Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer pleidlais y bobl ar gytundeb terfynol Brexit?
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw. Gwerthfawrogir eich cyfraniadau'n fawr, gan gynnwys cyfraniad y Gweinidog. A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r holl sefydliadau a fu'n ymwneud â'n hymchwiliad ac sydd wedi darparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig mor graff, a hoffwn fachu ar y cyfle hefyd i ddiolch i'n tîm clercio ac...
Lynne Neagle: Oherwydd y camau hyn ar lefel y DU, efallai na fydd angen yr argymhelliad penodol a wnaed gan y pwyllgor mwyach, ond mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yn parhau'n bwysig. Yn ei hymateb diweddar, amlinellodd y Gweinidog y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud yn ceisio cyfrannu at, a llywio datblygiad polisi mewnfudo yn y DU. Mae'n destun pryder, fodd bynnag, fod safbwynt y...
Lynne Neagle: Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau dadl ar effaith Brexit pan fo cymaint yn dal yn aneglur, ond nid wyf am inni ganolbwyntio ein trafodaethau ar i ba raddau rydym yn cytuno â Brexit neu ar y pleidleisiau sy'n digwydd yn Senedd y DU. Yn hytrach, ein nod wrth gyflwyno'r ddadl hon heddiw yw trafod yr effaith bosibl y gallai Brexit ei chael ar fyfyrwyr a darparwyr addysg yng Nghymru, yn seiliedig...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Gradd ar Wahân?', sy'n trafod effaith Brexit ar addysg uwch ac addysg bellach. Bydd Aelodau'r Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy safbwyntiau ar Brexit, ond ar ddechrau'r ddadl hon, mae'n bwysig i mi bwysleisio fy mod yn cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y pwyllgor. Mae'r...
Lynne Neagle: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ac yn wir, fe fyddai Brexit 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, a dyna un o'r rhesymau pam y byddaf yn falch o orymdeithio ddydd Sadwrn dros bleidlais y bobl, i geisio atal trychineb pellach. [Torri ar draws.] Na, na; pleidlais y bobl ar fargen Brexit, gydag opsiwn i aros. Fel y gwyddoch, un o fy mhrif bryderon mewn perthynas â Brexit yw'r effaith ar y cannoedd...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb? OAQ53629
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y canllawiau a argymhellwyd gan 'Cadernid Meddwl' yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad hefyd i weithio gyda'r grŵp cynghori i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu hyrwyddo'n helaeth. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, i lawer o athrawon, am resymau dealladwy, maent yn amharod i siarad am hunanladdiad. Mae'n hanfodol felly...
Lynne Neagle: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno na allai'r Undeb Ewropeaidd fod wedi dweud yn gliriach nad oes posibilrwydd o ailnegodi pellach, ac felly, fod tri opsiwn sylfaenol gennym: gadael heb unrhyw gytundeb, a fyddai'n drychinebus; cefnogi cytundeb y Prif Weinidog, rhywbeth y mae Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod ei wneud; neu gynnal pleidlais y bobl? Ac a yw'n cytuno bod hynny yr un mor wir i hyrwyddwyr...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau fydd yn cael eu rhoi i ysgolion ym mis Ebrill ynghylch trafod hunanladdiad? OAQ53576
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y broses gwynion yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n anfodlon â'r driniaeth a gawsant gan y GIG?
Lynne Neagle: Prif Weinidog, mae colli rhywun annwyl i hunanladdiad yn brofedigaeth unigryw o ddinistriol yn fy marn i, ac eto nid yw gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn bodoli i raddau helaeth yng Nghymru. Mae sefydliadau fel Sefydliad Jacob Abraham yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi teuluoedd heb geiniog o arian cyhoeddus. Ceir patrwm hefyd yr wyf i'n ei weld yn...
Lynne Neagle: Credaf ei bod yn anodd i unrhyw beidio â chael ei ysbrydoli, mewn gwirionedd, gan yr hyn a welsom y penwythnos hwnnw. Roedd yn llwyddiant ysgubol a hanesyddol ac roeddwn yn arbennig o falch fod dau o'r meysydd a nodwyd fel blaenoriaethau—sgiliau bywyd yn y cwricwlwm ac iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc—yn faterion y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi...
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Ddoe, o ganlyniad i gyni Torïaidd, bu'n rhaid i gyngor Torfaen godi'r dreth gyngor 5.9 y cant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ysgolion a gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o gynrychioli cyngor Llafur sy'n brwydro mor galed i ddiogelu gwasanaethau lleol, ac er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer...
Lynne Neagle: A gaf fi ofyn pa drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a pha sicrwydd y gallwch ei roi fod sicrhau cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn flaenoriaeth i chi?
Lynne Neagle: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol? OAQ53523
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru yn Ewrop?
Lynne Neagle: Nid oeddwn yn bwriadu siarad heddiw oherwydd fy mod i wedi gwneud fy marn ynglŷn â Brexit yn glir iawn ar sawl achlysur yn y Siambr hon, gan gynnwys yn gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ond rwyf bellach wedi penderfynu gwneud cyfraniad byr. Rwy'n croesawu'n fawr y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan fy mhlaid a gan Blaid Cymru heddiw, ac sy'n cael ei drafod ar y cyd â Senedd yr...
Lynne Neagle: Diolch. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol i ddiystyru sefyllfa drychinebus 'dim cytundeb' a sicrhau bod yr anghytundeb llwyr yn San Steffan yn cael ei ddatrys? Felly, a yw hi'n cytuno â mi felly bod yn rhaid gwneud cytundeb Prif Weinidog y DU, sef, beth bynnag fo'i ddiffygion difrifol, yr unig un sydd ar gael, gael ei wneud yn destun pleidlais ymhlith y cyhoedd...
Lynne Neagle: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei ystyriaeth o'r angen am bleidlais y bobl ar y cytundeb i ymadael â'r UE? OAQ53529