Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r cyfle i gyfarfod yn sydyn â rhai o’r bobl yn y digwyddiad yn ystod amser cinio. Lywydd, ni ddylai neb feio dioddefwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u dewrder i godi llais. Rydym i gyd yn gwybod am y dewrder a ddangosant pan fyddant yn codi llais, ac yn ei edmygu, a’r rhai y gallwn ac y dylwn eu beio yw’r rhai sy’n gwybod beth sy’n digwydd ac...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, a Lywydd, os caf, hoffwn ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus iawn i chi ac i fenywod a merched ledled Cymru. Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi dioddefwyr trais domestig drwy gyflwyno, datblygu a gweithredu’r fframwaith. Ers i Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)...
Carl Sargeant: Every local authority in Wales provides a range of parenting support which encompasses universally available information and advice, parenting groups and targeted and intensive support. Local authorities have responsibility for deciding the precise nature of local service delivery depending on local circumstances and identified needs within their own areas.
Carl Sargeant: The Welsh Government is engaging with a wide range of stakeholders as part of the development and delivery of the childcare offer.
Carl Sargeant: We continue to support local authorities and third sector partners to deliver the homelessness provisions within Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014, which ensures everyone who is homeless or at risk of becoming homeless, gets help to either prevent their homelessness or find suitable alternative accommodation.
Carl Sargeant: The Welsh Government is strongly committed both to supporting older people and to promoting equality between genders. This is reflected in the provisions of the wellbeing of future generations Act and the strategy for older people, which supports action to address issues facing both women and men in later life.
Carl Sargeant: I intend to introduce a Bill very shortly to end the right to buy. Our social housing is a valuable resource, but it is under considerable pressure. Protecting it from further reduction will ensure people in housing need, many of whom are vulnerable, can access a home they can afford.
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi dod yn achlysur o bwys yn y calendr cydraddoldeb ac mae'n dda gweld ei fod yn llwyddo i gael sylw cadarnhaol ac eang yn y cyfryngau a’i fod yn tanio cymaint o drafodaeth ar y mater hwn. Bydd tynnu sylw at anghydraddoldeb a chyflwyno'r dystiolaeth lwyr sy'n bodoli i ddangos sut mae menywod yn...
Carl Sargeant: Lywydd, rwy'n falch o agor y ddadl hon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017. Cynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf dros 100 mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad gwirioneddol fyd-eang—diwrnod pan mae cyflawniadau merched a menywod yn cael eu cydnabod waeth beth fo'u cenedligrwydd, ethnigrwydd, iaith, diwylliant, cyfoeth neu wleidyddiaeth. Mae'n...
Carl Sargeant: Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru eleni yw 'creu dyfodol cyfartal' ac rydym yn falch o gefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru wrth gyflwyno pedwar digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau a chyfleoedd merched a menywod ar draws Cymru, gan greu dyfodol cyfartal iddynt. Mae'n rhaid...
Carl Sargeant: Lywydd, mae’n bleser ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, ar ôl gwrando ar yr holl gyfraniadau ar draws y Siambr. Nid y ddadl heddiw ar Fis Hanes LHDT yw’r tro cyntaf i ni gael trafodaeth ar gydraddoldeb LHDT yn y Senedd, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y ddadl, am y tro cyntaf yn ein hanes, wedi cael ei harwain gan Aelodau Cynulliad sy’n lesbiaid a hoywon agored yn y Cynulliad: Hannah...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Hoffwn ddiolch i John Griffiths a’r pwyllgor, a’r ystod eang o randdeiliaid a goroeswyr a roddodd dystiolaeth ac a chwaraeodd ran hanfodol yn y broses o lunio’r adroddiad. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i’r...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy’n cytuno â'r Aelod. Torfaen yw un o'r awdurdodau sydd wedi bod yn dda iawn o ran dangos y ffordd y gallant ymgysylltu â'u cymuned ar lefel leol iawn. Mae Caerffili yn enghraifft arall lle y bu gweithgarwch da iawn ar lawr gwlad. Nid wyf yn dweud bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi cael ei thorri; dweud wyf i bod angen i ni wneud rhywbeth...
Carl Sargeant: Diolch i Vikki Howells am ei chwestiynau heddiw ac, unwaith eto, Aelod arall sydd wedi bod yn blwmp ac yn blaen iawn ei barn am Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer ei chymuned hi. Vikki, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw y dylem fod yn uchelgeisiol ac y dylem fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â thlodi. Bydd gennym yr...
Carl Sargeant: Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau â'r Gweinidog Cyllid, ac arwydd o'r amserau yw ein bod yn symud i mewn i sefyllfa wahanol o fynd i'r afael â thlodi. Mae'r Aelod yn anghywir—yn amlwg yn anghywir—yn dweud y bydd pob un o'r rhaglenni hynny yn dod i ben. Nid yw'n gwybod a fyddant yn dod i ben; nid wyf i’n gwybod a fyddant yn dod i ben. Beth y mae yn ei olygu yw bod yn rhaid i ni...
Carl Sargeant: Wel, cododd yr Aelod lawer o gwestiynau yn y fan yna, ond rwy’n credu bod cynsail y rhan fwyaf o hyn yn seiliedig ar gyflogadwyedd a llwybrau cyflogadwyedd. Cyfeiriais yn fy natganiad at y rhaglen gyflogadwyedd yr ydym yn ei chyflwyno: gwerth bron i £12 miliwn o fuddsoddiad yn y pen anodd iawn o ryngweithio â rhan o'n hyfforddiant a mantais marchnad mwyaf anodd ei gael. Ond, edrychwch,...
Carl Sargeant: Diolch i chi, Dawn, a diolch i chi am eich cwestiwn. A gaf i ddweud, rwyf wedi cael fy lobïo gan lawer o Aelodau, o bob plaid, ac mae llawer wedi cyfrannu at y dogfennau ymgynghori? Mae pobl fel Dawn, Lynne Neagle, Hefin David, a llawer o bobl eraill o amgylch y Siambr hon wedi bod yn gadarn iawn eu barn am Cymunedau yn Gyntaf. A gaf i ddweud hefyd, fy mod wir yn credu bod aelodau’r...
Carl Sargeant: Diolch i chi, ac rwy’n diolch i'r Aelod am ei ddull adeiladol tuag at y newid yn y rhaglen. Yn gyntaf oll, soniodd am raglen yr Young Foundation. Ceir llawer o felinau trafod ac elusennau sy'n cynnig safbwyntiau ar sut i adeiladu cryfder mewn cymunedau yng Nghymru, ac yn Lloegr. Ac rydym yn edrych ar yr adroddiadau hynny yn ofalus iawn, er mwyn gweld sut y dylem ni gynnwys y syniadau da...
Carl Sargeant: [Yn parhau.]—a ddarperir gan y Llywodraeth hon, na chyfeiriodd yr Aelod atyn nhw o gwbl. Y gwir amdani yw nad yw hi’n gallu gwneud cyfraniad ar fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â thlodi oherwydd nad oes ganddi unrhyw syniad ynglŷn â hynny. Y gwir amdani yw ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r mater ystyfnig iawn hwn o fynd i'r afael â thlodi. Ac ni fyddaf yn troi hwn yn...
Carl Sargeant: Ni fyddaf yn troi’r anawsterau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu yn bwnc gwleidyddol. Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwneud buddsoddiadau yn ein cymunedau gan ddilyn dull partneriaeth rhwng Llywodraethau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Efallai y dylai'r Aelod fyfyrio ar ei datganiad oherwydd nad yw ei gynnwys yn ddim byd ond beirniadaeth wleidyddol yn hytrach na chyfle i...