David Melding: Gweinidog, mae'r gyfradd heintio sy'n cael ei hadnabod fel 'R' yn is nag 1 oherwydd y cyfyngiadau symud a'r rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol. Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y mae'n aros yn is nag 1—ac yn yr Almaen rydym ni eisoes yn gweld hynny'n her enfawr—yw os gallwn ni brofi ac olrhain yn helaeth. Ond rydym ni'n dal yn eithaf amwys ynglŷn â sut beth fydd y system...
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod hwn yn Fil eithaf uchelgeisiol, ac mae agweddau arno yr wyf yn eu ffafrio'n fawr. Byddwn wedi mwynhau'r cyfle i geisio gweithio mewn gwirionedd yng nghyflawnder y cyfnod deddfwriaethol gan ymgynghori'n briodol—clywsom John Griffiths yn dweud na allai llawer o randdeiliaid ymwneud ag ef yn briodol yn yr amser a roddwyd. Ond, rwy'n credu bod yna Fil...
David Melding: Llywydd, diolch yn fawr am fy ngalw i. Ydw i'n cael fy nghlywed?
David Melding: Diolch, mae'n ddrwg gennyf. Roedd 'unmuted' yn fflachio ar fy sgrin. Mae hwn yn fesur cyfansoddiadol pwysig iawn. Rydym ni wedi clywed bod y broses o wneud hyn wedi cymryd chwe blynedd. Mae'n amser hir i'r Llywodraeth gael ei blaenoriaethau at ei gilydd ac yn awr rydym am weld, mae'n ymddangos, proses ddeddfwriaethol wedi ei chwtogi yn helaeth, er gwaethaf y ffaith fod y tri phwyllgor a...
David Melding: Weinidog, mae hwnnw'n ateb calonogol. Ac ar hyn o bryd, pan fyddwn yn ymdrin â'r coronafeirws, credaf ei bod yn bwysig sylweddoli y gall digwyddiadau hanesyddol fod yn addysgiadol, fel epidemig ffliw Sbaen, a elwid yn 'Ffliw Sbaen' am nad oedd Sbaen o dan gyfyngiadau newyddiadurol, gan nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhyfel byd cyntaf. A chlywais yr Athro Syr Deian Hopkin yn dweud ar raglen...
David Melding: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes Cymru mewn ysgolion? OAQ55267
David Melding: A gaf i groesawu eich datganiad, yn enwedig yr addewid i gyflwyno rhagor o fanylion am sut y caiff y rhai sy'n cysgu allan eu helpu? Mae'n rhaid mai nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae hyn yn ychwanegu ofn a diflastod mawr, o bosib, at eu sefyllfa ac mae'n briodol ein bod ni'n sicrhau y gallwn ni ddarparu cymaint o adnoddau â phosib i'r grŵp hwnnw o bobl. Dim ond un...
David Melding: Credaf fod hon yn ddadl bwysig, a byddwn ni yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig yn frwd. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Jackson, y newyddiadurwr uchel ei barch a ysgrifennodd am y stori hon gyntaf, yn The Rugby Paper—nid yw'n deitl gwreiddiol iawn, ond roedd yn stori bwysig iawn. [Torri ar draws.] Ac mae'n bapur da, yn wir. Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yma...
David Melding: Weinidog, fel Llyr, roeddwn yn edrych ar y data ar gyfer 2018-19, ac mae'n eithaf siomedig. Mae'n faes heriol—cartrefi gwag yn y sector preifat a gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwahanol fecanweithiau ariannol i sicrhau bod rhai o'r cartrefi hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto—ond mae perfformiad yn amrywio. Mae Ynys Môn wedi sicrhau bod 12 y cant o'u heiddo preifat gwag yn cael...
David Melding: Mae modd dadlau, ac rydych chi'n gwneud hynny yn gryf, ond mae comisiynwyr a sefydliadau fel y corff newydd llais y dinesydd yn destun craffu ac atebolrwydd—yn naturiol, o ran yr ochr ddeddfwriaethol, oherwydd dyna ein swyddogaeth ni yn ogystal â deddfu, i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Yr hyn yr ydych yn ei wneud drwy gael y penodiadau hyn, mewn enw, yw eu gwneud yn benodiadau...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba fesurau sydd ar waith i annog busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai yn ôl i farchnad Cymru?
David Melding: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio i un o gefnogwyr Burke—gelyn mawr Dr Price, wrth gwrs. [Chwerthin.] Cofiaf Brian Groom yn ysgrifennu darn ar y 10 Cymro uchaf yn y Financial Times, ac ysgrifennais at yr FT, gan ddweud, 'Ble mae Dr Richard Price, dyfeisiwr y cynllun actiwaraidd, yr un a gynghorai Alexander Hamilton sut i gynnal dyled genedlaethol? Nid yw ar y rhestr.' Ac er tegwch i'r...
David Melding: Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon. Credaf ei fod yn bwnc pwysig ac rwy'n canmol y Llywodraeth am ddatblygu strategaeth ryngwladol, o leiaf. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser, ond credaf y dylai fod yn rhan greiddiol iawn o weithgareddau Llywodraeth Cymru, a dylem dreulio amser yn myfyrio arni ac yn awgrymu mannau lle gellir ei gwella. Hoffwn sôn am ychydig o bethau y credaf fod...
David Melding: Os caf droi at bwnc arall—sy'n destun pryder pwysig iawn—sef a ydych yn bwriadu cyfarfod â'r preswylwyr yn Celestia, y datblygiad tai ar garreg ein drws ein hunain. Cyfarfûm â grŵp ddydd Gwener, a gwn y byddent yn falch o'ch croesawu. Rwy'n credu bod cymhlethdodau'r achos hwn yn ei wneud yn achos prawf. Bydd hygrededd y math hwn o ddatblygiad yn cael ei gwestiynu os na cheir rhyw ateb...
David Melding: Wrth gwrs, Weinidog, os cynyddwn y cyflenwad yn sector y farchnad, yn enwedig drwy ddenu mwy o gystadleuaeth a mentrau bach a chanolig, byddem yn gobeithio gweld prisiau tai’n dod yn fwy sefydlog, a byddai hynny, yn y ffordd honno, yn ôl economeg glasurol, yn eu gwneud yn fwy fforddiadwy. Ond, rwy'n credu eich bod yn iawn pan ddywedwch fod llawer o ddryswch ynglŷn â thai fforddiadwy—y...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, rwy'n codi gyda rhywfaint o anesmwythder, o ystyried y sylwadau ychydig yn ddramatig a gafwyd yn gynharach, ond os caf arfer fy nyletswyddau craffu yma. A yw'r Gweinidog yn dal i gredu y bydd y targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros dymor y Cynulliad yn cael ei gyrraedd? Yn ôl fy nghyfrifiad, mae gennych 6,500 o dai i’w hadeiladu mewn oddeutu 13 mis. A lle mae...
David Melding: Weinidog, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael ein harwain gan y wyddoniaeth, a bod gwyddoniaeth yn cyd-fynd â'r safonau rhyngwladol derbyniol. Ac nid oes gennym unrhyw ffordd o fesur a ddylem symud oddi wrth hynny, a dim ond caniatáu penderfyniad ar sail ffactorau eraill. Rwy'n credu bod angen inni gael gwared ar unrhyw fath o frwydrau cenedlaethol yma. Mae aber yr Hafren yn cael ei rheoli...
David Melding: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Efallai eich bod chi wedi clywed yn gynharach fy mod i wedi gofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog am bartneriaeth llety â chymorth pobl ifanc Caerdydd, sy'n cael ei harwain gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, ond mae Cymdeithas Tai Taf yn rhan ohoni, a Byddin yr Eglwys hefyd. A chafodd hynny ei annog, y dull partneriaeth hwnnw, gan Gyngor Caerdydd. Ac...
David Melding: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Byddin yr Iachawdwriaeth, fel yr asiantaeth arweiniol sy'n ymuno â Chymdeithas Tai Taf a Byddin yr Eglwys, i greu partneriaeth llety â chymorth i bobl ifanc Caerdydd, a lansiwyd yn y Pierhead yr wythnos diwethaf. Comisiynwyd y bartneriaeth hon gan Gyngor Caerdydd, fel enghraifft o arfer gorau rwy'n credu,...
David Melding: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc? OAQ55173