Mabon ap Gwynfor: Diolch, Weinidog. Wel, dwi’n lleisio barn fy etholwyr yn fan hyn, a nifer o bobl eraill hefyd, wrth ddweud eu bod nhw wedi colli trywydd yn llwyr ar eich strategaeth chi wrth ddelio efo coronafeirws, mae’n flin gyda fi ddweud. Mi ddaru chi gyflwyno COVID pass, onid o, ac, yn y ddadl oedd fan hyn rhai wythnosau yn ôl, roedd y drafodaeth i gyd yn sôn am yr angen am COVID pass oherwydd...
Mabon ap Gwynfor: A wnewch chi fel Gweinidog amaeth, neu hyd yn oed Gweinidog yr economi, ddod â chyhoeddiad ger ein bron ynghylch y camau dŷch'n eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferiad cynyddol yma o gwmnïau mawr rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol yng Nghymru er mwyn ei ddefnyddio fel tir tyfu coed ac 'offset-io' allyriadau carbon eu cwmnïau nhw er mwyn iddyn nhw fedru parhau ag arferion llygredig...
Mabon ap Gwynfor: A wnaiff yr Aelod gymryd ymyrraeth?
Mabon ap Gwynfor: Mae gan Ddwyfor Meirionnydd hanes balch iawn mewn cwmni o'r fath efo hanes Antur Aelhaearn, wrth gwrs, ond ydych chi'n cytuno efo fi fod cwmnïau cydweithredol yn rhoi lles y gweithwyr a'r gymuned maen nhw'n eu gwasanaethu yn flaenaf, ac yn sicrhau bod mwy o bres cwmnïau cydweithredol yn aros yn yr economi lleol, ac felly ei fod o'n sefyll i reswm y dylid cefnogi a hyrwyddo cwmnïau...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn ichi. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri, 70 mlynedd yn ôl i'r wythnos hon. Eryri oedd un o’r pedwar parc cenedlaethol cyntaf a gafodd eu sefydlu yn y wladwriaeth hon, nôl yn 1951. Nodau awdurdod y parc cenedlaethol ydy gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, a hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei rhinweddau unigryw,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi caniatáu’r cwestiwn. Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am hyn. Dim ond rŵan dwi'n gweld y mapiau. Yr hyn sy’n drawiadol ydy’r diffyg buddsoddi ac absenoldeb unrhyw beth yn ein hardaloedd gwledig ni unwaith eto. Rŵan, dwi’n deall bod y mapiau’n edrych ar drenau, ond mae pobl ardaloedd gwledig...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr LCMs y tymor yma. Fydd y cyfreithiau yma ddim yn ddwyieithog, fyddan nhw ddim yn hygyrch ac, yn waeth fyth, fyddan nhw ddim yn cael eu craffu yn llawn gan y Senedd yma. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'ch cyd-Weinidogion yma i sicrhau na fydd y cynnydd yma yn yr LCMs yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, a dwi'n arbennig o ddiolchgar eich bod chi wedi ateb trwy gyfwng y Gymraeg. Mae'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn cynnig gwasanaeth andros o bwysig i bobl fregus sydd yn amlwg wedi mynd trwy brofiadau erchyll. Rŵan, pan fydd rhywun yn edrych ar yr ystadegau ymosodiadau rhywiol, does yna ddim llawer o wahaniaeth rhwng y niferoedd o ymosodiadau rhywiol am bob...
Mabon ap Gwynfor: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarpariaeth canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol? OQ57059
Mabon ap Gwynfor: 6. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n cyffwrdd ar feysydd datganoledig? OQ57065
Mabon ap Gwynfor: A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu deddfu i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd?
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wel, mae cymorthyddion dosbarth yn rhan hanfodol o weithlu addysg ein gwlad. Maen nhw'n partoi gwersi i'r disgyblion, yn cymryd grwpiau allan i ddysgu, yn rhoi sylw un-i-un i ddisgyblion ag anghenion dysgu, yn cymryd gwersi pan nad oes athro ar gael, ymhlith pethau eraill. Fel cyn-lywodraethwr am sawl blwyddyn, rôn i'n gweld gwerth eu cyfraniad i addysg y...
Mabon ap Gwynfor: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion? OQ57082
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Gweinidog. Mae'r parthau perygl nitradau yng Nghymru yn cyfyngu amaethwyr i wasgaru dim mwy na 170 kg o nitradau yr hectar, tra bod parthau mewn gwledydd eraill yn galluogi ffermwyr i wasgaru hyd at 250 kg yr hectar. Mae'r cyfyngu yma yn golygu bod slyri yn cael ei ddal yn ôl ac yn methu cael ei wasgaru ac yn achosi trafferthion i ffermwyr, neu mi fydd o'n gwneud. A allwch chi...
Mabon ap Gwynfor: 10. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith parthau perygl nitradau? OQ57004
Mabon ap Gwynfor: Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel roedd y Prif Weinidog wedi sôn heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi gweld y lluniau'n dod o'r Eidal ar ddechrau'r...
Mabon ap Gwynfor: Weinidog, 10 mlynedd yn ôl, profodd etholwr i fi ddirywiad yn ei iechyd meddwl, a olygodd ei fod o'n gorfod mynd am ofal arbenigol. Presgreibiwyd cyffuriau gwrthiselder a gwrthseicotig iddo, ac mae o wedi bod yn eu defnyddio nhw ers hynny. Ond, er hynny, dydy o ddim wedi cael adolygiad o'r feddyginiaeth yma ers y cyfnod cyntaf—dros 10 mlynedd. Aeth o am adolygiad i'r ysbyty lleol, ond...
Mabon ap Gwynfor: Dwi'n dod i ben rŵan. Menywod, pobl ddu, pobl Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill, sef y rhelyw sydd yn gwneud i fyny y gweithlu nyrsio. Dyma'r un garfan o bobl sydd ar waelod pob tabl anghyfiawnder a thegwch, ac, unwaith eto, dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd y polisi yma i fethu â'u talu nhw'n iawn. Dyma'r bobl sy'n cynnal ein gwasanaethau iechyd ni—hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth...
Mabon ap Gwynfor: Eisoes, yn y Senedd yma, rydyn ni wedi trafod yr egwyddor o UBI a'r pwysigrwydd o roi urddas i bobl trwy eu bod nhw'n cael incwm digonol i fyw. Y Llywodraeth Lafur, wrth gwrs, ddaru gyflwyno'r isafswm cyflog er mwyn trio rhoi rhyw lefel o sicrwydd ac urddas i'r gweithlu. Mae'r egwyddor sylfaenol, felly, o gael cyflog teg am eich gwaith, gan roi urddas i bobl, wedi hen basio. Ond eto, dyma ni...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i ti, Llyr, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad byr i drwy dalu teyrnged i etholwr i mi yn Nwyfor Meirionnydd, David Graves—mab y diweddar Jean Graves, a fu farw ym Mehefin 2016. Mae David wedi bod yn ddygn yn ei ymgais ddiflino dros gyfres o flynyddoedd wrth geisio sicrhau bod yr adroddiad yma'n cael ei ryddhau'n llawn. Cafodd Jean ei rhoi yn...