Jane Hutt: Diolch, Peter Fox. Rwyf wedi annog Gweinidog Ffoaduriaid y DU i fabwysiadu ein model uwch-noddwr i'w ddefnyddio ledled y DU er mwyn osgoi'r risgiau diogelu annerbyniol a achosir gan gynllun ehangach Cartrefi i Wcráin. Ac fe roddais ffigurau a gwybodaeth wedi'u diweddaru yn fy natganiad llafar ddoe.
Jane Hutt: Rwy'n cytuno â'r pwyntiau hynny, Joyce Watson. Ddoe, galwodd un elusen—Care4Calais—gynllun Rwanda yn ddim ond un arall mewn rhes hir o bolisïau ataliaeth a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd hon dros y blynyddoedd diwethaf. Care4Calais—mae gennyf etholwyr yn ymwneud â Care4Calais sydd wedi bod yn Calais ar sawl achlysur. Oherwydd maent yno; maent yn gweithio gyda phobl sy'n byw...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Joyce Watson. Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi dweud yn glir fod y mesurau yn Neddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, gan gynnwys symud y gwaith o brosesu ceiswyr lloches i wlad arall, yn groes i'r confensiwn ffoaduriaid, confensiwn y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo. Mae cynllun Rwanda yn warthus, ac rwy'n gwneud fy marn yn glir i'r...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n dilyn yn dda iawn o'r pwyntiau cynharach yr oeddwn yn eu gwneud am fy nghyfarfodydd gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Ac yn wir, rwy'n gwybod bod galwadau o bob rhan o'r Siambr—rwy'n credu bod Peredur hefyd wedi'i godi—ynglŷn â sut y gallwn gynyddu'r nifer sy'n manteisio—budd-dal Llywodraeth y DU ydyw—ar gredyd pensiwn yn benodol, ond ceir mynediad at...
Jane Hutt: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn ariannu Age Cymru i weithio gyda phobl hŷn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hawliau gan ddefnyddio ein canllawiau a gydgynhyrchwyd, 'Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn'. Mae Age Cymru hefyd yn cynhyrchu pecyn cymorth fideo ac yn cyflwyno ymgyrch hawliau pobl hŷn, sydd ar y gweill tan fis Mehefin.
Jane Hutt: Diolch ichi am y cwestiwn adeiladol iawn hwnnw, Sam Rowlands. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi cynnal uwchgynhadledd argyfwng costau byw ym mis Chwefror. Fe'i cadeiriais, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a siaradodd am heriau tai ac effeithlonrwydd ynni a'r buddsoddiad yn y gyllideb eleni i gefnogi effeithlonrwydd ynni a hybu ynni adnewyddadwy, ond hefyd o ran ffynonellau ynni. Ac roedd fy...
Jane Hutt: A gaf fi ddweud fy mod yn parchu rôl a chyfraniad yr ymgyrchydd cyfiawnder bwyd, Jack Monroe, am dynnu sylw at hynny, a chydnabod effaith Brexit ar gostau bwyd cynyddol hefyd, rhywbeth y gwnaethom ymateb iddo a'i grybwyll ddoe yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog—yr effaith, a'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU wedi cael effaith mor andwyol ar fywydau pobl, gan arwain at...
Jane Hutt: Bydd y cynnydd mewn chwyddiant ynghyd â threthi uwch yn arwain at ostwng safonau byw a bydd yn rhoi pwysau sylweddol pellach ar gyllidebau aelwydydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu, gyda'r pwerau sydd ganddi, i ddarparu cymorth i'n haelwydydd mwyaf bregus yng Nghymru.
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer rydym wedi trafod y materion hyn, Mark Isherwood, ac rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru bartneriaeth gyda'r trydydd sector, a fy mod yn cadeirio cyngor partneriaeth y trydydd sector. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr, fel y gwyddoch yn iawn, o bob sector, sy'n codi materion gyda ni nid yn unig ynghylch...
Jane Hutt: Diolch i Buffy Williams. Fel yr Aelod o'r Senedd dros y Rhondda, rydych yn ymwneud cymaint â'ch cymuned, ac mae hynny wedi dod i'r amlwg yn glir yn eich cwestiwn am eich cysylltiadau a'ch ymweliadau a'ch ymgysylltiad â sefydliadau lleol—sefydliadau fel sydd i'w cael mewn etholaethau ledled Cymru, sy'n gwneud cyfraniad enfawr yn y gymuned. Rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos hyd yn oed...
Jane Hutt: Mae'r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol ac unigryw yn creu Cymru deg a chyfiawn, ac wrth inni weithio i osgoi cynnydd mewn anghydraddoldebau yn ein cymunedau oherwydd y pandemig, rydym wedi cydgynhyrchu cynllun adfer COVID gyda'r sector sy'n canolbwyntio ar gymorth, cysylltiadau a gwirfoddoli.
Jane Hutt: A gaf fi ddiolch eto i Sarah Murphy am y ffordd y mae wedi ymgysylltu a chefnogi’r teuluoedd a’r aelwydydd yn ei hetholaeth sydd, unwaith eto, wedi estyn allan a chroesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin? Clywais straeon ysbrydoledig gan eich etholwyr. Drwy ein gwefan cenedl noddfa hefyd, mae gennym ganllawiau i noddwyr, mae gennym ganllawiau i awdurdodau lleol. Hefyd, rwy’n cyfarfod...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Yn fy natganiad ddoe, nodais yn glir yr ystadegau a gyhoeddwyd yn ffurfiol gan y pedair gwlad, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, ddydd Iau diwethaf, a byddant yn cael eu diweddaru yfory. Erbyn dydd Iau diwethaf, roedd 2,300 o fisâu wedi'u rhoi lle'r oedd y noddwr yn dod o Gymru, gyda 1,650 wedi'u noddi gan unigolion, a 670 wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru...
Jane Hutt: Diolch, Altaf Hussain. Gwneuthum ddatganiad llafar ddoe i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am ein dull o gefnogi ceiswyr noddfa o Wcráin. Rydym yn parhau i arddangos ein gweledigaeth cenedl noddfa fel uwch-noddwr drwy roi cymorth ar waith ac annog gwelliannau i brosesau Llywodraeth y DU.
Jane Hutt: Diolch, Janet. Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae hawliau plant wedi’u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Golyga hynny, pryd bynnag y byddwn yn defnyddio unrhyw un o’n pwerau i wneud penderfyniad, fod yn rhaid inni ystyried yr effaith ar blant. Wrth gwrs, mae hynny’n cynnwys hawl pob plentyn i chwarae yn ogystal â chydnabod yr...
Jane Hutt: Wrth gwrs, y neges—os caf barhau—yw ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn yn unol â darpariaethau adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, darpariaeth benodol ar gyfer anghenion plant anabl, ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys gofyniad clir y dylid darparu mannau hamdden a chwarae. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn edrych ar...
Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo hawliau plant drwy ein hymrwymiad ymarferol i’r egwyddorion a ymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Ein nod yw sicrhau bod anghenion unigol pob plentyn yn cael eu diwallu, gan eu galluogi i gael cyfle cyfartal.
Jane Hutt: Rwy’n ddiolchgar iawn, fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, am eich cefnogaeth ac am gefnogaeth eich plaid i’n cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cwmpasu'r cynllun peilot, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc eu hunain, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn gywir mewn perthynas â'u hanghenion...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig, Sioned Williams. Rwy’n siŵr y byddech yn ymuno â mi, fel y mynegwyd gennych eisoes, i ffieiddio at y ffordd yr ymatebodd Prif Weinidog y DU ddoe—ffieiddio at y ffordd y siaradodd am bobl heb unrhyw ddealltwriaeth o fywydau pobl mewn gwirionedd. Ni allai ateb y cwestiwn pan ofynnwyd iddo, 'Beth yw eich barn am rywun sydd ond yn gallu cael un pryd...
Jane Hutt: Wel, rwy’n falch iawn o’r ymateb a gaf i ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ac yn wir, i benodi comisiynydd annibynnol cryf. Ac roeddwn yn meddwl tybed a hoffech ystyried hefyd y pwyntiau a wnaeth yn gynharach yr wythnos hon, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn i bob un ohonom yma yn y Siambr. Dros y dyddiau diwethaf, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Sophie Howe,...