John Griffiths: Gwnaf.
John Griffiths: Ddirprwy Lywydd, mae llawer ohonom wedi gweld adroddiad yr Athro Philip Alston, rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig, ar dlodi eithafol a hawliau dynol, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Canfu'r adroddiad nad yw cyflogaeth wedi profi'n ffordd awtomatig allan o dlodi yng Nghymru a bod tlodi mewn gwaith wedi cynyddu dros y degawd diwethaf. Mae 25 y cant o'r swyddi sy'n cael llai na'r cyflog byw, a...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Mae'r darlun o dlodi yng Nghymru yn un llwm. Mae Cymru'n wynebu'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda bron un o bob pedwar o bobl yn byw mewn tlodi incwm heddiw. Mae'r mater yn aml yn ymwneud â dosbarth cymdeithasol. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, os ydych chi'n fenyw sy'n byw mewn dinas ddosbarth gweithiol, rydych chi'n debygol o farw...
John Griffiths: Weinidog, mae'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn rhai dybryd sydd angen eu datrys ar frys, ac mae'n amlwg bod angen ymateb iddynt yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor. Yn bersonol, credaf fod 'rhagweld a darparu' wedi'i danseilio i raddau helaeth fel model ar gyfer ymdrin â'r problemau hyn, a dyna pam rwy'n croesawu'r penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd...
John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion preifat?
John Griffiths: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'ch penderfyniad, ac rwyf wedi arddel y farn honno ers tro. Ond deallaf iddo fod yn benderfyniad anodd iawn ichi ei wneud, gyda dadleuon cryf iawn ar y ddwy ochr. Mae hyn hefyd yn egluro'r ffaith fod gen i a Jayne, er ein bod yn cytuno'n llwyr ar raddfa a difrifoldeb y problemau, safbwyntiau gwahanol ynghylch yr ateb gorau, serch hynny. Ond mae dadleuon cryf iawn...
John Griffiths: Er mwyn parhau i wella'r lefel hon o gymorth a gofal, mae angen i ni fynd ati yn y tymor hir i ariannu'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol. Mae'n rhan allweddol o sicrhau bod cleifion yn gallu gwella eu hyder drwy ymarfer corff a rheoli eu diffyg anadl. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddi mewn mentrau i...
John Griffiths: Yn anffodus, nid yw pawb yn gallu elwa ar wasanaeth adsefydlu’r ysgyfaint, gyda dim ond 1 o bob 10 o bobl yn defnyddio gwasanaethau. Mae amseroedd aros ledled Cymru yn amrywio o 77 wythnos i lai nag 8 wythnos, gyda chyn lleied â thair rhaglen y flwyddyn yn cael eu cynnig i gleifion mewn rhai ardaloedd. Fe ddylid ac fe ellid aildrefnu cyllid oddi wrth driniaethau drud gydag anadlwyr tuag...
John Griffiths: Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi canfod bod y gost i'r DU oddeutu £11 biliwn y flwyddyn, ac mae cyfran sylweddol ohoni'n ymwneud â Chymru. Mae'r marwolaethau'n 15 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, ac o fewn hyn, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sydd i gyfrif am y nifer uchaf ohonynt. Grŵp o gyflyrau yw COPD, sy'n gynnwys broncitis ac...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle heddiw i drafod y trydydd achos marwolaeth mwyaf cyffredin yng Nghymru heddiw, clefyd yr ysgyfaint. Mae salwch anadlol yn effeithio ar un o bob pum bywyd yng Nghymru, cyfradd uwch na chyfartaledd y DU. Nid yw cyfraddau marwolaethau wedi gwella llawer yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac yn anffodus, gennym ni y mae'r ffigurau sy'n bedwerydd uchaf...
John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r sail foesegol ar gyfer strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
John Griffiths: Ers 2017, fel pwyllgor, rydym ni wedi bod yn galw am newid i'r rheoliadau diogelwch tân, ac yn benodol am ddiwygio Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Byddai'r ddeddfwriaeth newydd hon i osod safonau ar gyfer pobl sy'n cynnal asesiadau risg o dân a drafodwyd gennym ni yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r asesiadau hynny gael eu cynnal bob blwyddyn ac yn egluro bod y drysau tân...
John Griffiths: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a chroesawu hynny, a hefyd gwaith y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau? Yn amlwg, mae'r pwyllgor yr wyf yn gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wedi bod â diddordeb mawr yn y materion hyn, sy'n faterion brys a difrifol iawn, fel yr ydym ni eisoes wedi trafod heddiw. Mae'n fater o ddiogelwch mewn...
John Griffiths: Weinidog, mae'n adeg ofidus i'r diwydiant dur ym mhob rhan o Gymru, ac yn amlwg, rydych chi'n pryderu am holl weithfeydd Tata ledled y wlad, fel y dywedoch chi. I mi, yn amlwg, mae Llan-wern a gwaith Orb yn peri pryder arbennig am eu bod yn darparu llawer o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda yn lleol, ac mae swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi ac yn y blaen yn dibynnu arnynt. Mae gwaith...
John Griffiths: Rwy'n credu bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt, Gweinidog, fod diffyg cysondeb ledled Cymru, ac rydych chi eich hun wedi gwneud y pwynt hwnnw. Felly, mae angen mwy o hyfforddiant, mwy o gapasiti, mwy o gefnogaeth ar ein hawdurdodau lleol. Mae arian sylweddol ar gael, a gobeithio y bydd yn cynyddu eto, ond rwy'n credu y bydd ystyried y cyllid hwnnw ac yna eich clywed chi yn disgrifio...
John Griffiths: Prif Weinidog, roedd marathon Casnewydd ar Sul cyntaf y mis hwn yn llwyddiant ysgubol, gan adeiladu ar lwyddiannau'r flwyddyn gynt. Roedd tua 6,000 o redwyr yn y marathon, y ras 10 cilomedr a'r llwybr rhedeg teuluol, awyrgylch carnifal yng Nghasnewydd, enillwyd marathon y menywod gan fenyw o Gasnewydd, a oedd yn plesio'r holl bobl leol, ac fe wnaeth lwyddo yn wirioneddol i annog pobl leol i...
John Griffiths: 5. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i adeiladu ar lwyddiant cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru? OAQ53874
John Griffiths: Diolch i'r Gweinidog am hynny. Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â therfyn cyflymder diofyn posibl o 20 mya mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, a chredaf y byddai hynny'n darparu llawer o fanteision. A allech roi rhagor o fanylion inni am y trefniant newydd hwnnw, Weinidog, o ran aelodaeth a...
John Griffiths: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru? OAQ53822
John Griffiths: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n credu bod llawer yn ein system addysg heddiw sy'n ymwneud â thosturi ac uniaethu, onid oes? A llawer am amrywiaeth, deall amrywiaeth, a'i pharchu. Rwy'n siŵr bod Kirsty Williams wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn adeiladu ar hynny. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am gydlyniant cymunedol a'r...