Canlyniadau 401–420 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Fferm Gilestone (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Gwnaethoch chi sôn bod trafodaethau yn parhau gyda'r Dyn Gwyrdd, felly os, ar ddiwedd y trafodaethau hynny, y penderfynir peidio â bwrw ymlaen â'r cynnig, bydd amcanion polisi eraill yn cael eu harchwilio ar gyfer defnyddio'r safle, neu mae modd ystyried y safle i'w werthu ar y farchnad agored. A dyna fyddai'r amser wedyn i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Fferm Gilestone (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Mae modd ystyried holl asedau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unrhyw agenda polisi. Ar hyn o bryd mae fferm Gilestone yn cael ei rheoli'n briodol er mwyn sicrhau bod yr ased yn cael ei gynnal tra bod trafodaethau ar ddyfodol tymor hir y safle yn dod i ben.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Nid wyf yn mynd i wneud unrhyw ymrwymiadau gwario heddiw. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud sawl gwaith y prynhawn yma mai penderfyniadau dan arweiniad y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fydd y rhain, ond yn cael eu cymryd ar draws y Llywodraeth gyfan wrth i ni weithio tuag at gyhoeddi ein cyllideb ddrafft fis nesaf. Dydw i ddim yn credu fy mod i wedi bod yn angharedig o gwbl. Rwy'n credu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Ni allaf ddweud unrhyw beth yn benodol ynghylch sut y byddwn yn ariannu gwasanaethau amddiffyn plant wrth symud ymlaen. Fel y dywedais i, byddwn yn edrych yn gyffredinol ar sut yr ydym yn defnyddio'r cyllid a ddyrannwyd i ni yr wythnos diwethaf, ond rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch targedu cymorth i'r gwasanaethau cyhoeddus mwyaf agored i niwed a blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus—mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel y soniais mewn atebion cynharach, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol—yn amlwg, Llywodraeth Cymru gyfan—yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion y cyllid a ddyrannwyd i ni yr wythnos diwethaf, wrth i ni baratoi i gyflwyno'r gyllideb ddrafft. O ran y gronfa cymorth dewisol, rwy'n cytuno â chi—mae'n gronfa ardderchog. Mewn gwirionedd mae'r swyddfeydd wedi'u lleoli yn fy...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Yn bendant. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i wthio'r pwyntiau hynny a wnaethoch chi. Yn syml, maen nhw'n niferoedd syfrdanol yn adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hwnnw y cyfeirioch chi atyn nhw. Bydd incwm gwario real aelwydydd fesul person yn gostwng mwy na 7 y cant dros y ddwy flynedd nesaf, fel y dywedoch chi, a dyna'r cwymp mwyaf erioed. Mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dryloywder a lle mae'r bai. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wedi cael degawd o gyni, ac erbyn hyn rwy'n credu bod hyn hyd yn oed yn waeth na'r elfennau o gyni a gyflwynon nhw dros y degawd diwethaf. Mae'r DU mewn dirwasgiad dwfn, ac mae incwm aelwydydd yn gostwng ar raddfa anhygoel o gyflym. Beth wnaeth y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 6 a 9 gael eu grwpio. Er gwaethaf rhai ychwanegiadau cymedrol i'n setliad dros y ddwy flynedd nesaf, nid yw datganiad yr hydref yn mynd yn agos at ymdrin â'r pwysau yr ydym yn eu hwynebu. Y gwir yw ein bod yn dal i wynebu toriad mewn termau real yn ein cyllideb, a fydd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau a gwasanaethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cŵn Tywys (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'n llawn ymgyrch Open Doors Cŵn Tywys Cymru, pryd rydym yn annog pob manwerthwr i gydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Mae'n erchyll eich clywed yn dweud y gwrthodwyd mynediad i 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a oedd yn rhan o'r adolygiad—mae'r ddau ohonom newydd ddefnyddio'r gair 'anghyfreithlon'.  O ran strydoedd mwy diogel, byddaf yn sicr yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cŵn Tywys (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n hynod siomedig clywed yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, Jack Sargeant. Mae'r sefyllfa honno'n gwbl annerbyniol ac, fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae'n anghyfreithlon. Mae gan bobl sydd â chŵn cymorth hawl yn ôl y gyfraith i gael mynediad i safle manwerthu—fe wnaethoch chi sôn am westy, hefyd—ac ni ddylid gwrthod mynediad i safle. Rydym yn gweithio gyda Chonsortiwm...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cŵn Tywys (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn glir: mae'n anghyfreithlon gwrthod mynediad i berson anabl sydd â chi cymorth. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn gyfrifol am lynu wrth y Ddeddf ac rydym yn gweithio gyda nhw i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth ar gyfer Llifogydd (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn llawer gwell i bawb sy'n gysylltiedig â hyn fabwysiadu agwedd ataliol at lifogydd, yn hytrach na gorfod ymateb bob amser. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i'r mesurau ataliol hynny, gyda nifer fawr o gynlluniau ledled y wlad, nid dim ond yn y de-orllewin. Fe wnes i sôn yn fy ateb wrth Sioned Williams mai dim ond rheoli risg y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth ar gyfer Llifogydd (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch yr asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag effeithiolrwydd buddsoddi yn y cynllun, darparwyd cyllid ar gyfer sgrin brigau newydd i'r awdurdod lleol drwy ein cronfa cynlluniau ar raddfa fechan i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Darparon nhw gynigion manwl ar gyfer ailgynllunio'r sgrin brigau bresennol honno'n sylweddol, ac...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n amlwg—gan ei fod yn fy etholaeth i—fy mod yn ymwybodol iawn o'r adran arloesedd addysg iechyd newydd ym mhrifysgol Glyndŵr ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Mae gennym ni ddarpariaeth debyg lawr yn Abertawe, felly mae'n wych ei chael yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym yn gwybod, on'd ydym ni, o ran lle mae pobl yn hyfforddi, maen nhw'n aml yn aros yn yr ardal honno....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth ar gyfer Llifogydd (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae ein hamcanion cyllido i leihau'r risg o lifogydd i gymunedau wedi'u nodi yn ein strategaeth llifogydd genedlaethol a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn darparu £36.4 miliwn o arian grant parhaus ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd o'r gwaith dylunio i waith adeiladu yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Mae gen i ofn nad oes gen i ateb i'ch cwestiwn olaf am ddigwyddiadau byth. Byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad â hynny. Fel y dywedais i yn fy ateb agoriadol i chi, mae prinder staff nyrsio byd-eang; nid yw hyn yn unigryw i Gymru na'r DU yn unig. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym gymaint o staff y gwasanaeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Cafwyd rhai manteision sylweddol o gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, gan gynnwys cyllid uwch a llais nyrsio cryfach o lefel ward i lefel bwrdd. Fodd bynnag, mae'n anochel bod pandemig COVID-19 a phrinder byd-eang parhaus o staff nyrsio wedi bod yn her i fyrddau iechyd wrth geisio gweithredu'r Ddeddf.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Yn hollol. Roedd yn dro pedol munud olaf gwarthus gan FIFA. Roedd yn osodiad gwahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n ei wneud. Rwy'n credu mai'r un cychwynnol oedd y bydden nhw'n dirwyo'r gymdeithas bêl-droed, ac rwy'n credu yn sicr y cymdeithasau pêl-droed Ewropeaidd a oedd wedi cytuno i hynny, fe wnaethon nhw dderbyn hynny, i raddau, os hoffech chi. Mae cosbau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Nid yw'r ffigyrau gennyf wrth law yr ydych yn gofyn amdanyn nhw ynghylch cronfeydd wrth gefn a chyllid heb ei ddyrannu—. Ond y cyfan y gallaf ei ddweud i'ch sicrhau chi yw mai ychydig iawn fydd ar ôl o'r gronfa wrth gefn neu o'r cyllid heb ei ddyrannu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, oherwydd y bylchau sydd gennym yn ein setliad oddi wrth Lywodraeth y DU. Dydw i ddim wedi gweld naill...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt olaf am gyllid heb ei ddyrannu a chronfeydd wrth gefn. Rwy'n siŵr bod arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth y DU ynddi. Fe glywsoch chi fi, yn fy atebion cynharach ynghylch datganiad yr hydref, yn sôn am y bwlch go iawn sy'n dal yno—. Mae chwyddiant yn 11.1 y cant—11.1 y cant. Nid yw ein cyllideb yn agos at allu ymdopi...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.