Mark Reckless: Diolch am yr ateb yna. Tybed pam y credir nad yw hynny o fewn y cwmpas. Dywedodd un aelod o staff Llafur a siaradodd yn ddewr â BBC Panorama bod ymchwilwyr yn cael eu tanseilio, pan roddwyd achosion iddynt, gan bobl a oedd eisiau bod yn drugarog o ran gwrth-Semitiaeth, ac yna cymerwyd yr achosion hynny i ffwrdd oddi arnynt. Yn aml, pobl o swyddfa Jeremy Corbyn oedd y rheini, ond onid dyma a...
Mark Reckless: Prif Weinidog, fe wnaethoch sôn yr wythnos diwethaf am eich awydd i gychwyn rhan gyntaf Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, felly byddaf yn eich holi yr wythnos hon am adran 20 ac Atodlen 2 y deddf honno. Maen nhw'n darparu ar gyfer ymchwiliad statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan gredir bod sefydliad wedi gwahaniaethu yn anghyfreithlon yn erbyn pobl oherwydd eu...
Mark Reckless: A wnaiff y Llywydd ildio?
Mark Reckless: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd. Dywedodd fod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fwy ffodus na ni am fod ganddynt fwy o Aelodau. A wnaiff hi hefyd gydnabod bod yr ystod a roddir yn yr adroddiad a gadeiriwyd gan yr Athro McAllister, hyd yn oed ar ben isaf yr ystod honno—yr 80—y byddai hynny'n rhoi mwy o Aelodau y pen inni nag a welwn yn yr Alban?
Mark Reckless: Rwy'n cymryd y cywiriad hwnnw'n llwyr, diolch yn fawr iawn—llai o gynghorwyr. Mae hynny'n peri embaras mawr i mi. Llai o gynghorwyr, 11 yn llai o ASau, a phedwar yn llai o ASEau—efallai yr hoffai'r Aelod ddod â'i ddadl yn ôl bryd hynny. Ond nid yw ein grŵp ni wedi ein darbwyllo ynglŷn â’r achos dros gynyddu maint y Cynulliad ac nid ydym yn credu y bydd Aelodau eraill yn gallu dod...
Mark Reckless: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Caroline. Diolch i'r Aelod am ei araith. Roeddwn i'n meddwl ei fod wedi siarad mewn ffordd bwyllog tu hwnt. Mae eraill yn dweud y gallai fod yn chwarae gwleidyddiaeth. Credaf fod yr ymadrodd hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n aml naill ai pan fo grwpiau'n rhanedig ymysg eu hunain o ran eu safbwynt neu pan fydd safbwynt yr Aelod ei hun yn...
Mark Reckless: Nid ydym o blaid diddymu'r Cynulliad. Nawr, ar y pwynt iaith, cawsom ymgynghoriad, ac mae memorandwm esboniadol y Llywydd yn dweud wrthym fod 53 y cant yn credu bod yr enw 'Senedd' yn disgrifio'n dda yr hyn y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud. Nid yw'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym fod yr ymgynghoriad wedi dangos—neu nid wyf wedi darllen ynddo, ac rwyf wedi edrych yn weddol...
Mark Reckless: Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaeth yr Aelod yn awr mewn perthynas â bod yn Senedd i Gymru a bod yn Aelodau o Senedd Cymru. Gresynaf ei fod, mae'n debyg, wedi dweud y gwrthwyneb yn y broses a arweiniodd at ddod â'r Bil i ni ar y ffurf y mae ynddi heddiw, oherwydd ym memorandwm esboniadol y Llywydd, mae'n dweud, yn gryno: 'Diben y Bil yw: ailenwi’r Cynulliad yn “Senedd”.' Yna mae'n...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio? Nid oes unrhyw un yn awgrymu marchnad—dim ond fod rhieni'n gorfod talu er mwyn gallu cymharu pa mor dda y mae ysgolion yn perfformio, er mwyn llywio eu barn o ran (1), ble maent am i'w plant fynd i'r ysgol, a (2), sut i helpu'r ysgolion hynny i wella wedyn drwy eu dwyn i gyfrif.
Mark Reckless: Os felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw atebolrwydd, mesuriadau, targedau, a'r gallu i gymharu'r pethau hynny, yn hytrach na hunanwerthuso mwy cyflawn y gellir ei ddisgrifio fel arall yn ysgolion yn marcio eu gwaith cartref eu hunain?
Mark Reckless: Hoffwn longyfarch Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i ddirymu heddiw, a hefyd am dynnu fy sylw at y cynnig hwn yn y Siambr pan godais hyn, bythefnos yn ôl rwy'n credu, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ddeuthum ag ef i'r Siambr mewn cyd-destun arall. Yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Suzy am ei gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i lefarwyr, ac yn wir, i Aelodau eraill y...
Mark Reckless: Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad ar eich eistedd yna. Mae'n ymddangos ein bod ni'n aml yn ei chael yn haws ariannu pethau o gyllidebau cyfalaf sy'n trosglwyddo i refeniw nag i'r gwrthwyneb. Rwy'n credu y byddem ni'n buddsoddi arian yn dda. Fodd bynnag, o'r £85 miliwn hwnnw dim ond £5 miliwn, wrth ddarllen i lawr, sydd mewn gwirionedd yn mynd i linell wariant y gyllideb ar gyfer...
Mark Reckless: Byddwn ni hefyd yn ymatal ar sylwedd y cynnig hwn ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, a gaf i ganmol y Llywodraeth am ei chyflwyniad gwell o lawer o'r gyllideb atodol? Rwy'n cofio dair blynedd yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Cynulliad, y gyllideb atodol gyntaf i mi ddod ar ei thraws. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai fy mhrofiad, o ran edrych ar gyllidebau Llywodraeth y DU neu...
Mark Reckless: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am y copi ymlaen llaw, a dweud hefyd pa mor braf yw gweld faint o'i ddatganiadau gweinidogol y mae'n aros ar eu cyfer? Nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cofio ei weld yn San Steffan erioed. Mae gennyf i dri maes yr oeddwn i eisiau ei holi yn eu cylch yma. Mae'r cyfeiriadau—. Dechreuodd drwy ganmol ein model o bartneriaeth gymdeithasol a...
Mark Reckless: Efallai, Prif Weinidog, y gallai sefyll ar sail maniffesto, gan addo darparu ffordd liniaru i'r M4 ac yna gwneud y gwrthwyneb, fel yr ydych chi'n ei wneud. Rydych chi'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth y DU, ac eto ni wnaethoch chi wrthwynebu erioed i swyddogaeth yr UE o ran sut y gwariwyd y symiau hyn. Dywedasoch wrthym yr wythnos diwethaf bod unoliaethwyr yn peryglu'r...
Mark Reckless: Dywedodd yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn bod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4. Dywedodd hefyd, fel y dywedasoch yn gynharach, Prif Weinidog, y dylai fod dylanwad Ceidwadol cryf ar sut y caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei gwario. Prif Weinidog, dywedasoch fod diffyg arian wedi eich atal rhag bwrw ymlaen â ffordd...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A gaf fi egluro, pan mae hi'n dod i gasgliadau negyddol yn gyffredinol ynghylch bagloriaeth Cymru, a yw'n cyfeirio'n benodol at y dystysgrif her sgiliau, neu a yw'n cyfeirio at yr ymbarél, oherwydd mae'r holl gymwysterau eraill hyn ar gyfer yr ymbarél yn cael eu hastudio beth bynnag, felly ym mha synnwyr y byddech am gael gwared arnynt?
Mark Reckless: Roeddwn ar y pwyllgor ar y dechrau pan benderfynwyd gwneud yr adroddiad hwn ac ystyriwyd rhywfaint o'r gwaith cwmpasu cychwynnol a nodwyd yr hyn a ddisgrifiodd y Cadeirydd fel rhai o'r pryderon a oedd yn cymell y pwyllgor i wneud hyn, ond nid wyf wedi cael y fantais o eistedd drwy'r dystiolaeth, sydd, i rai o aelodau'r pwyllgor o leiaf, fel pe bai wedi lliniaru o leiaf rai o'r pryderon a...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?