Canlyniadau 401–420 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Aros Canser (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Rydw i wedi gallu darllen ei lythyr at y Gweinidog iechyd ac rydw i wedi gweld ei hateb. Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth sy'n ddefnyddiol i'w etholwr yn yr hyn sy'n amlwg yn amgylchiadau unigol sy'n peri gofid mawr.  Mae'r system yn gweithio'n galed bob mis i ymdrin â'r cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod drwy'r drws. Ac mae'n beth da...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Aros Canser (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Mae arloesedd, buddsoddiad ychwanegol a recriwtio staff arbenigol ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd ochr yn ochr ag arweinwyr clinigol i leihau amseroedd aros canser.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rydym wedi trafod droeon yma y galwadau a ddaw o wahanol rannau o Gymru i ddiwygio'r fformiwla ariannu, ac rydym ni bob amser wedi dweud, fel Llywodraeth, y byddwn ni, wrth gwrs, yn barod i drafod y peth gydag awdurdodau lleol pan fyddan nhw'n cyflwyno cynnig ar gyfer diwygio. Yr hyn na allwn ei wneud o bosibl, fel y bydd yr Aelod yn ei ddeall, yw cytuno ar fformiwla ar wahân ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, fe wnaeth Hefin David gyfres o bwyntiau pwysig yn y fan yna, yr wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â phob un ohonyn nhw ac sydd i gyd yn feysydd yr ydym ni'n parhau i wneud ein hymdrechion ynddyn nhw. Soniais am y £43 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol, y buddsoddiad ychwanegol rydym ni wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid gofal cymdeithasol i wella telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu. Mae £43 miliwn wedi cael ei ddarparu i'r sector i'w helpu i gynyddu cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol. Yn ogystal â hynny, mae £45 miliwn wedi cael ei roi ar ffurf grant y gweithlu i awdurdodau lleol eleni.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dolydd Blodau Gwyllt (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud, a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i hyrwyddo gwell rheolaeth o'n lleiniau ffyrdd a'n glaswelltiroedd ar draws y gogledd? Mae Carolyn Thomas yn llygad ei lle, Llywydd. Dyma beth mae dadreoleiddio yn ei olygu. Yn ymarferol, yr hyn y mae'n ei olygu yw diddymu'r amddiffyniadau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dolydd Blodau Gwyllt (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, wnes i wir ddim dychmygu'r prynhawn yma y byddem ni'n clywed bod plaid Geidwadol Cymru yn erbyn blodau. [Chwerthin.] Maen nhw yn erbyn bron popeth arall, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl gweld dolydd blodau gwyllt yn cael eu hychwanegu at eu rhestr o bethau nad ydyn nhw'n eu cefnogi yn y Gymru fodern. Wrth gwrs, nid wyf i'n cefnogi'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma. A dweud y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dolydd Blodau Gwyllt (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, cofnododd prosiect blodau gwyllt sir Ddinbych 268 o rywogaethau blodau gwyllt ar eu safleoedd yn 2021. Nid oedd 136 o'r rhywogaethau hynny wedi cael eu canfod yno o'r blaen, ac mae rhwydwaith safleoedd y prosiect yn tyfu bob blwyddyn, wedi'i gefnogi gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prentisiaethau Gradd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Diolchaf i Jack Sargeant am hynny a'i longyfarch, wrth gwrs, ar y ffordd y daeth ef ei hun drwy'r system brentisiaeth honno a gwneud hynny'n llwyddiannus. Yr hyn y gallwch chi ei ddweud yn eithaf sicr wrth y fforwm busnes yw bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n deall yn iawn y cyfrifoldeb sydd gennym ni i fuddsoddi yn y sgiliau a fydd yn caniatáu i fusnesau yn y rhan honno o Gymru i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prentisiaethau Gradd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwyf i wedi mwynhau cyfraniad diweddaraf Laura Anne Jones at ei hymgyrch arweinyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: y bydd angen iddi arafu ar y niferoedd er mwyn caniatáu i bobl ddilyn y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen y trawsgrifiad fel y gallaf ddilyn y ddadl yr oedd hi'n ei gwneud yn well. Mae'r rhaglen brentisiaeth—y rhaglen...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prentisiaethau Gradd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, ers i'r rhaglen prentisiaeth gradd ddechrau yng Nghymru yn 2018, rydym ni wedi sicrhau cynnydd o fwy na phum gwaith i gofrestriadau. Yn y flwyddyn academaidd bresennol, mae 780 o brentisiaethau yn gweithio i ennill cymwysterau lefel gradd ym meysydd digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'r cwestiwn a ddylai Cymru fod yn annibynnol yn gwestiwn i bobl yng Nghymru, ac rwyf i wedi dweud erioed pe bai plaid yn cynnig hynny fel dewis mewn maniffesto ac y bydden nhw'n ennill mwyafrif y seddi yma yn y Senedd, yna, wrth gwrs, os yw pobl yn dewis y cam hwnnw, yna dyna ewyllys ddemocrataidd pobl yng Nghymru. Eu llais nhw yw'r un pwysig—nid fy un i, pa un a ydw i'n meddwl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n cytuno bod dadl na ellir ei hateb dros etholiad, ac nid wyf i'n credu bod Prif Weinidog y DU yn y sefyllfa anorchfygol y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i awgrymu. Efallai y bydd y rhaniadau dwfn y tu mewn i'r Blaid Geidwadol yn cael eu cuddio am ychydig wythnosau eto. Efallai y byddwn ni'n gweld Aelodau Seneddol Ceidwadol yn chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd ar y lawnt y tu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n gobeithio wrth gwrs y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn mabwysiadu agwedd wahanol o ran y berthynas â'r Llywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy'n gweld cyfres o Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru heddiw yn galw ar Brif Weinidog newydd y DU i achub y blaen yn hynny o beth, ac mae'n gam i Brif Weinidog y DU ei gymryd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Ar y tri phwynt hynny, Llywydd, yn gyntaf oll, cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Lafur, byddwn yn gallu gweithredu addewidion y Blaid Lafur. Rwyf i wedi esbonio i chi—[Torri ar draws.] Rwyf i wedi esbonio i chi pam, o dan eich Llywodraeth chi, gyda chyllidebau'n gostwng o un flwyddyn i'r llall, a nawr cyfnod arall o gyni cyllidol yn ein hwynebu ni i gyd, ni fydd yr addewidion a wnaed gan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, yn y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw yr wythnos diwethaf, dangoswyd bod yr arosiadau hir hynny yn parhau i leihau. Maen nhw bellach wedi lleihau bum mis yn olynol. Fe wnaethon nhw leihau eto ym mis Gorffennaf, a chyn belled ag y bo'r system yn gallu parhau yn y ffordd honno, yna wrth gwrs bydd yr arosiadau hir hynny'n cael eu dileu. Yr hyn yr oedd y ffigurau yn ei ddangos...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'n bwysig cael y ffeithiau'n iawn, ac rwy'n hapus i gywiro'r ffaith bod Plaid Geidwadol Cymru wedi ennill un sedd etholaethol ar hyd cyfan yr M4 yn ne Cymru. O ran apwyntiadau meddyg teulu, gadewch i ni fod yn eglur nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni. Rwyf i wedi ei glywed yn cael ei wneud gan Weinidogion iechyd Ceidwadol dro ar ôl tro dros...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Twf Economaidd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Diolch, Llywydd. Y cwbl rwy'n ei wneud yw egluro pwysigrwydd y pwynt a wnaeth Alun Davies. Pe bai Llywodraeth Liz Truss wedi cael eu ffordd, byddai'r toriadau treth hynny wedi darparu tair gwaith cymaint i Lundain a'r de-ddwyrain nag y bydden nhw wedi ei ddarparu i Gymru neu i ogledd Lloegr. Roedden nhw, wrth gwrs, yn falch iawn o gefnogi hynny i gyd dim ond pythefnos yn ôl, yn union fel...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Twf Economaidd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, wrth gwrs rwy'n cytuno ag Alun Davies mai'r hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw etholiad cyffredinol—cyfle i bob plaid wneud eu dadleuon i bobl ac i'r bobl benderfynu beth maen nhw'n ei gredu yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r etholiad cyffredinol hwnnw'n anghenraid democrataidd, ond mae hefyd yn anghenraid economaidd oherwydd mae angen...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Twf Economaidd (25 Hyd 2022)

Mark Drakeford: Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna, Llywydd, oherwydd mae'n iawn: ar unrhyw ddarlleniad rhesymol o'r prosbectws presennol, mae colledion swyddi yn dod i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu i mi ddweud ar lawr y Senedd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, pe baem ni'n gweld toriadau i wariant cyhoeddus o'r math sy'n tynnu dŵr i'r llygaid a addawyd gan Ganghellor y Trysorlys, yna bydd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.