Sioned Williams: Gweinidog, er bod briffiau a datganiadau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws wedi cwmpasu ystod eang o feysydd, un maes sydd heb gael llawer o sylw, yn ddiweddar yn sicr, yw deintyddiaeth. Yn amlwg, mae triniaethau brys wedi bod ar gael drwy gydol cyfnod COVID, ond mae ffigurau a ddarparwyd gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dangos bod deintyddiaeth yng Nghymru yn gweithredu ar hyn o bryd...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Wrth siarad â manwerthwyr a masnachwyr marchnad yng nghanol tref Castell-nedd, mae'n amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ymwelwyr ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd datblygu'r pwll nofio, y caffi a'r llyfrgell yn y dref yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr, ond mae yna deimlad bod angen gwneud mwy i weld...
Sioned Williams: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru? OQ56651
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ffoaduriaid, sydd yn gyfle i ni i gyd ddathlu’r cyfraniadau mae ffoaduriaid yn eu gwneud i’n cymunedau ni, a hefyd hanes hir a balch Cymru o groesawu pobl sy’n dianc rhag gormes a thrais. Mae Diwrnod Ffoaduriaid y Byd yn cael ei nodi bob blwyddyn yn rhyngwladol ar 20 Mehefin, sef dydd Sul nesaf. Gobeithio y byddwn ni i gyd yn cymryd y cyfle i...
Sioned Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ysgolion yr 21ain ganrif yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Rwy'n gorffen.
Sioned Williams: Rwy'n dyfynnu: 'Byddwn hefyd yn gweithio i ddatganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Draws.' Mae angen y pwerau hyn arnom—mae eu hangen arnom yn awr. Mae'n bryd gweithredu ar y mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru, a hoffwn annog pob Aelod i bleidleisio dros y cynnig heddiw. Diolch yn fawr.
Sioned Williams: Rydym ar hyn o bryd yn dathlu mis Pride, ac wrth inni wneud hynny, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl LHDT+ Cymru ein bod yn parchu eu hawliau ac y byddwn yn ymladd dros eu hawliau. Os ydym yn datganoli pwerau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i Gymru, gallem helpu i sicrhau hawl pobl draws i fyw eu bywydau fel y dymunant, gydag urddas. Mae'n siomedig, felly, fod Llywodraeth...
Sioned Williams: Os yw sicrhau urddas i'n trigolion yn waelodol i'r Gymru deg y dylem oll fod yn ceisio ei chreu, yna mae'r hawl i fyw bywyd yn rhydd o ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth hefyd yn waelodol i fi. Y llynedd, ar ôl bron i ddwy flynedd o oedi, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei hymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004—y Ddeddf ddiffygiol honno. Roedd y Ddeddf...
Sioned Williams: Felly, pam y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i lusgo ei thraed ar ddatganoli pwerau a fydd yn gwneud Cymru'n well ei byd? Pam amddifadu Cymru o ysgogiad pwerus pellach a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â thlodi? Beth am weithredu i helpu i godi ein pobl? Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn credu bod pwerau dros fudd-daliadau lles a'r rhan fwyaf o drethi...
Sioned Williams: Ein rôl ni i gyd sy'n cynrychioli pobl Cymru yw sicrhau'r bywyd gorau posibl i drigolion ein cenedl; i wneud popeth posib i greu Cymru lewyrchus, deg a chyfiawn, sy'n gofalu am bob un sy'n galw Cymru'n gartref. Os na wnawn ni hyn, yna nid ydym yn haeddu eistedd yn y Siambr hon, na chwaith yn deilwng o gynrychioli'r cymunedau sydd wedi rhoi eu ffydd ynom i'w gwasanaethu. Ers 2010, mae...
Sioned Williams: Trefnydd, byddwch chi'n ymwybodol, fel yr ydym ni wedi'i glywed heddiw, fod y cynlluniau ar gyfer bae Abertawe a metro gorllewin Cymru wedi bod yn destun ymgynghoriad yn ddiweddar, a heddiw yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro dros fetro yng Ngorllewin De Cymru, wrth gwrs, ond rydym ni'n credu bod yn rhaid i'r metro gynnwys gwasanaethau rheilffordd a...
Sioned Williams: Trefnydd, dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan glymblaid End Child Poverty fod rhannau o Gymru wedi gweld cynnydd dramatig mewn tlodi plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bod gan Gymru bellach y gyfradd dlodi plant waethaf o holl genhedloedd y Deyrnas Gyfunol, gyda 31 y cant o blant yn byw o dan y llinell dlodi. Mae sefyllfa tlodi plant yng Nghymru yn sgandal...