Canlyniadau 401–420 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl sy'n cymryd PrEP—wrth gwrs, na ddylen nhw wynebu unrhyw stigma, ac wrth gwrs byddwn ni'n sicrhau na fydd hynny'n digwydd. Ond y ffordd o wneud hyn yw dod â'r cyhoedd gyda ni, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r ffaith bod y byd wedi symud ymlaen yn fawr iawn ers y 1980au, a bod pobl sy'n derbyn y therapi...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, ac wrth gwrs rŷn ni eisiau gweld a sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed yna o 2030, ond, os gallwn ni fynd yn gyflymach, wrth gwrs bydden ni'n hoffi gweld hynny hefyd. Mae'n dibynnu i ba raddau mae'r cyhoedd yn dod gyda ni ar y siwrne yma. Un o'r rhesymau, ac un o'r pethau dwi'n gobeithio ddaw o'r ffaith ein bod ni'n rhoi cymaint o sylw i hwn heddiw ac rŷn ni'n gobeithio...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Russell. Yn sicr, pan ddaw'n fater o adrodd—ac yn amlwg, ymgynghoriad yw hwn, felly mae cyfle i bobl gyfrannu eu syniadau y tu hwnt i'r hyn a nodwyd hyd yn hyn—ond, yn sicr, o ran monitro, rydym yn glir iawn y bydd grŵp goruchwylio i sicrhau bod y 26 o gamau a nodwyd yn cael eu monitro mewn gwirionedd a'u bod yn cael eu cymryd o ddifrif. Os hoffech i mi ddod yn ôl...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r 26 o gamau gweithredu wedi'u seilio ar dair egwyddor graidd: ni ddylai fod unrhyw oddefgarwch o stigma sy'n gysylltiedig â HIV; bydd yr holl gynlluniau ar gyfer gweithredu mentrau a gwasanaethau newydd yn cael eu llywio gan bobl sy'n byw gyda HIV, neu byddan nhw'n cael eu datblygu gyda nhw. Ochr yn ochr â hyn, bydd cydnabyddiaeth o wahaniaethau mewn cyd-destun o ran rhywioldeb,...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gweithredu HIV Drafft (14 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cynllun gweithredu HIV hwn i'r Senedd. Mae hwn yn cyflawni ein hymrwymiadau uchelgeisiol yn ein rhaglen lywodraethu a wnaethom i ddatblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru ac i fynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV. Er ein bod wedi cymryd camau breision mewn llawer o feysydd sy'n gysylltiedig â HIV yn ystod y blynyddoedd...

9. Dadl Fer: Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae safonau Cymru gyfan yn rhoi arweiniad i staff y gwasanaeth iechyd ar sut i sicrhau bod anghenion cleifion am gymorth o ran gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu, ac mae hynny'n cynnwys BSL. Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth roi trefniadau ar waith i gyflawni'r safonau er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn hygyrch, gan gynnwys ar gyfer y gymuned fyddar....

9. Dadl Fer: Materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a phobl sy'n dioddef o golled clyw ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Hoffwn dalu teyrnged i Joel am ddod â'r mater hwn i sylw'r Senedd. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i grŵp y Torïaid, oherwydd mae'n hyfryd gweld y ffordd y mae pawb ohonoch yn cefnogi eich gilydd yn y dadleuon byr hyn. Mae'n esiampl go iawn i'r gweddill ohonom, felly da iawn chi. Fe fyddwch yn falch o glywed bod fy araith 15 tudalen bellach wedi'i thorri i bump. [Chwerthin.]...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Ddoe, fe wnes i esbonio yr ymyriadau difrifol a sylweddol sydd yn cael eu gwneud, ac fe wnaf i ddim ailadrodd hynny eto. Mae gwelliannau sylweddol wedi bod ar draws y bwrdd iechyd dros y saith mlynedd diwethaf ac mae'r sefydliad yn un sylfaenol wahanol i'r un a gafodd ei roi dan fesurau arbennig. Mae'r tîm gweithredol wedi'i adnewyddu, gan gynnwys prif weithredwr a chyfarwyddwr meddygol...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Nawr, mae'r penderfyniad, fel y dywedais ddoe, yn adlewyrchu pryderon difrifol ac eithriadol iawn am yr arweinyddiaeth, y trefniadau llywodraethu a chynnydd, yn enwedig yng Nglan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd ac yn yr adran achosion brys. A hoffwn ei gwneud yn gwbl glir fod profiadau fel yr un y cyfeirir ato—y Parchedig Jones, er enghraifft—yn gwbl annerbyniol. Mae'r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Ddoe, rhoddais ddatganiad llafar ynghylch statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle y dywedais fy mod wedi cael a derbyn cyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru y dylid ymestyn trefniadau ymyrraeth wedi'i thargedu yn y bwrdd iechyd i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Hoffwn i jest ei gwneud hi'n hollol glir fy mod i yn derbyn bod y sefyllfa yn un ddifrifol, a dyna pam rŷn ni'n cymryd y camau yma.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Cefais fy nghyhuddo ddoe o wthio datganiad i mewn yn fwriadol i danseilio'r ddadl heddiw, a hoffwn eich sicrhau nad oedd hynny'n wir. Ar brynhawn 26 Mai, cynhaliwyd y cyfarfod teiran. Ddydd Gwener 27 Mai, cefais fy mriffio ar yr argymhellion. Ddydd Llun 30 Mai, am 2.25 p.m., comisiynwyd fy natganiad llafar gan swyddogion arweiniol. Ac am 5 p.m. y prynhawn hwnnw, cyhoeddwyd y cynnig ar gyfer...

4. Cwestiynau Amserol: Canolfan Ganser Rutherford ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, gwnaed y buddsoddiad yn Rutherford gan reolwr cronfa a oedd yn gweithredu o dan gontract i Fanc Datblygu Cymru, ac yn amlwg, mae hynny hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Felly, o ran diwydrwydd dyladwy, eu cyfrifoldeb hwy fyddai hynny. Mae’r gronfa'n gronfa bortffolio, ac wrth gwrs, mae risgiau uchel ynghlwm wrth rai buddsoddiadau, ac wrth gwrs, ni allwn ddisgwyl i...

4. Cwestiynau Amserol: Canolfan Ganser Rutherford ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, mae hwn yn fater y tynnwyd fy sylw ato sawl wythnos yn ôl, felly yn amlwg, rydym wedi bod yn dilyn y mater yn agos iawn a chyda’r pryder mwyaf ar ran y bobl sy’n cael eu triniaeth yno. Mae therapi pelydr proton, fel y mae'r ddau siaradwr wedi nodi'n glir, yn ddull arbenigol iawn o drin canser. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i ymyrryd i brynu'r...

4. Cwestiynau Amserol: Canolfan Ganser Rutherford ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, ac yn amlwg, mae’r newyddion hwn yn hynod o drist i’r staff yng Nghasnewydd a’r cleifion sy’n cael triniaeth yno, ac wrth gwrs, i’r economi leol. Nawr, ein blaenoriaeth, yn gyntaf oll, oedd sicrhau bod pobl sydd hanner ffordd drwy eu triniaeth yn gallu parhau â'u therapi, boed yn gleifion GIG neu breifat, gan mai diogelwch cleifion yw ein prif bryder wrth gwrs....

4. Cwestiynau Amserol: Canolfan Ganser Rutherford ( 8 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Gallaf gadarnhau bod rhiant-gwmni canolfan ganser Rutherford yng Nghasnewydd wedi cofnodi ansolfedd, ac o ganlyniad, mae'r ganolfan yn debygol o gau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'r GIG yng Nghymru yn sicrhau bod cleifion sydd wedi dechrau eu triniaeth yn gallu cwblhau eu triniaeth.FootnoteLink

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel dydyn nhw ddim, a dyna'r pwynt. A dyna'r pwynt. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym yn colli golwg ar y ffaith bod yna bobl, mewn gwirionedd, sy'n fodlon ar y gefnogaeth a'r gwasanaeth y maen nhw yn eu cael yn Betsi. 

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn gyntaf oll, o ran Gwelliant Cymru, rydych chi'n hollol gywir mai sefydliad a ganolbwyntiodd o'r blaen ar y rhaglen 1000 o Fywydau ydoedd, sef rhaglen ddiogelwch i gefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn eu hymdrechion i leihau niwed, gwastraff ac amrywiadau mewn gofal iechyd yng Nghymru. Roedd hynny'n cynnwys gwaith ar ddileu briwiau pwyso a gafwyd yn yr ysbyty,...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae rhai pethau, Gareth, yr wyf i'n disgwyl iddyn nhw wella'n gyflym iawn. Rwy'n credu bod rhai gwelliannau eisoes wedi digwydd o ran y gwasanaeth fasgwlaidd. Bydd eraill a fydd yn cymryd mwy o amser. Mae'r newid diwylliannol sy'n angenrheidiol o fewn y sefydliad—y ffaith ei fod yn derbyn bod angen iddo fod yn sefydliad sy'n gwella ei hun—yn rhywbeth na fydd yn bosibl ei...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 7 Meh 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n credu y byddai ad-drefnu ar hyn o bryd yn gostus, byddai'n tynnu sylw oddi wrth y materion pwysig sy'n ymwneud â gofal wedi'i gynllunio, byddai'n dargyfeirio adnoddau, ac mae fy ffocws ar hyn o bryd ar ofal cleifion. Nid oes dim byd wedi'i 'dorri a'i gludo' ynghylch y datganiad hwn; gallaf i eich sicrhau chi fy mod i wedi treulio llawer o amser yn gweithio arno. Rwy'n credu y byddaf...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.