Canlyniadau 401–420 o 2000 ar gyfer speaker:Lee Waters

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: Diolch ichi am y sylwadau hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen gweithredu pellach a chredaf imi nodi hynny, a chytunaf fod angen inni drafod hyn yn fanylach o lawer. Nid wyf yn meddwl mai heddiw yw'r amser i wneud hynny. Credaf fod Janet Finch-Saunders wedi cyflwyno cyfres o heriau teg a rhesymol ac fel y dywedodd, rhaid cael camau beiddgar a phendant i fynd gyda'r rhethreg. A byddwn i'n dweud...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ei drydydd asesiad annibynnol ar risg hinsawdd y DU. Mae'n ddeunydd darllen heriol iawn. Mae'n nodi 61 o risgiau a chyfleoedd yn sgil newid hinsawdd i Gymru, gan gynnwys i seilwaith busnes, tai, yr amgylchedd naturiol ac iechyd. Roedd 26 o'r 61 o risgiau wedi cynyddu o ran eu difrifoldeb dros y pum mlynedd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Deddf Aer Glân (16 Meh 2021)

Lee Waters: Byddwn yn dweud bod y gwaith o chwilio am gonsensws yn parhau. Mae'r materion sy'n ymwneud â'r M4 wedi cael eu hailadrodd droeon ac mae gennym farn wahanol ar hynny. Y ffordd i leihau llygredd niweidiol o geir yw cael llai o geir, nid gwneud i'r ceir fynd yn gyflymach. Credaf mai'r hyd rydym am ei weld yw pwyslais ar newid dulliau teithio yn hytrach na chreu ffyrdd ychwanegol a fyddai yn eu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Deddf Aer Glân (16 Meh 2021)

Lee Waters: Diolch am yr her bwysig honno. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth. Yn amlwg, mae'r rhaglen lywodraethu’n ymwneud â thymor cyfan y Senedd hon, ac rydym am gyflwyno llawer o ddeddfwriaeth. Felly, mae'n mynd i gymryd amser i'r holl ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Yn amlwg, mae ansawdd aer yn her y mae angen inni fynd i’r afael â hi ar frys, ac ni allwn aros i ddeddfwriaeth gael ei...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Deddf Aer Glân (16 Meh 2021)

Lee Waters: O, fi eto. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i Ddeddf aer glân i Gymru. Mae swyddogion yn datblygu cynigion ar gyfer Bil aer glân yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, a bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ein rhaglen ddeddfwriaethol cyn bo hir.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: Rwy'n cytuno bod hon yn duedd sy'n peri cryn bryder. Mae cynllun Llywodraeth Cymru wedi'i nodi yn ein cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer rheoli colli bioamrywiaeth. Rydym wedi creu'r gronfa rhwydweithiau natur gyda'r Loteri Genedlaethol ac rydym wedi buddsoddi bron i £10 miliwn ynddi. Mae hynny eisoes yn arwain at ganlyniadau mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Yn y gogledd yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: I gychwyn, a gaf fi ddweud yn glir fy mod am longyfarch pawb ar gael eu hailethol? Rwy'n falch iawn o weld pawb, a diolch iddynt am eu cwestiwn. Drwy ddweud hynny, efallai y gallaf osgoi dweud yr un peth bob tro y byddwn yn codi.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: Credaf eich bod yn llygad eich lle yn tynnu sylw at y dystiolaeth newydd eto yn yr adroddiad heddiw am effaith y cynnydd yn lefel y môr a achosir yn uniongyrchol gan gynhesu byd-eang gan bobl. Mae llawer o ganlyniadau hynny yn ddiwrthdro ac mae'n rhaid inni ymdopi â hynny wrth inni geisio sicrhau ar yr un pryd nad yw'r broblem yn gwaethygu. Mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o'n haneddiadau mawr...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd (16 Meh 2021)

Lee Waters: Mae'r cyngor a'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ar risgiau a chyfleoedd mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd yn tanlinellu pwysigrwydd ein gwaith i sicrhau bod pob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd, yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well.

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, ac mae'r cyfraniad yna'n tanlinellu rwy'n credu, gymaint y byddwn yn colli naws resymegol a rhesymol cyfraniadau Nick Ramsay o feinciau'r Ceidwadwyr, a dymunaf yn dda iddo. Dim ond i fynd i'r afael â'i bwyntiau: mae'r her wledig yn un go iawn, ond mae'n un gwbl gyraeddadwy. Felly, fel y dywedais i, rydym wedi comisiynu darn o waith, y byddwn yn hapus i'w gyhoeddi, ar sut...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: A gaf i dalu teyrnged ddiffuant iawn i Jenny Rathbone am yr ymgyrchu y mae wedi'i wneud ar yr agenda hon drwy gydol ei hamser yn Aelod o'r Senedd? Mae hi wedi bod ar flaen y gad yn eiriolwr parhaus dros yr angen i symud i drafnidiaeth gynaliadwy, ac felly rwy'n falch ei bod hi yma i groesawu'r adroddiad hwn fel modd o wireddu llawer o'r themâu y mae wedi bod yn galw ar Lywodraethau olynol...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: Roeddech chi'n gwneud mor dda yn y fan yna. Hyd at y sylw olaf, fe'm calonogwyd. Pryd bynnag y clywaf David Rowlands yn croesawu nodau canmoladwy, rwy'n aros am 'ond' mawr, a chawsom yr 'ond' ar y diwedd gyda'i ymgyrch yn erbyn ein hymdrech i geisio achub bywydau plant rhag cael eu lladd yn ddiangen ar y ffordd. Yn sicr, nid oedd y dystiolaeth a ddeilliodd o'n hadolygiad ein hunain ar...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: I ateb y cwestiynau hynny o chwith, rydym ni wedi rhoi benthyciad o £2 filiwn i Fws Casnewydd brynu fflyd o fysiau trydan i'r ddinas i ddisodli eu fflyd sy'n heneiddio, sydd, yn fy marn i, i'w groesawu'n fawr. Ond yn amlwg, mae her fawr i'r holl ddiwydiant droi at fysiau trydan dros gyfnod y ddogfen hon, ac mae hynny'n her sylweddol iddyn nhw. Rydym ni'n ceisio cael cyswllt rhwng fy...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: Diolch. Cyfres dda o gwestiynau heriol yn y fan yna. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu darparu'r £70 miliwn i gyflymu'r broses o ddarparu rheilffyrdd Glynebwy, y gall gwasanaethau o'r diwedd fynd i Gasnewydd yn ogystal ag i Gaerdydd, ac roedd hyn, wrth gwrs, yn un o argymhellion allweddol adroddiad Burns. Rydym ni yn awyddus iawn nad yw adroddiad Burns yn adroddiad sy'n eistedd ar...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: Dirprwy Lywydd, roedd yna nifer o sylwadau i fynd i'r afael â nhw yn y fan yna, ac mae'n amlwg fy mod yn ymwybodol mai dyma sesiwn olaf ond un y Senedd cyn yr etholiad, ac mae Russell George yn yr ysbryd etholiadol, ac rwy'n amlwg yn ystyried hynny yn fy ymateb. Russell George gwahanol sy'n cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda chonsensws mawr, a'r un Russell George a...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru' (23 Maw 2021)

Lee Waters: Diolch, Llywydd. Ar 19 Mawrth, roeddwn yn falch o gyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Mae'n gosod yr hyn a ystyriwn yn weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Ac mae cyd-destun y ddogfen yn glir iawn: rydym ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae'n bryd—yn wir, mae'n fater brys—ein bod yn troi'r...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru' (17 Maw 2021)

Lee Waters: Rwy'n falch o ddweud bod argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd yn fras â'r cynlluniau rydym eisoes yn eu datblygu o fewn y Llywodraeth, ac rydym yn gweithio ar gyfres o argymhellion ac adroddiad a fydd ar gael—strategaeth—ar gyfer y Llywodraeth nesaf ym mis Medi neu fis Hydref. Ac mae meddwl drwy'r holl wahanol elfennau ynddo yn waith cymhleth. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi a chyflwyno...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru' (17 Maw 2021)

Lee Waters: Ie, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n rhaid imi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad ystyrlon a'r ffordd y gwnaethant gynnal yr ymchwiliad a phawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Fel y mae Mike Hedges wedi'i roi, yr hyn y mae COVID wedi'i wneud yw cyflymu'r hyn a oedd eisoes yn digwydd. Ac nid ydym am ddychwelyd yn ddiofyn at lawer o'r hen arferion gwael a oedd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Datblygiad Economaidd Canol Trefi ( 3 Maw 2021)

Lee Waters: Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod darpariaeth ddigidol yn rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym wedi adfywio canol trefi a sut rydym yn creu dull polisi sy'n seiliedig ar ddata. Felly, mae cefnogaeth eisoes wedi bod i'r dref a galluogi trefi. Er enghraifft, mae canol tref Rhymni wedi cael grant o £30,000 i alluogi Caerffili, i'w galluogi i gyflwyno darpariaeth Wi-Fi am ddim yng nghanol y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Datblygiad Economaidd Canol Trefi ( 3 Maw 2021)

Lee Waters: Mae £3 miliwn o gyllid ar gael i drefi ledled Cymru yn dilyn astudiaeth gan Centre for Towns. Dyfarnwyd £834,549 i Ferthyr Tudful i ddarparu cynllun grant i fusnesau, a fydd yn cefnogi gyda gwelliannau'n fewnol ac yn allanol i gynorthwyo masnach busnesau mewn ymateb i'r pandemig.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.