Heledd Fychan: Trefnydd, dros y pythefnos diwethaf, dwi wedi codi ddwywaith gyda'r Gweinidog iechyd bryderon pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd ynglŷn â'r pàs COVID. Er i'r canllawiau COVID gael eu diweddaru yr wythnos diwethaf i ddweud y dylai lleoliadau roi mynediad i bobl sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd, nid yw hyn yn ddigon clir a chryf o'i gymharu â'r system yn Lloegr. Noda gwefan y...
Heledd Fychan: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg oed meithrin?
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion, ac wrth i ni gofio'r holl rai a gollwyd oherwydd rhyfel a gwrthdaro yr wythnos yma, mae’n bwysig hefyd cofio arwyddocâd eu haberth. Wrth gofio, rhaid mynnu cynnydd hefyd ar waith heddwch, a gofynnaf yn garedig...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog.
Heledd Fychan: Byddwch yn ymwybodol i mi godi gyda chi yr wythnos diwethaf fater pobl ag awtistiaeth, ac wedyn fe wnes i ddilyn hyn â gohebiaeth. Roeddwn i'n meddwl tybed a oedd gennych unrhyw eglurder ynglŷn â'r sefyllfa honno, oherwydd bod pobl yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi eto lle byddai hyn yn effeithio arnyn nhw, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth â Lloegr, hefyd y ffaith bod y canllawiau ar...
Heledd Fychan: Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad, Gweinidog, fod y Prif Weinidog wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol. A allwch chi roi gwybod pa ymateb mae'r Prif Weinidog wedi ei gael i'r cais hwn ac, yn ogystal â gwneud yr alwad heddiw, a ydych chi eich hun hefyd wedi ysgrifennu neu a fyddwch chi’n ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn? Byddai...
Heledd Fychan: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae nifer o bwyntiau pwysig yn cael eu codi gennych, ac roedd yn wych cael ein hatgoffa am yr holl gysylltiadau cryf sydd rhwng Cymru ac Affrica, a’r cyfoeth o brosiectau sydd yn cael eu gwireddu’n barod. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae ymgyrch Brechlyn y Bobl yn rhywbeth rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gyfan gwbl gefnogol ohono, a dwi'n cytuno’n llwyr...
Heledd Fychan: Nid wyf yn dymuno ailadrodd cyfraniadau gan eraill heddiw, ond hoffwn adleisio teimladau eraill a thalu teyrnged i Rhian ac eraill sydd wedi dioddef y profiadau gwaethaf ond sydd wedi dod o hyd i nerth i gynorthwyo cymaint o bobl eraill. Rydym yn unedig heddiw yn ein cefnogaeth, ac yn briodol felly. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid inni ei brofi byth, ond yn anffodus,...
Heledd Fychan: Rwy'n sôn yn benodol, Weinidog, am amgueddfeydd lleol a'r adolygiad a gynhaliwyd yn 2015, yn hytrach nag adolygiad Simon Thurley o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae 10 argymhelliad yn yr adolygiad o amgueddfeydd lleol nad ydynt wedi cael eu gweithredu eto, er bod y sector wedi ysgrifennu ar sawl achlysur, ac er yr apeliadau gan sefydliadau fel Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac Amgueddfa...
Heledd Fychan: Yn 2010, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyhoeddi strategaeth ar gyfer amgueddfeydd yn eu cyfanrwydd, strategaeth a gafodd ei chroesawu gan y sector. Daeth hon i ben yn 2015, ac er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar y strategaeth newydd ers 2018, does gan Gymru ddim strategaeth ar gyfer amgueddfeydd erbyn hyn. Pryd bydd y strategaeth hon yn cael ei chwblhau a pha adnoddau...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond, nid peth newydd mo'r heriau sy'n wynebu amgueddfeydd lleol, ac ers nifer o flynyddoedd rŵan rydyn ni wedi clywed geiriau gan Weinidogion ond ddim wedi gweld gweithredu. Yn wir, wedi'r cyfan, oherwydd pryderon am y sector, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o amgueddfeydd lleol yn 2015. Nododd yr adolygiad nad oedd gan amgueddfeydd lleol adnoddau na...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Dros hanner tymor, bu amgueddfeydd ledled Cymru yn cymryd rhan yng ngŵyl amgueddfeydd Cymru. Mae'r ŵyl yn gyfle i ddathlu y rôl hanfodol mae amgueddfeydd o bob maint a math yn eu chwarae a'r effaith gadarnhaol maent yn eu cael mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ar ein heconomi. Serch hynny, fel dengys adroddiad diweddar gan gymdeithas amgueddfeydd Prydain, y...
Heledd Fychan: Roeddwn i eisiau cyfeirio, Gweinidog, at eich pwynt ynghylch tomenni glo, ac roeddwn i eisiau gofyn a wyf i ar ddeall o'ch sylwadau a'r datganiadau fod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf felly wedi methu â dod i gytundeb ynghylch pwy fyddai'n talu am y gwaith hwn. Onid yw'n bryd felly i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith am yr union reswm y gwnaethoch chi ei...
Heledd Fychan: Hoffwn ddatgan fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf cyn gofyn y cwestiwn hwn. Yn sgil y datganiad, eisiau gofyn oeddwn ynghylch deuoli yr A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy, prosiect gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf fel un o’r prosiectau sydd am dderbyn £11.4 miliwn drwy levelling-up fund Llywodraeth Prydain. Yn amlwg, mae hwn yn deillio o gais a gafodd ei wneud gan gyngor...
Heledd Fychan: Mae yna nifer o bobl yn byw yn rhanbarth Canol De Cymru wedi cysylltu â fi sydd gydag aelodau o’r teulu sydd gydag awtistiaeth ac sydd yn gwrthod cael brechlyn am bob math o resymau, gan gynnwys dod yn rhy bryderus i gael brechlyn tra maen nhw mewn canolfan frechu oherwydd staff dibrofiad ddim yn delio’n sensitif gyda’u hanghenion. Mae nifer hefyd yn methu neu’n gwrthod cymryd prawf...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiannau creadigol, a’i hymrwymiad o ran sicrhau cefnogaeth i fwy o bobl yng Nghymru weithio yn y sectorau cysylltiedig. Dwi hefyd yn croesawu yn fawr y datganiad penodol o ran amrywiaeth, a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol weithio yn sector ffilm a theledu yn...
Heledd Fychan: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Academi Heddwch Cymru ynghylch strategaethau rhyngwladol a pholisïau Llywodraeth Cymru?
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni hefyd, darparodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn yn ychwanegol mewn adnoddau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yn benodol yn 2021-22 drwy'r gronfa adfer gofal cymdeithasol. Drwy hyn, mae cyngor RhCT wedi penderfynu talu'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion a chynorthwywyr personol dan gontract o fis Rhagfyr ymlaen, sydd...
Heledd Fychan: Hoffwn ddatgan buddiant ar y dechrau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at mis Mai flwyddyn nesaf.
Heledd Fychan: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd y setliad llywodraeth leol eleni? OQ57010