Canlyniadau 401–420 o 10000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood OR speaker:Mark Isherwood

18. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol (24 Maw 2021)

Mark Isherwood: Diolch. Fel y dywed ein hadroddiad, mae Deddf Cymru 2014 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i ddatganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd bryd hynny—Senedd Cymru erbyn hyn—a Llywodraeth Cymru. Roedd y pwerau hyn yn rhoi arfau pellach i Lywodraeth Cymru amrywio lefel y dreth a gwariant yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru a...

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (24 Maw 2021)

Mark Isherwood: Oedd, roeddwn i'n meddwl ei fod ymlaen. Rwy'n ymddiheuro.

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (24 Maw 2021)

Mark Isherwood: Diolch. Mae'n flin gennyf ddweud mai'r unig ffordd o ddisgrifio'r gwelliant arfaethedig hwn i'r Rheolau Sefydlog yw annymunol, llawdrwm ac awdurdodus sy'n arfer rheolaeth fympwyol a gormesol dros eraill. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Busnes ar hyn: 'Nid oes gan y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Busnes. Gwnaethpwyd y cynnig gan Rebecca Evans AS (y Trefnydd) ac fe’i cefnogwyd gan...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Sector y Celfyddydau (24 Maw 2021)

Mark Isherwood: Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny, oherwydd mae'r prosiect cyfalaf i ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug wedi'i lunio i ddiogelu theatr gynhyrchu fwyaf Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywed Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Theatr Clwyd yn hanfodol i lesiant pobl yng ngogledd Cymru, drwy ei rhaglen o sioeau apelgar o ansawdd uchel a'i gwaith allgymorth rhagorol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Sector y Celfyddydau (24 Maw 2021)

Mark Isherwood: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sector y celfyddydau yng Ngogledd Cymru? OQ56477

15. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (23 Maw 2021)

Mark Isherwood: Fel y gwnaethom ni ei glywed, mae'r rheoliadau hyn yn pennu estyniad i'r amrywiad dros dro presennol i'r Dreth Trafodiadau Tir a chyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir a fydd yn berthnasol i bryniannau a thrafodiadau eiddo preswyl penodol, gan ddechrau ar 1 Ebrill ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021, gyda'r cyfraddau a bandiau'n dychwelyd yn ôl i'r rhai a oedd mewn grym cyn 27 Gorffennaf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diogelwch Cymunedol (23 Maw 2021)

Mark Isherwood: Mae diogelwch cymunedol yn Sir y Fflint ac ar draws y gogledd yn gofyn am weithio amlasiantaeth cydgysylltiedig gyda chymunedau eu hunain ac mae swyddogaeth Heddlu Gogledd Cymru yn ganolog i hyn. Gan fod diogelwch cymunedol yn fater datganoledig, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i gefnogi ac ariannu niferoedd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru, gan weithio ochr yn ochr â...

4. Cwestiynau Amserol: Diogelwch Menywod (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: Rwyf am siarad, os caf, fel mab, brawd, gŵr, tad a thaid i fenywod a merched rwy'n malio amdanynt ac yn eu caru'n angerddol. Mae achosion trasig diweddar Sarah Everard a Wenjing Lin wedi tynnu sylw at fater trais yn erbyn menywod mewn ffordd wirioneddol ysgytwol. Credaf ein bod ni yn Senedd Cymru yn unedig ac yn benderfynol o sicrhau bod ein strydoedd a’n cymunedau mor ddiogel â phosibl i...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Sector Gwasanaethau Ariannol (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: Wel, mae Purple Shoots yn elusen sy'n rhoi cymorth i bobl yng Nghymru na allant gael gafael ar gyllid fforddiadwy sydd ei angen arnynt i ddechrau busnes. Maent hefyd yn gweithio gyda grwpiau hunanddibynnol, gan greu cyfleoedd i'r bobl sydd bellaf o gyflogaeth neu waith. Maent yn cefnogi neu wedi cefnogi cannoedd o fusnesau bach ledled Cymru. Fodd bynnag, er y byddai dim ond £2 filiwn o'r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: Na, yn hollol, ac nid oedd y cwestiwn yn ymwneud â chyfarwyddo awdurdodau lleol; dim ond cydnabod bod y disgresiwn ganddynt i’w arfer. Felly, diolch am gadarnhau hynny. Nodais mewn cwestiwn i chi y mis diwethaf, er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn yn wreiddiol i gronfa argyfwng yr hosbisau, fod hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU ac yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: Rwy'n fwy na pharod i drafod perfformiad cymharol y Llywodraethau ar faterion iechyd yn ystod y pandemig, ond roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chymorth i fusnesau a'r bwlch ymddangosiadol rhwng eich datganiad, fod y cyllid canlyniadol i Gymru wedi'i ddefnyddio’n llawn, pan fo ffigurau Dadansoddi Cyllid Cymru yn awgrymu bod y ffigurau'n uwch o lawer. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae adroddiad dadansoddi cyllid Cymru y mis hwn ar oblygiadau cyllideb y DU ar gyfer 2021 i Gymru a chyllideb Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru, wedi gadael £610 miliwn o wariant dydd i ddydd heb ei ddyrannu yng nghynlluniau’r Gyllideb Derfynol. Gyda chyllid canlyniadol ychwanegol o Gyllideb y DU a newidiadau i refeniw datganoledig rhagamcanol…golyga hyn fod gan...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Sector Gwasanaethau Ariannol (17 Maw 2021)

Mark Isherwood: 4. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb derfynol 2021-22? OQ56431

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Maw 2021)

Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i ddarparwyr addysg awyr agored yng Nghymru. Anfonodd cynrychiolydd o'r sector e-bost ataf i ddoe yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Roeddwn i eisiau eich gwneud chi'n ymwybodol o'r mater hwn sy'n effeithio ar y Gymru wledig ac, yn wir, y gogledd yn ddifrifol iawn. Rwy'n gofyn ichi fynd â'r mater i Lywodraeth Cymru. Mae'r sefyllfa wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (16 Maw 2021)

Mark Isherwood: Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf, dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru y bydd y swm o arian sy'n mynd i gael ei wario yng Nghymru pan gyflwynir y gronfa ffyniant gyffredin yn union yr un faint neu'n fwy na'r swm o arian a wariwyd yng Nghymru a oedd yn dod oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac y bydd y DU yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Tanwyddau Gwyrddach (10 Maw 2021)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, yng nghyllideb y DU yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Canghellor fuddsoddiad o dros £93 miliwn i sbarduno adferiad gwyrdd yng Nghymru a chyflymu'r broses o greu bron i 13,000 o swyddi yma. Mae hyn yn cynnwys cyllid cyflym ar gyfer bargen twf gogledd Cymru, sy'n cynnwys parth arddangos llanw Morlais oddi ar arfordir Ynys Môn, a chyllid ychwanegol ar gyfer hyb hydrogen newydd ym...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Tanwyddau Gwyrddach (10 Maw 2021)

Mark Isherwood: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o danwyddau gwyrddach yng Nghymru? OQ56391

13. Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22 ( 9 Maw 2021)

Mark Isherwood: Ar ôl mwy na dau ddegawd o gyllidebau Llafur ers datganoli, Cymru sydd â'r lefelau cyflog a chyflogaeth isaf o hyd a'r gyfran uchaf o swyddi â chyflogau isel ym Mhrydain a'r lefelau ffyniant isaf a thwf cyflog hirdymor a'r gyfradd dlodi uchaf o holl wledydd y DU. Roedd angen cyllideb arnom ni i drwsio'r sylfeini ac adeiladu economi fwy diogel a ffyniannus ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, yr...

11. Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21 ( 9 Maw 2021)

Mark Isherwood: Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid y mis hwn, fel y clywsoch chi, ar drydedd gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn nodi bod hyn yn dyrannu bron i £1.3 biliwn o adnoddau cyllidol ychwanegol a bron i £837 miliwn mewn cyfalaf, gyda'r prif gynnydd yn yr economi a thrafnidiaeth, tai a llywodraeth leol, ac addysg. Y cefndir yw'r £5.2 biliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.