Gareth Bennett: Gwnaf.
Gareth Bennett: Mae'n bwysig nodi ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yna unigolion sy'n cam-drin alcohol, a gall camddefnyddio alcohol—[Torri ar draws.] Gall cam-drin alcohol effeithio'n ddinistriol ar unigolion ac ar eu teuluoedd. Mae'r mater hwn yn peri pryder i ni. Ond rydym yn cwestiynu a fydd gosod isafbris fesul uned yn gweithio fel ffordd o drechu'r camddefnydd o alcohol i bob pwrpas. Ein...
Gareth Bennett: Ie, credaf ei bod yn gywir y gall llawer o bobl ennill mwy o arian o bosibl drwy gael gyrfa mewn meysydd fel adeiladu yn hytrach na dilyn llwybr addysg brifysgol, efallai, oherwydd mae'r fantais ariannol o gael gradd yn gyfyngedig y dyddiau hyn gan fod cynifer o bobl yn meddu ar radd prifysgol mewn gwirionedd. Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud—ac rwy'n tueddu i gytuno â...
Gareth Bennett: Diolch am yr ateb hwnnw. Credaf fod honno'n fenter dda, ac yn arbennig yr ymgynghoriad â thenantiaid, felly edrychaf ymlaen at ganlyniad hynny. Mater arall a grybwyllwyd yr wythnos diwethaf—mewn gwirionedd, fe roesoch enghraifft o arfer da a oedd yn digwydd gyda chymdeithas dai benodol, Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, a nodwyd y defnydd o brentisiaethau gennych yn arbennig. Nawr, mae'r...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gwnaethoch ddatganiad yr wythnos diwethaf ar dai cost isel yng Nghymru—perchentyaeth cost isel, dylwn ddweud, yn benodol—ac fe gawsom drafodaeth ddiddorol, roeddwn yn teimlo, yn dilyn hynny ac fe gafodd nifer o faterion eu codi. Un ohonynt oedd y posibilrwydd fod rhenti yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru, mewn rhai achosion, yn codi'n...
Gareth Bennett: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â llosgydd biomas Barri?
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Credaf ein bod i gyd yn derbyn bod problem fawr ynghylch plastig yn mynd i'r môr, problem y bu gwirfoddolwyr sy'n glanhau ein traethau yn ymwybodol ohoni ers peth amser. A bellach mae'n bwynt trafod cenedlaethol mawr iawn, yn rhannol oherwydd y rhaglen deledu a grybwyllwyd gennych—y gyfres deledu Blue Planet—sy'n dangos, hyd yn oed yn yr oes...
Gareth Bennett: Diolch am hynna. Rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael gweithredwr trenau newydd yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Y broblem yw ei bod yn bosib na fydd y gweithredwr newydd yn gallu cael cerbydau newydd am bedair blynedd efallai, felly gallem fod â thacteg, er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno a nodwyd gennych, bod y gweithredwr trenau newydd yn gorfod, neu'n credu bod yn...
Gareth Bennett: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd is ? OAQ52130
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom ni'n cydnabod bod problem fawr yn wynebu'r genhedlaeth iau heddiw, sy'n ceisio cael troed ar yr ysgol dai, sef, i lawer o bobl, nad yw tai yn fforddiadwy. Un broblem fawr yw nad yw codiadau cyflog yn cadw'n wastad â'r cynnydd mewn prisiau tai, sy'n creu amgylchedd heriol os ydym ni'n ceisio gwella cyfraddau...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rydym yn siarad heddiw am gynlluniau a chynllunio ac, fel yr amlinellodd y Gweinidog eiliad yn ôl, mae'n ymddangos ein bod yn ymlwybro tuag at dri math o gynllun yn fras: cynlluniau datblygu lleol ar y gwaelod, fframwaith datblygu cenedlaethol ar y brig, a chynlluniau datblygu strategol yn y canol. Rydym wedi gweld achosion o gynnen cyhoeddus dros...
Gareth Bennett: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â nifer y cartrefi gwag yng Nghymru?
Gareth Bennett: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'r ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig—neu'r fersiwn ddiweddaraf ohono yn hytrach—yn fater pwysig, ac mae'n sicr o fod yn ddadleuol. Bydd rhywun yn cwyno beth bynnag fo'r newid y mae Gweinidog yn penderfynu ei wneud i gyfansoddiad cyngor lleol. Felly, i fod yn deg â'r Gweinidog, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau diwethaf i'r...
Gareth Bennett: Roeddem ni, yn UKIP, yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac, fel y dywedais yn y ddadl gynharach yn y fan yma, gwnaethom hynny oherwydd mae angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Effaith y Bil hwn fydd gwrthdroi ailddosbarthiad y cymdeithasau tai i fod yn gyrff cyhoeddus, gyda chanlyniadau a fyddai'n effeithio ar fenthyca yn y sector cyhoeddus....
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am yr ymrwymiad yr ydych chi wedi'i amlinellu. Fel y mae David Melding a Simon Thomas wedi nodi, rydym wedi cael cryn frwydr i gyrraedd y pwynt hwn, ond o leiaf bellach bod rhai ymrwymiadau gan y Llywodraeth. Nawr, rydym ni wedi cael trafodaethau pur helaeth yma yn y Siambr ar y pwnc hwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, rydym...
Gareth Bennett: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno bod yna broblem gyda recriwtio a chadw athrawon. I ryw raddau, mae'r materion sy'n ymwneud â'r broblem hon yn gyffredin i Gymru a Lloegr, ond ceir rhai materion penodol yng Nghymru hefyd. Mewn rhai ffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud bywyd yn anos iddi ei hun o ran recriwtio athrawon oherwydd...
Gareth Bennett: Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n credu mai canolfan drafnidiaeth yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, ac rwy'n credu mai rhan hanfodol o hynny fydd darparu gorsaf goetsys yn rhan o'r cynlluniau cyffredinol ar gyfer y Sgwâr Canolog. A oes gennym ni unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd y bydd gorsaf goetsys newydd yn rhan o'r prosiect terfynol?
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.]
Gareth Bennett: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gorsaf bws yng nghanol dinas Caerdydd? OAQ52011
Gareth Bennett: Diolch i Simon Thomas am ei waith fel yr Aelod arweiniol ar y Bil hwn a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Clywsom gryn dipyn o dystiolaeth yn y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol ar y Bil hwn ac rydym wedi sicrhau rhywfaint o gonsensws ar y pwyllgor ynglŷn â'r angen am fwy o bwerau i'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Yn UKIP, at ei gilydd rydym yn cefnogi'r Bil hwn....