Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, gall tai gwarchod o ansawdd da chwarae rhan hanfodol o ran sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn annibynnol a gall helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Gall darparu tai gwarchod o ansawdd da hefyd helpu i sicrhau bod cartrefi teuluol ar gael wrth i bobl hŷn symud i gartrefi llai. Mae astudiaethau diweddar hefyd wedi canfod y gall defnyddio synwyryddion mewn llety...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad a diolch i'r clercod am gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Agorwyd yr ymchwiliad i ariannu'r celfyddydau cyn imi ddod yn aelod o'r pwyllgor, felly, yn anffodus, nid oedd modd imi ymwneud â'r tystion, ond hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am ddarparu tystiolaeth gadarn. Ar adeg pan fo cymaint o alwadau'n cystadlu am...
Caroline Jones: Gwnaf, ar bob cyfrif, Adam.
Caroline Jones: Dyma'r hyn yr oeddwn yn arwain ato, a dyma'r hyn yr wyf yn ceisio ei godi yn fy mhwynt. Rwy'n danbaid dros y celfyddydau, a minnau'n gyn athrawes ddrama ac yn gyn athrawes addysg gorfforol, felly y celfyddydau yw fy mhrif ddiddordeb. Ond o ran edrych ar ffyrdd eraill o godi arian, fel yr ydych chi newydd egluro wrthyf, diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n awyddus i gadw ein gwasanaethau...
Caroline Jones: Roedd y penderfyniad i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i greu oriel genedlaethol o gelfyddyd gyfoes ac amgueddfa chwaraeon genedlaethol yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ei groesawu gan fy mod innau'n awyddus i weld Cymru, fy ngwlad i, yn ffynnu o ran y ddawn helaeth sydd gennym yn y celfyddydau ac yn annog pobl o wledydd eraill i gymryd rhan a chystadlu yng Nghymru, ac felly'n ychwanegu...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â chyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein colegau addysg bellach yn ddolen hanfodol yn y gadwyn addysg ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol ac yn cael adnoddau digonol. Cefais y pleser o weithio'n agos gyda choleg Gŵyr yn fy rhanbarth i, coleg addysg bellach mawr gyda dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwario tua £40 miliwn y flwyddyn ar athrawon cyflenwi, gyda'r rhan fwyaf ohono'n mynd i asiantaethau, sy'n codi gormod ar ysgolion heb dalu digon i staff. Ni allwn ymdopi heb athrawon cyflenwi, ond fel y mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru wedi pwysleisio, mae athrawon cyflenwi'n tueddu i gael eu trin yn eithriadol o wael o ran cyflog, amodau gwaith a...
Caroline Jones: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau costau staff asiantaeth yn y proffesiwn addysgu? OAQ52959
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddyginiaethau newydd?
Caroline Jones: Rwy'n croesawu adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru 2017' Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y mynydd y mae'n rhaid inni ei ddringo os ydym ni i leihau allyriadau Cymru o leiaf 80 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cyrraedd y targedau hyn er mwyn goroesi yn y dyfodol. Fel y nodir yng nghytundeb Paris, mae lleihau allyriadau yn hanfodol os ydym ni i...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae fy rhanbarth i wedi colli llawer gormod o swyddi gweithgynhyrchu yn ystod y degawdau diwethaf, ac er fy mod i'n croesawu camau eich Llywodraeth i sicrhau buddsoddiad gweithgynhyrchu newydd, fel cytundeb Aston Martin, nid yw hyn yn disodli'r golled o allbwn gweithgynhyrchu yng Ngorllewin De Cymru. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod fy rhanbarth i yn...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Cymru wedi derbyn biliynau o bunnoedd o gyllid yr UE, ac rydym ar hyn o bryd yn derbyn bron i £700 miliwn y flwyddyn. Gyda'r DU i adael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae'n hanfodol ein bod yn cael arian gan Lywodraeth y DU sydd yr un faint neu'n fwy na lefel yr arian a gawn gan yr UE. Mae'r DU yn...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, rwy'n croesawu'r camau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb. Fodd bynnag, mae hon yn broblem gynyddol, yn enwedig ar-lein. Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu cawod gyson o gasineb, siarad casineb a bwlio ar-lein na ellir dianc rhagddo. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi amlinellu sut rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd â Llywodraeth y...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhagolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn creu her wirioneddol i ni. Erbyn 2035, disgwylir y bydd cyfran yr oedolion sy'n byw â chyflwr cyfyngus gydol oes yn cynyddu 22 y cant, ac ar yr un pryd, bydd 48 o bobl dros 65 oed am bob 100 o bobl o oedran gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae eich Llywodraeth...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r camau a gymerwyd gennych i wella lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf innau hefyd yn cefnogi cyflwyno cyfraith Lucy ac edrychaf ymlaen at ddeddfwriaeth i wahardd ffermio cŵn bach a chathod bach. Ysgrifennydd Cabinet, pryd ydych chi'n disgwyl cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd a nodwyd gan yr ymgynghoriad? Ysgrifennydd y Cabinet, mae...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i Darren Millar am yr ymrwymiad y mae'n ei ddangos wrth ei arwain. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Carl Sargeant, a weithiodd yn ddiflino yn y maes hwn a chyflawni llawer. Ddydd Sul, byddwn yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu safbwynt eich Llywodraeth ar ffracio. Pa un a ellir gwneud y broses ffracio'n ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ai peidio, tanwydd ffosil yw'r cynnyrch terfynol o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd eich Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu pob trwydded ar gyfer nwyeiddio glo tanddaearol yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedau ar gyfer gwaith echdynnu glo newydd?
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Symud at y model clinigol ar gyfer ymateb ambiwlans oedd un o'r newidiadau pwysicaf a wnaed i ofal heb ei drefnu. Roedd sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb iawn yn seiliedig ar eu hangen hefyd yn cyflymu amseroedd ymateb ar gyfer y cleifion mwyaf agored i niwed. Yn anffodus, mae ffactorau eraill wedi llesteirio gallu gwasanaeth...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae'r gwasanaeth prawf yn rhan hanfodol o'r system cyfiawnder troseddol ac yn debygol o ddod yn bwysicach fyth yn y dyfodol wrth i'n carchardai ddod yn gynyddol fwy gorlawn. Mae carchardai Cymru yn gweithredu ymhell y tu hwnt i'w capasiti, gan arwain at orlenwi difrifol, sy'n andwyol i garcharorion a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw—y...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, y rheswm y mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint gwaethaf yn Ewrop, yn bennaf, yw oedi cyn cael diagnosis. Mae amseroedd aros annerbyniol o hir am brofion diagnostig ac israddio atgyfeiriadau meddygon teulu fel mater o drefn yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr o ganser yr ysgyfaint. Felly, arweinydd y tŷ, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau...