Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Yn ôl yr Athro Mark Barry, fel a ddyfynnwyd gennych chi, mae'n credu bod Cymru wedi'i thanariannu—[Anghlywadwy.]—2016. A ydych chi'n anghytuno?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch am eich ateb. Mae Islwyn yn cynnwys rhai o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, megis Ffordd Goedwig Cwmcarn sy'n enwog yn rhyngwladol, a phwll glo Navigation, a chyhoeddwyd statws porth i'r ffordd yn ddiweddar yn rhan o fenter y Cymoedd. Ond mae unrhyw brofiadau ymwelwyr rhyngwladol ansoddol yn cael eu gwella ganwaith gan sylw i fanylion, ac i lawer o dwristiaid i Gymru, mae...
Rhianon Passmore: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn? OAQ53299
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud cyfraddau'r dreth gyngor yn decach i drigolion yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog. Yn wir, mae potensial a chyfle mawr yn y cwricwlwm newydd hwn, ac, rwy’n credu, gwobrau gwych: rwy’n croesawu’n fawr iawn y bwriad strategol o amgylch datblygiad cynnar a chyn-ieithyddol ledled Cymru. Mae angen y datblygiad ieithyddol hwnnw arnom. Gallwn ni fod yn genedl ddwyieithog i raddau mwy, ond mae angen inni fod yn wlad amlieithog i...
Rhianon Passmore: Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid yn yr asiantaethau cyhoeddus i baratoi cymaint â phosib ar gyfer cynllunio diogelwch sifil wrth gefn pe byddai Brexit heb gytundeb. Dylai Brexit heb gytundeb gael ei alw'n Brexit caled, oherwydd dyna beth ydyw; dyma'r glatsen economaidd waethaf bosib i bobl...
Rhianon Passmore: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i Jack am gyflwyno'r ddadl fer hon ar y maes pwysig hwn ac am gyflwyno'r ddadl hon i ni heddiw. Yn ôl yr elusen iechyd meddwl Mind, mae mwy nag un o bob pump o bobl wedi dweud eu bod wedi ffonio'r gwaith i ddweud eu bod yn sâl er mwyn osgoi gwaith, pan ofynnwyd iddynt sut oedd straen yn y gweithle wedi effeithio arnynt. Er y bydd y mwyafrif llethol o reolwyr a...
Rhianon Passmore: Iawn. Diolch. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ar ddechrau 2019, y bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn arwain prosiect newydd i gefnogi datblygiad polisi datblygu economaidd rhanbarthol ar gyfer Cymru. Bydd y prosiect newydd hwn yn golygu y bydd arbenigwyr rhyngwladol yn ymweld â Chymru ac yn trafod heriau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol gyda phartneriaid....
Rhianon Passmore: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi polisi datblygu economaidd rhanbarthol i gynorthwyo cymunedau yn Islwyn? OAQ53203
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit. Does dim amheuaeth fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud smonach lwyr o negodi ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Pe na bai mor beryglus, byddai bron yn ddoniol, fel Boris. Ond, beth bynnag, beth bynnag am y diffyg sefydlogrwydd peryglus a achosir gan arweinwyr y Torïaid, mae'n...
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, bydd yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn cael eu diddymu o'r diwedd ledled Cymru ar 26 Ionawr 2019, diolch i Lywodraeth Llafur Cymru. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan yr hawl i brynu, heb ddim gallu na chapasiti i ailgyflenwi'r stoc tai cymdeithasol i'r un lefelau. Mae hyn wedi disbyddu stoc tai cyngor...
Rhianon Passmore: Roeddwn i ar fin mynd i mewn i Neuadd Goffa Trecelyn nos Wener pan ddaeth y newyddion bod fy ngwrthwynebydd gwleidyddol yn Islwyn, a'm cyd-Aelod annwyl, Steffan Lewis AC, wedi ein gadael ni. Felly, fel mae nifer wedi'i ddweud, rwyf yn cydymdeimlo'n ddwys â gwraig Steffan, Shona, a'i fab, Celyn. Yn ein cyfarfod o aelodau Plaid Lafur Islwyn, roedd tristwch gwirioneddol o glywed y newyddion...
Rhianon Passmore: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn Islwyn? OAQ53225
Rhianon Passmore: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Prif Weinidog, hoffwn innau hefyd gynnig dymuniadau gorau fy etholwyr yn Islwyn i chi ar gyfer eich ymdrechion fel Prif Weinidog ar ran pobl Cymru. Prif Weinidog, mae o leiaf 320,000 o bobl yn ddigartref ym Mhrydain, yn ôl gwaith ymchwil gan yr elusen dai, Shelter. Mae'r amcangyfrif yn awgrymu, yn genedlaethol, bod un o bob 200 o bobl yn ddigartref. Prif...
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu pobl allan o ddigartrefedd? OAQ53160
Rhianon Passmore: Mae'n bwysig, heddiw o bob diwrnod, ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cydnabod y Diwrnod Hawliau Dynol Rhyngwladol, sef dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018. Mae 70 o flynyddoedd wedi bod ers mabwysiadu'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol, ac roedd datblygiad cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn un o'r rhesymau sylfaenol pam y penderfynais gamu i'r byd gwleidyddol, a gwn fod...