Siân Gwenllian: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae yna ofid mawr, wrth gwrs, am lefelau cynyddol o blant mewn gofal yng Nghymru, hynny i'r graddau y bu iddo fo ffurfio rhan fawr o adroddiad Thomas, sy'n edrych ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Yn yr adroddiad yna, maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru gryn dipyn yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mi glywsom...
Siân Gwenllian: Mae'n gwbl ryfeddol nad oes gennych chi fel Llywodraeth ddata manwl cenedlaethol am y nifer o bobl sydd yn aros am dŷ cymdeithasol yng Nghymru. O gofio bod hon yn un o'ch blaenoriaethau chi, sef darparu mwy o dai cymdeithasol, sut yn y byd ydych chi'n medru monitro bod eich polisïau chi'n effeithiol os dydych chi ddim yn gwybod un union beth yw'r sefyllfa? Yn Arfon, dwi yn gwybod bod llawer...
Siân Gwenllian: 2. Faint o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol ar draws Cymru? OAQ55160
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y caiff gwariant cyfalaf rhanbarthol yn cael ei ddyrannu?
Siân Gwenllian: Diolch am gadarnhau bod y bwrdd yn mynd i gynnal adolygiad mewnol i'r problemau dyrys a phryderus sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu'r gwasanaethau fasciwlar. Ond, Prif Weinidog, dydy adolygiad mewnol ddim digon da. Mae pobl yn y gogledd wedi colli pob ffydd yn rheolwyr Betsi Cadwaladr, er, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi gwaith y staff ar y rheng flaen yn fawr iawn. Felly, dwi'n siomedig iawn nad...
Siân Gwenllian: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y gwasanaethau fasciwlar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddyn nhw gael eu had-drefnu? OAQ55124
Siân Gwenllian: Yn sicr, mi ydyn ni'n falch o weld y targedau yma'n cael eu gosod. Mae'n rhywbeth rydym ni wedi bod yn galw amdano fo ers tro, wrth gwrs, ac rydym ni'n ei weld o fel cam positif dros ben. Hoffwn i sicrwydd gennych chi y bydd monitro cyflawniad yn erbyn y targed yn digwydd. Efallai y medrwch chi gadarnhau heddiw yma y bydd gennych chi system i fonitro cynnydd fel bod y targed yn un...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, a dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith yna, achos yr athrawon ydy'r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni yn ein hysgolion, wrth gwrs. O gofio'r strategaeth miliwn o siaradwyr, a phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg i lwyddiant y nod hwnnw, mae recriwtio athrawon sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bryder penodol, onid ydy? Mae ystadegau'r bwletin ystadegol yn...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym ni'n ymwybodol bod recriwtio a chadw athrawon yn her yng Nghymru, ac mewn gwledydd eraill hefyd, yn wir, a bod yna nifer o resymau am hyn, a bod angen taclo'r broblem mewn sawl ffordd. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod 40 y cant yn llai na'r targed sydd wedi ei osod ar gyfer hyfforddeion ar gyfer y sector uwchradd, er enghraifft, ac mae adroddiadau...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn rydych chi'n ei ddweud, sef bod trosglwyddo iaith yn un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol. Ym mis Mawrth 2017, gwnes i a Plaid Cymru gyhoeddi hwn, sef 'Cyrraedd y Miliwn', wedi'i gomisiynu gan Iaith, y ganolfan cynllunio iaith, un o brif asiantaethau polisi a chynllunio iaith annibynnol Cymru. Bwriad y ddogfen yma oedd...
Siân Gwenllian: Cynnig.
Siân Gwenllian: Cynnig.
Siân Gwenllian: Roedd fy hen daid i yn chwarelwr yn y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle. Felly, dwi'n falch iawn o gefnogi'r cais i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO ar gyfer ardaloedd llechi gogledd-orllewin Cymru. Wrth dyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1960au, mi o'n i'n ymwybodol iawn o ddirywiad diwydiant oedd, ar un adeg, yn anfon llechi i bob rhan o'r byd. Roedd yr hen gei yn y pentref yn flêr...
Siân Gwenllian: Dwi yn teimlo yn angerddol am hwn, fel rydych chi'n gwybod, ond y cwestiwn ydy: pa newidiadau eraill, heblaw yr ochr drethiannol, fedr eich Llywodraeth chi eu hystyried a mynd i'r afael â nhw er mwyn datrys y broblem yma?
Siân Gwenllian: Mae yna faterion ehangach na'r sgil effaith yma sydd yn digwydd yn y system dreth, wrth gwrs. Ond mae angen datrys hwnnw, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cytuno efo ni mai addasu adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ydy'r ffordd ymlaen. Felly, dim jest ni ar y meinciau yma sydd yn sôn am hyn; mae'r gymdeithas llywodraeth leol, sy'n cynrychioli holl gynghorau Cymru, yn...
Siân Gwenllian: 4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith canran uchel o ail gartrefi ar yr angen am dai o fewn cymunedau? OAQ55005
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr am y datganiad. Drwy hyn i gyd, un cwestiwn penodol sydd yn codi yn fy meddwl i, a hynny ydy cwestiwn ynglŷn ag arian: sut ydych chi'n gallu cysoni cyllideb y Llywodraeth bresennol ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf efo'r uchelgais yn y strategaeth 2050? Er mae yna groes-ddweud wedi bod gan wahanol Weinidogion, yn ôl beth rydym ni'n ddeall, fe fydd y...
Siân Gwenllian: Hoffwn i y prynhawn yma fynd ar ôl dau fater penodol—fydd y materion yma ddim yn newydd i chi; dwi wedi eu codi nhw o'r blaen—yn gyntaf, gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'ch datganiad chi heddiw yn cydnabod, wrth gwrs, mai gweithredu'r diwygiadau ydy'r her fawr, a bod yna dystiolaeth ryngwladol yn dangos bod hynny wedi bod yn glir mewn sefyllfaoedd eraill. A'r ail bwynt dwi am ei...
Siân Gwenllian: Yn sgîl y prosesau cyllidebol sydd yn mynd ymlaen ar hyn o bryd mewn awdurdodau lleol ledled Cymru a'r bygythiad pellach i gludiant i ddysgwyr ôl-16 yn y cyllidebau hynny, a fedrwn ni gael diweddariad, os gwelwch yn dda, ynghylch yr adolygiad o deithio gan ddysgwyr ôl-16, yr adolygiad a gafodd ei gyhoeddi ar 13 Tachwedd? A fedrwch chi hefyd ofyn i'r Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog sy'n...
Siân Gwenllian: Da iawn. Dwi'n falch iawn o glywed hynny, a'ch bod chi wedi comisiynu'r gwaith, ac y bydd hynny, yn wir, yn cynnwys gwaith deddfwriaethol, oherwydd beth rydyn ni'n gwybod ydy bod yna botensial real y byddwn ni'n colli llawer o'r hawliau—hawliau gweithwyr, hawliau menywod, hawliau pobl anabl ac yn y blaen—wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. A dwi'n credu, yn yr haf, mi wnaeth y Cwnsler...