Joyce Watson: Byddaf i'n cefnogi'r Bil, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ar y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rwy'n mynd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi dileu'r hawl i dynnu'n ôl a'i bod yn cadw at addysg cydberthynas a rhywioldeb a pherthnasoedd iach, a bod Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny'n orfodol, ac rwy'n falch iawn iawn bod hynny'n digwydd. Bydd llawer ohonoch...
Joyce Watson: Diolch i chi, Prif Weinidog. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael dadl dda iawn ar y cyfan yn y fan yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd—mae hynny'n braf iawn nid yn unig yn y fan yma, ond rwy'n siŵr i'r bobl y tu allan hefyd. Ac rydym yn cerdded llwybr cul iawn yn y fan yma, ond mae gennym ni, fel y mae llawer o bobl...
Joyce Watson: Hoffwn ddiolch i'r rhai a gyflwynodd y ddadl bwysig hon, ac roeddwn yn fwy na pharod i'w chefnogi. Rwyf am ganolbwyntio ar un maes penodol yn fy nghyfraniad. Gwyddom i gyd fod pandemig COVID wedi cael effaith enfawr ar rieni a'u babanod, ond yn arbennig y rhai sydd angen gofal arbenigol mewn unedau newyddenedigol. Ers dechrau'r pandemig, mae mynediad llawer o rieni wedi'i gyfyngu, yn aml gyda...
Joyce Watson: Diolch yn fawr, Lywydd. Diwedd y gân—ac mae cyfrifiadau Undeb Amaethwyr Cymru yn profi hyn—yw bod hyn yn fflangellu'r economi wledig, ac mae hynny'n arwydd o'r hyn sydd i ddod. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn rhybuddio bod y Bil marchnad fewnol yn agor y drws i Lywodraeth y DU leihau’r cyllid a ddaw i Gymru drwy'r grant bloc. Mae'n rhoi pwerau i San Steffan benderfynu beth sydd orau...
Joyce Watson: Mae'r Bil marchnad fewnol yn gwneud un peth, ac un peth yn unig—mae'n ceisio gwyrdroi canlyniad y refferendwm ac anwybyddu ewyllys y bobl. Yn 2011—ac mae ambell un wedi cyfeirio at hyn heddiw—gofynnwyd cwestiwn uniongyrchol i ddinasyddion Cymru, sef, 'A ydych yn dymuno i'r Cynulliad—' fel y’i gelwid bryd hynny— 'allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo...
Joyce Watson: Nid oes gennym y fath beth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae gennym Ysgrifennydd Gwladol y Blaid Dorïaidd, oherwydd o'm rhan i, nid yw erioed wedi sefyll dros Gymru, a chwaraeodd ei ragflaenydd yr un gêm. Felly, y peth cyntaf y byddwn yn gofyn i'r Ceidwadwyr yma heddiw ei wneud yw gofyn am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, un sy'n edrych ar ôl buddiannau Cymru. Fel y dywedodd y Gweinidog,...
Joyce Watson: Diolch, Weinidog. Rwyf mor falch fod gwasanaeth Noddfa Gyda'r Hwyr bellach ar waith yn Sir Benfro. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn darparu lloches ddiogel i oedolion sy'n profi trallod meddwl yn yr oriau tyngedfennol pan fydd gwasanaethau cymorth eraill ar gau. Mae'n dilyn llwyddiant y prosiect hwnnw yn Llanelli. Fel gwasanaeth ataliol, mae'n darparu mynediad cynnar at gymorth, ac mae...
Joyce Watson: Diolch am eich ateb. Mae nifer o ddigwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor ansefydlog yw'r sefyllfa hon, pa mor gyflym y gall digwyddiadau orlethu gwasanaethau iechyd lleol, a pham fod camau gweithredu cadarn i reoli'r feirws yn hanfodol. Bu’n rhaid i fwy na dwsin o ysgolion, meithrinfeydd a champws coleg gau yn Sir Benfro a Cheredigion ar ôl cynnydd lleol yn nifer yr achosion, ac mae...
Joyce Watson: 9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda swyddogion iechyd lleol a chynghorwyr sir ynghylch cyfraddau achosion COVID-19 yng ngorllewin Cymru? OQ55982
Joyce Watson: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau arferol? OQ55980
Joyce Watson: Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. I nodi'r diwrnod rhyngwladol ddydd Iau, fe fyddaf i, ynghyd ag eraill, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar gyfer Leonard Cheshire Cymru, a'r pwnc yw ymgysylltiad gwleidyddol, gan annog pobl ifanc anabl i ddefnyddio eu llais nhw a phleidleisio yn y broses wleidyddol. Felly, fe fydd y drafodaeth heddiw yn fan cychwyn da ar gyfer y...
Joyce Watson: Fel Aelod o'r pwyllgor a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwyf yma i wneud rhai sylwadau. Nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu cenedlaethol, ac o dan hynny, nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu strategol, mae'n debyg. Ond rwy'n mynd i godi fy llais i gefnogi cymunedau a allai deimlo eu bod wedi'u heithrio i ryw raddau o'r broses honno. Sylwaf fod gan y Bil llywodraeth...
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau diogel o ran COVID-19 sy'n cael eu cymryd mewn ysgolion uwchradd?
Joyce Watson: Mae gennyf ddau gais byr, Trefnydd: yn gyntaf, a gawn ni amser yn y Siambr i drafod adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol ar drais a cham-drin domestig, os gwelwch yn dda? Yfory yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Phlant, a'r llynedd, bu marwolaethau 1,300 o fenywod, a phump o'r rheini yng Nghymru. Fel arfer, byddwn yn gofyn i Aelodau gefnogi cronfa'r...
Joyce Watson: Diolchaf i chi am hynna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Pfizer a BioNTech eu bod nhw wedi datblygu brechlyn ar gyfer COVID-19 a'i fod yn dangos canlyniadau addawol, ond bron ar unwaith roedd negeseuon yn cylchredeg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu y byddai'r brechlyn yn niweidiol, heb unrhyw dystiolaeth a brofwyd. Rwy'n deall ei bod hi'n naturiol y bydd gan bobl...
Joyce Watson: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth am frechlynnau? OQ55947
Joyce Watson: Fel y gwyddoch, Lywydd, ym mis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd na thrigolion, a heb ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer Cyngor Sir Penfro na Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y byddai tua 200 o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu yng nghyn-wersyll milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod. Mae bellach yn gartref i oddeutu 250...
Joyce Watson: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar fy rhan i, Leanne Wood a Helen Mary, a fydd yn cloi'r ddadl. Fe'i cefnogir hefyd gan John Griffiths, Mick Antoniw a Llyr Gruffydd, a diolch iddynt am hynny. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o'n cyd-Aelodau'n cefnogi ein cynnig, fel y byddai'r mwyafrif helaeth o'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Nid yw pob Aelod o'r Siambr hon yn rhannu...
Joyce Watson: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y rhaglen ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu dull Llywodraeth Cymru o dreialu uwchraddiadau fel y gallwn ddatblygu dealltwriaeth dda o'r hyn sydd fwyaf effeithiol. Os bydd y rhaglen, fel y gobeithir, yn cael ei chyflwyno dros y blynyddoedd i ddod, mae'r potensial ar gyfer swyddi medrus ym maes adeiladu yn addawol dros...
Joyce Watson: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi dewis y safleoedd cyntaf ar gyfer y goedwig genedlaethol, ac mae nifer o'r rheini yn fy etholaeth i, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd yn galonogol gweld bod nifer uchel o bobl yn awyddus i ymgymryd â’r gwaith o blannu coetiroedd newydd, gyda mwy na 350 yn datgan diddordeb yn y prosiectau hynny....