Neil McEvoy: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa god ymddygiad sy'n gymwys i swydd y Prif Weinidog? (OAQ51218)
Neil McEvoy: Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod sydd yr ochr arall i’r Siambr yn y fan yna, Llyr, wedi achub y blaen arnaf o ran llongyfarch Chris Coleman a thîm Cymru, ond roeddwn i hefyd eisiau llongyfarch yr elusen wych, Gôl, sy'n cyflawni gwaith anhygoel. Mae'r cefnogwyr yn mynd i gartrefi plant amddifad ac maen nhw’n codi gwen ar wynebau cymaint o blant, ac maen nhw’n genhadon gwych dros...
Neil McEvoy: Diolch. Hoffwn sôn am brofiad ysgol yn fy rhanbarth, sef Ysgol Gymraeg Nant Caerau yng ngorllewin Caerdydd. Yn 2012, roedd gan yr ysgol 86 o ddisgyblion ar safle a gynlluniwyd ar gyfer plant pedair i saith oed. Erbyn hyn, mae gan yr ysgol 240 o ddisgyblion rhwng pedair ac 11 oed, ac maent yn gorfod troi plant ymaith. Mae ysgolion mewn ardaloedd eraill wedi cael eu hymestyn, ond mae’n rhaid...
Neil McEvoy: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg? (OAQ51112)
Neil McEvoy: Iawn. Fe orffennaf drwy ddweud—ac ysgrifennais at y Prif Weinidog parthed y mater hwn ddoe—ni ddylai un Aelod o’r Siambr hon fod yn fwy cyfartal nag un arall. Dylai cod ymddygiad fod yn berthnasol i bob un ohonom. Roeddwn yn anghywir, fe wnes gamgymeriad, rwy’n cyfaddef hynny. Dylai pob AC wneud yr un peth. Diolch.
Neil McEvoy: Dyna rwy’n ei wneud. Iawn.
Neil McEvoy: Mae’r pwyntiau rwy’n eu gwneud—ac mae’n debyg y byddaf yn dod â phethau i ben ychydig bach yn gynt nag y dymunaf. Oherwydd rwy’n derbyn y cerydd yn llwyr, os mai dyna yw dymuniad y Siambr, ac rwy’n ymddiheuro’n llawn unwaith eto. Ond rwy’n credu y dylai Prif Weinidog Cymru gyfeirio ei hun, drwy’r cod ymddygiad i weinidogion—
Neil McEvoy: Diolch. Rwyf yma heddiw i ymddiheuro am ddefnyddio ystafell briffio’r cyfryngau mewn ffordd a oedd yn anghyson â Rheolau Sefydlog y Cynulliad hwn a’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n derbyn canfyddiadau adroddiad y pwyllgor yn llawn, oherwydd pan wyf wedi gwneud rhywbeth o’i le, rwy’n cyfaddef hynny. Nid oeddwn yn bwriadu torri’r cod ymddygiad. Y gwir amdani yw...
Neil McEvoy: Diolch. Y dreth ystafell wely yn un o’r beichiau mwyaf diangen o bell ffordd sy’n wynebu rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nid yw’r dreth hon wedi gwneud dim ond ychwanegu at y pwysau ar y rheini sydd eisoes yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd. Mae’r dreth ystafell wely, mewn sawl achos, wedi effeithio ar bobl nad oes dewis ganddynt i symud i mewn i dŷ llai....
Neil McEvoy: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyhoeddi cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru? (OAQ51073)
Neil McEvoy: Ond beth ydyw?
Neil McEvoy: Rwy’n datgan buddiant fel cyn athro. Rwy'n gwybod beth a ddywedasoch am safonau proffesiynol, ac mae llawer o sôn am safonau generig a chodi safonau, a llawer o sloganau, llawer o eiriau. Ond rwy'n poeni am y manylion, a dweud y gwir. Felly, tybed a wnewch chi ganiatáu imi roi prawf bach ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch amlinellu cynnwys y cymhwyster addysgu newydd ar gyfer...
Neil McEvoy: Rwyf hefyd yn gofyn am ddatganiad ar Hinkley Point, arweinydd y Siambr, oherwydd yr wythnos diwethaf gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd am echdynnu mwd a allai fod yn ymbelydrol, o’r man yn union y tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point. Dywedodd hi nad oedd hi'n gallu rhoi sylwadau ar y broses benderfynu benodol ar gyfer caniatáu’r drwydded. A bod yn gwbl onest,...
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau tryloywder drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000?
Neil McEvoy: Sut y gallwch alw eich hun yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd pan fo’ch Llywodraeth wedi rhoi trwydded i ganiatáu i ddeunydd gael ei garthu o’r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley Point a’i ddympio yn nyfroedd Cymru y tu allan i Gaerdydd? Yn waeth na hynny, ni chynhyrchwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol gan gorff gwarchod amgylcheddol Cymru. Nid oes unrhyw ddos o...
Neil McEvoy: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr angen am asesiadau o effaith amgylcheddol? (OAQ51026)
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseriad penderfyniad Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i werthu ei thir ac asedau eiddo?
Neil McEvoy: Rwy’n credu ei bod yn briodol iawn, Llywydd, oherwydd rydym yn ailadrodd. Ym marn llawer, mae’r weinyddiaeth Lafur hon naill ai’n anghymwys neu’n llygredig, un neu’r llall ac—
Neil McEvoy: Gwnaf.
Neil McEvoy: Wel, mae’n eithriadol, ond yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy eithriadol yw ei fod yn digwydd drwy’r amser. Wyddoch chi? Y peth nesaf rwyf am siarad amdano yw cytundeb tir Llys-faen. Mae yna ddiwylliant tebyg yn yr adeilad hwn a chyda’r Llywodraeth hon, ac nid wyf ar fy mhen fy hun yn amau y gallai trosedd fod wedi digwydd. Rwyf am i Heddlu De Cymru ailagor yr ymchwiliad i gytundeb tir...