Julie James: Fe'ch clywais yn berffaith yr holl ffordd drwodd, yn sicr drwy'r cyfieithiad yn y fan yna, Delyth. Felly, diolch yn fawr am hynny. Dim ond o ran y sylwad olaf yn gyntaf, mae gennym ni nifer o adolygiadau'n mynd rhagddynt i elfennau ychydig yn wahanol o'r rhaglenni rheoli llifogydd ac arfordirol sydd gennym ni ar waith. Felly, heb gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd ar allu'r Athro Evans i wneud...
Julie James: Diolch, Janet. Dim ond i ddechrau'n union lle y gwnaethoch chi orffen, nac ydw, dydw i ddim yn meddwl hynny o gwbl. Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae gwir angen inni ei wneud yw integreiddio'r gwaith hwn, a'r syniad bod gennych chi gwango ar wahân ar gyfer pob un agwedd o newid hinsawdd sy'n sefyll ar ei ben ei hun ac yn gwneud hynny ei hun—rwy'n credu bod hynny'n rysáit ar gyfer...
Julie James: Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Aelod dynodedig Plaid Cymru Siân Gwenllian a minnau wedi bod yn gweithio'n agos i ddatblygu cwmpas, dull cyflawni a chylch gorchwyl drafft ar gyfer sicrhau ymrwymiad y cytundeb cydweithio i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21. Felly, mae'n...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Prif Weinidog, y Dirprwy Weinidog a minnau wedi egluro bod mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi sefydlu, drwy'r strategaeth llifogydd, raglen gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'r cytundeb cydweithio yn ein hymrwymo i sicrhau cynnydd yn y buddsoddiad...
Julie James: Felly, gan weithio tua nôl gyda'ch cwestiynau chi, Jenny, ynglŷn â'r un diwethaf hwn, rydym ni'n edrych ar economi gymysg, a dweud y gwir. Felly, nid oes gennym ni lawer iawn o'r rhain yng Nghymru hyd yn hyn, ond rydym ni'n cyflymu'r broses o'u meithrin. Fe hoffwn i annog y byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymlwybro mor gyflym â phosibl yn hynny o beth, yn gyfochrog â modelau eraill o...
Julie James: Byddwn, fe fyddwn i wrth fy modd, Carolyn, i ddod i ymweld yno. Rwy'n cynllunio taith i fyny i'r gogledd yn fuan iawn, felly efallai y gallwn ni gynnwys yr ymweliad bryd hynny. Fe fyddai hynny'n hyfryd iawn. Mae hwnnw'n brosiect sy'n llwyr amlygu'r hyn yr ydym ni newydd fod yn sôn amdano. Mae hynny'n dod â nifer o ffrydiau refeniw at ei gilydd, sydd i gyd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn...
Julie James: Diolch, Mike. Ydw, rwy'n cytuno yn llwyr â hynny; rydych chi bob amser wedi hyrwyddo tai o'r fath, rwy'n llwyr gydnabod hynny, ac mae hi wedi bod yn braf iawn cael gweithio ochr yn ochr â chi ar yr agendâu hyn. Fe fyddwn ni, yn sicr, yn cynyddu ac yn cyflymu. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf yn fy marn i, oherwydd problem y gadwyn gyflenwi fyd-eang a'r argyfwng hinsawdd, yw ceisio sicrhau...
Julie James: Diolch, Mabon. Roeddech chi'n gwneud cyfres o bwyntiau da iawn yn y fan yna. Rydym ni wedi dysgu gwersi hanfodol o'r gronfa gofal integredig; rydym ni bob amser yn ceisio gwerthuso ein rhaglenni wrth iddynt fynd rhagddynt ac yn gobeithio eu haddasu wrth fynd. Ymhlith y gwersi a ddysgwyd, rydym ni wedi bod yn ystyried sut y gellir gwella strwythur yr arian. Yn benodol, rydym ni'n awyddus i...
Julie James: Diolch i chi, Janet. Rwy'n credu i mi synhwyro rhyw elfen o frwdfrydedd am dai â gofal o'ch rhan chi, ac rwy'n sicr yn falch iawn o weld hynny. Felly, dim ond i dawelu eich meddwl: yn amlwg, nid ydym ni wedi aros am bum mlynedd. Mewn ymateb i'r adroddiad yr oeddech chi'n sôn amdano, fe gychwynnwyd rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig yn 2018-19, ac fe'i sefydlwyd i ddarparu tai a llety...
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gen i, roedd yna achos bychan o rannu pennau ysgrifennu yn y fan yna, felly ymddiheuriadau. Mae tai fforddiadwy, clyd a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles pawb yng Nghymru. Mae cartrefi iach yn gosod sylfaen sefydlog a diogel i unigolion a theuluoedd ac yn diwallu anghenion yr aelwyd. Maen nhw'n rhoi llecyn i ni deimlo yn ddiogel a chysurus, a'n cysylltu...
Julie James: Diolch.
Julie James: Diolch yn fawr iawn i chi, Joyce. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgyrchydd ynglŷn â'r mater hwn ers i mi ddod i'ch adnabod chi, felly mae hi'n braf eich gweld chi'n dod i fatio, neu beth bynnag yw'r gyffelybiaeth o fyd chwaraeon am hynny. Ie, yn hollol; un o'r pethau yr oeddem ni'n gallu ei wneud gydag ymgyrch gyntaf safon ansawdd tai Cymru oedd gorhyfforddi nifer y prentisiaid...
Julie James: Rwy'n cytuno, Jenny, yn llwyr â chi. O ran adeiladau newydd, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n cyflwyno newidiadau i reoliadau rhan L yn fuan iawn. Rydym ni eisoes wedi newid yr hyn a elwir y DQL ar gyfer tai cymdeithasol newydd i garbon goddefol neu garbon niwtral, felly unwaith eto, yn cymell y diwydiant i adeiladu yn unol â hynny. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn caniatáu i landlordiaid...
Julie James: Diolch, Mike. Fe wn i eich bod chi'n rhannu fy mrwdfrydedd i dros dai cymdeithasol. Fe gawsom ni ein magu nid nepell oddi wrth ein gilydd, fel mae hi'n digwydd, ac rwyf i bob amser wedi edmygu eich sêl a'ch brwdfrydedd chi dros dai cymdeithasol o ansawdd da iawn. Yn sicr, mae hon yn agenda wrthdlodi; mae hon yn agenda o ran datgarboneiddio hefyd. Mae'r pethau hynny'n mynd law yn llaw, wrth...
Julie James: Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i weld pethau fel mynediad i fannau gwyrdd. Felly, hyd yn oed os ydych chi mewn fflat, fe ddylech chi barhau i allu cael mynediad i fannau gwyrdd y tu allan. Rydym ni'n bwriadu annog pob landlord cymdeithasol—cynghorau a chymdeithasau tai—i sicrhau mynediad i fannau gwyrdd, hyd yn oed os nad yw'n ardd breifat, serch hynny, mae mynediad da yn rhan o...
Julie James: Diolch yn fawr, Mabon. A diolch yn fawr am eich sylwadau chi ar y dechrau, yn arbennig. Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, ac un o'r rhesymau yr ydym ni'n mynd am ymgynghoriad yw ar gyfer tynnu sylw at rai o'r pethau hyn. O ran y methiannau derbyniol a welsom ni eisoes, rwy'n awyddus iawn i edrych eto ar yr hyn a ystyriwn ni'n fethiant derbyniol ar gyfer y safon ansawdd tai newydd....
Julie James: Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Janet. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau diddorol iawn a rhai materion o egwyddor. Felly, o ran y materion o egwyddor, mae hi'n amlwg ein bod ni'n wynebu her ynglŷn â'r hinsawdd. Rydych chi, rwy'n siŵr, wedi gweld yr adroddiad diweddaraf sy'n mynegi ein bod ni'n edrych ar rai o'r blynyddoedd poethaf a gofnodwyd erioed. Ac, felly, mae hyn yn ymwneud â sicrhau...
Julie James: Diolch i chi, Janet.
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer safon ansawdd tai arfaethedig Cymru 2023. Cyflwynwyd y SATC wreiddiol, fel y gelwir hi, yn 2002 ar gyfer gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â'n partneriaid cyflenwi landlordiaid cymdeithasol, rydym ni wedi buddsoddi biliynau o bunnau dros ddau ddegawd i wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd pob Aelod, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar am ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd, ac fel y nododd Alun yn ei gyflwyniad, mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i osod targedau i gwmnïau dŵr yn Lloegr i leihau'r rhain. Ond ceir canfyddiad cyffredinol mai dyma brif achos ansawdd dŵr gwael, ond mewn gwirionedd, fel y mae'r rhan...