Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Prynhawn da a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dirprwy Lywydd, mae o'n drist dweud, ond mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf yma yng Nghymru yn peintio darlun trist, a hynny yn rhannol oherwydd polisïau ciaidd Boris Johnson a'i Lywodraeth ddiegwyddor yn San Steffan. Symudwyd, er enghraifft, bron i 1,400 o bobl ddigartref mewn i lety dros dro yn ystod...
Mabon ap Gwynfor: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd?
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i ti, Rhys, os caf i, Ddirprwy Lywydd, ddiolch iddo fo am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i Mike Hedges a Peter Fox am gefnogi'r ddadl. Mae gennym ni yma, yn syml, fater o gyfiawnder sylfaenol, onid oes? Pwy ddylai dalu am y gwaith o arbrofi ac ail-wneud yr adeiladau mawr yma sydd yn bygwth iechyd a diogelwch y bobl sy'n byw ynddyn nhw?...
Mabon ap Gwynfor: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
Mabon ap Gwynfor: Ar gyfer y record, mae gen i dŷ lle mae gen i denant hirdymor yn byw ynddo hefyd, lawr yn Aberystwyth. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Mae yna genedlaethau o bobl wedi bod yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael llywodraethau i weithredu ar yr argyfwng yma, argyfwng sydd wedi bod yn wynebu rhai o'n cymunedau ers degawdau. Nôl ar ddechrau'r 1980au, fe wnaeth fy rhagflaenydd...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae'r diwydiant pysgota yn un andros o bwysig i'n cymunedau ni yng Nghymru, ac i gymunedau Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y sector botensial aruthrol ac mae'n syndod cyson i mi nad ydy'r Llywodraeth yn gwneud mwy i fuddsoddi yn y sector a sicrhau ei hyfywedd. Ces i'r fraint o fynd i bysgota cimychiaid a chrancod efo Sion Williams allan o Borth Colmon dros yr haf, a...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi fuaswn i wrth fy modd yn gweld y transition plan yna, ac rwy'n croesawu'ch geiriau chi ar ynni y môr hefyd, achos dyna, wedi'r cyfan, yw'r ffordd ymlaen. Dwi am droi yn olaf at fater taliadau tai dewisol—discretionary housing payments. Yn hyn o beth, dwi am ganolbwyntio ar ba mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r ychwanegiad yma o dros £4...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb hwnnw i gwestiwn gwleidyddol mewn siambr wleidyddol. Dwi am droi rŵan at fater pwerdai nwy. Er gwaethaf ymrwymiad ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio, fel sy’n cael ei ymgorffori yn eich strategaeth sero net, mae wedi dod i’m sylw i ein bod ni yma yng Nghymru, neu yn hytrach fod Llywodraeth Cymru, yn dal i alluogi caniatâd...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gobeithio bod y Gweinidog yn well ar ôl ei hannwyd wythnos diwethaf. Yn dilyn yr etholiad, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, a fydd yn cynnwys ardal beilot. Mae yna gymunedau ar hyd a lled y wlad yn teimlo effeithiau’r argyfwng eang a niweidiol yma. Fy mhryder i, ynghyd â chymunedau drwy Gymru benbaladr,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Llywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn i Rhun am ddod â'r pwnc hynod o bwysig yma ymlaen heddiw yma. Mae geiriau Gareth yn cael eu hatseinio gan bobl ifanc yn Nwyfor Meirionnydd, dwi'n gallu dweud hynny wrtho fo. Mae wedi bod yn fraint i fi gael ymweld â sefydliadau a chanolfannau, a siarad gyda phobl ar hyd a lled Dwyfor Meirionnydd ers cael fy ethol. Ond, wrth siarad efo elusennau...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Wel, roedd tasglu'r Cymoedd, a oedd yn cael ei gadeirio gennych chi rai blynyddoedd yn ôl, yn hyrwyddo deuoli'r A465 ar Flaenau'r Cymoedd, project a fydd, yn ei chyfanrwydd, wedi costio dros £1 biliwn, gan alluogi degau o filoedd o geir i wibio ar hyd y ffordd ar 70 mya bob blwyddyn. Ymhlith y gwahanol ddadleuon a gafodd eu rhoi gerbron am y deuoli yma...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Wel, mae nifer fawr iawn o bobl wedi cysylltu efo'r swyddfa dros yr wythnos neu ddwy diwethaf yn bryderus nad ydyn nhw'n medru cael mynediad at y brechiad ychwanegol, y booster jab. Mae ganddyn nhw bellteroedd mawr iawn i deithio er mwyn cyrraedd meddygfa sy'n cynnig y booster jab, a nifer fawr o bobl yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Wrth gwrs,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Llywydd. Byddwch chi'n falch o glywed fy mod i'n barod y tro yma. Yn dilyn ymlaen o gwestiwn fy nghyfaill Delyth Jewell ynghynt—
Mabon ap Gwynfor: —throughout the rest of Wales?
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o nwyddau yn gorfod cael eu cario gan lorïau a faniau ar hyd ein ffyrdd yng ngogledd Cymru ac, yn wir, yng Nghymru wledig. Does nemor ddim freight yn cael ei gario ar draciau gogledd, gorllewin a chanolbarth Cymru. Os ydyn ni am weld llai o allyriadau o gerbydau, yna mae'n rhaid i ni, fel rydych chi wedi sôn, gario mwy o nwyddau ar drên. Roedd strategaeth...
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o gyfraniad llwythi a gludir gan drenau i economi Cymru? OQ57116
Mabon ap Gwynfor: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraddau COVID-19? OQ57115
Mabon ap Gwynfor: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganlso ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd? TQ576
Mabon ap Gwynfor: Y cwestiwn olaf, felly. Os rydyn ni am weld lliniaru ar newid hinsawdd a bod rhywbeth go iawn yn digwydd i'n cymunedau gwledig ni, yna mae'n rhaid i hynny fynd law yn llaw efo buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ein cymunedau, ac, yn fwy na hynny, mewn gwasanaethau cyhoeddus ein cymunedau. Mae'n iawn i chi ofyn i ryw octogenarian yn Llanbedr i reidio beic pedwar milltir i'r syrjeri agosaf...
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n croesawu'r uchelgais sydd wedi cael ei gyfeirio ato yma y prynhawn yma. Gadewch i ni obeithio na fydd e'n dioddef yr un ffawd â'r uchelgais oedd gan eich Llywodraeth chi o waredu tlodi plant yng Nghymru. Amser a ddengys, wrth gwrs. Maddeuwch fy sinigiaeth; bob tro dwi'n clywed y Llywodraeth yma yn cyhoeddi pethau ynghylch newid hinsawdd ac yn sôn am benderfyniadau anodd a'r angen i...