o reoliadau a gwmpesir yn eitem 10 ar yr agenda, a byddwn ni'n cefnogi eitem 11 ar yr agenda sef y cyfyngiadau teithio o ran Denmarc. Os gaf i ofyn yn garedig i'r Gweinidog, efallai, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am sefyllfa Denmarc. Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor cyfansoddiad a materion...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Bythefnos yn ôl, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y grant datblygu busnes y bu'n rhaid ei atal ar ôl 24 awr. Rwy'n sylweddoli bod hynny yn dangos arwydd o'r galw sydd allan yn yr economi, ac yn enwedig yng Nghanol De Cymru. Fel Aelod rhanbarthol, mae busnesau ledled y rhanbarth wedi cysylltu â mi ac mae'n amlwg bod hyn wedi bod yn rhwystredig iawn iddyn...
Andrew RT Davies: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ragolygon economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 yng Nghanol De Cymru? OQ55859
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi ofyn am sicrwydd gennych ar ddau beth, a rhywfaint o'r cynllunio sydd ar gael hyd yma? Ddoe, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, tynnodd y Prif Weinidog sylw at y ffaith bod y prif swyddog meddygol wedi bod mewn trafodaethau ers mis Mehefin, ac yna mewn trafodaethau uniongyrchol gyda'r byrddau iechyd o fis Gorffennaf ymlaen, ynghylch argaeledd a...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn anffodus wrth gwrs, caewyd un edefyn o gymorth—y grant datblygu busnes—ar ôl 24 awr. Dywedai un neges fod hynny wedi digwydd er mwyn asesu'r ceisiadau, a dywedai neges arall nad oedd rhagor o arian ar gyfer ceisiadau pellach. A all y Gweinidog roi unrhyw hyder heddiw i'r ddadl y dylid ailagor y gronfa hon, os yw'n denu cyllid ychwanegol gan y...
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws? OQ55825
Andrew RT Davies: 1. Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru? TQ503
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am eich cymorth wrth geisio mynd i'r afael ag ansawdd yr atebion y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i Aelodau? Cefais rai ymatebion yn ôl yr wythnos diwethaf a chefais wybod bod Gweinidogion yn mynd i ysgrifennu ataf gyda'u hatebion nhw ar ôl eistedd arnyn nhw am tua 10 diwrnod i bythefnos. Roeddent yn gwestiynau eithaf syml. Roedd un yn gofyn o ble y daeth y data ym...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymrwymiad rydych wedi'i roi. Rwy'n siŵr y bydd teulu Dr Lamont hefyd yn ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwnnw rydych wedi'i roi y prynhawn yma. Maes arall a oedd yn peri pryder yn yr achos penodol hwn oedd gallu'r tîm brysbennu i gael mynediad at y cofnodion. Pe baent wedi cael gafael arnynt ar y noson roedd yr heddlu'n ceisio cyngor ganddynt, byddai wedi dangos...
Andrew RT Davies: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi dynnu eich sylw at achos trasig Dr Deborah Lamont a gafodd sylw heddiw? Yn drist iawn, fe gyflawnodd hunanladdiad y llynedd, ac mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi ynghylch y ddeddfwriaeth iechyd meddwl sy'n llywodraethu ystafelloedd gwesty, ac asesiadau a gorfodi yn arbennig. Mae'n ymddangos bod anghysondeb yn y modd y caiff ystafelloedd gwesty...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, llongyfarchiadau ar eich penodiad i'r Cabinet yn y rôl bwysig hon. Mae gennym oddeutu pum/chwe mis nawr cyn yr etholiadau seneddol nesaf ar gyfer Senedd Cymru. Rwy'n derbyn bod yr amserlen yn dynn iawn, ond yn eich asesiad cychwynnol o'r hyn y gallwch ei gyflawni yn y pump i chwe mis hwnnw, pa nodau rydych chi wedi'u gosod i chi'ch hun, fel y byddwch, pan...
Andrew RT Davies: Weinidog, yn 2019 cyflawnodd GIG Cymru 35,700 o lawdriniaethau orthopedig. Mae data hyd at ddiwedd mis Awst yn dangos mai ychydig dros 8,000 o lawdriniaethau yn unig a gyflawnwyd yng Nghymru. Ar yr un pryd y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru wedi cwblhau 24,000 o lawdriniaethau. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r bom iechyd cyhoeddus hwn a fydd yn dod i chwalu’r GIG?
Andrew RT Davies: Weinidog, ers dechrau'r pandemig yng Nghymru mae marwolaethau yn y cartref o achos dementia a chlefyd Alzheimer ymhlith menywod wedi cynyddu 92 y cant yn erbyn y cyfartaledd pum mlynedd. Mae marwolaethau yn y cartref o achos clefyd y galon ymhlith dynion yng Nghymru wedi cynyddu 22 y cant uwchlaw'r cyfartaledd pum mlynedd. Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau ychwanegol yn y cartref yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl Macmillan, gallai bron i 3,000 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser na wnaed diagnosis ohono o ganlyniad i’r pandemig. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r storm ddieflig hon sydd ar y ffordd i'r GIG yng Nghymru?
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gapasiti gofal critigol yn GIG Cymru?