Canlyniadau 401–420 o 8000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian OR speaker:Siân Gwenllian

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwarchod Hawliau Dynol (28 Ion 2020)

Siân Gwenllian: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau fod hawliau dynol cyfredol yn cael eu gwarchod pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ55008

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (28 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Oes gan Llywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i sicrhau fod pob disgybl yng Nghymru yn dysgu hanes a hanesion Cymru?

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru (15 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma. Fe hoffwn i gymryd y cyfle brynhawn yma i holi'r Gweinidog am ambell i beth sydd yn codi o'i hymatebion hi i adroddiad y pwyllgor—yn gyntaf, yr adolygiad thematig mae Estyn yn mynd i fod yn ei wneud, sy'n edrych ar drefniadau addysgu hanes Cymru mewn ysgolion: ydy'r cylch gwaith wedi'i gytuno, a beth ydy'r amserlen ar gyfer cyhoeddi'r gwaith...

4. Datganiadau 90 Eiliad (15 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Dyna lle'r oeddwn i, yn gwrando ar Stormzy ar argymhelliad Rhun ap Iorwerth, pan ddaeth artist mwy cyfarwydd i mi i sylw'r siartiau. Hoffwn longyfarch fy etholwr Dafydd Iwan am godi i frig siart iTunes gyda'i anthem eiconig 'Yma o Hyd'. Mae llwyddiant Dafydd yn briodas hapus rhwng yr hen rocar a mudiad ifanc ffyniannus YesCymru. Mae Dafydd yn rhannu'r un gwerthoedd â'r rhai a lwyddodd i'w...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canolfannau Diagnosis Cyflym (15 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Rydyn ni'n gwybod bod adnabod canser yn gynnar yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael canlyniad da neu ganlyniad gwael pan ei bod hi'n dod i drin y canser hwnnw. Yn syml iawn, mae darganfod canser yn gynnar yn achub bywyd claf. Mae'r dystiolaeth gadarnhaol sy'n dod yn sgil cynlluniau peilot Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i'w chroesawu'n fawr iawn. Mae pobl Gwynedd yn galw...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canolfannau Diagnosis Cyflym (15 Ion 2020)

Siân Gwenllian: 1. Pryd bydd y Gweinidog yn cyhoeddi gwerthusiad o gynllun canolfannau diagnosis cyflym Llywodraeth Cymru? OAQ54895

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Addysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol mewn Ysgolion (14 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Dwi'n cytuno, fel y mae 70 y cant o rieni a'r Senedd Ieuenctid, y dylid cyflwyno un wers y flwyddyn o gymorth cyntaf i'n disgyblion ni. Rŵan, dwi'n deall y broblem sydd gennych chi efo'r cwricwlwm newydd a'r weledigaeth a'r cysyniad sydd yn fanno, ond mae rhai pethau mor bwysig maen nhw angen y sicrwydd a'r eglurder yna. Dwi'n falch o glywed bod y canllawiau yn mynd i gael eu cryfhau, ond...

8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Mae lleihau’r cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, gan anelu at ddileu tlodi plant yn llwyr, yn haeddu sylw llawn gan Lywodraeth ein gwlad—sylw llawn, blaenoriaeth uchel a gweithredu brys. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa. Siomedig iawn oedd clywed y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bore yma yn dweud nad oedd hi yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Wel, dwi'n siomedig iawn efo'r ateb yna. Rydyn ni yn sôn am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn achos y gŵr efo dementia o Ynys Môn, fel mae'n digwydd. Felly, mae beth rydych chi'n ei ddweud yn anghywir. Diffyg arall y gwnaethoch chi ei adnabod yn y drafodaeth ynglŷn â'r safonau iechyd, cyn iddyn nhw gael eu pasio, oedd y diffyg sylw i gynllunio'r gweithlu meddygol drwy hyfforddi. Cyngor...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Felly, hoffwn ddweud yn glir, os oes dynes fach 90 oed o Wynedd sy'n siarad Saesneg gwael yn mynd i'r ysbyty ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, yn gyfreithiol, ni all ofyn i rywun esbonio iddi beth sy'n digwydd yn Gymraeg, ac mai'r hyn rydym yn ei gynnig yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynlluniau fel y gallant nodi i ba raddau y byddant yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Credaf y bydd yn eithaf anodd perswadio pobl i dderbyn hyn. Unrhyw syniadau?

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Onid y gwir amdani ydy nad ydy polisi'ch Llywodraeth chi yn gallu gwarantu gwasanaeth Cymraeg sylfaenol i gleifion bregus heddiw, a'ch bod chi'n gwbl gywir yn eich dadansoddiad chi na fyddan nhw ar gael ymhen pum mlynedd chwaith, oni bai ein bod ni yn newid y safonau iechyd? Ac, fel y dywedoch chi eich hun, mae sefyllfa fel hyn yn tough sell i bobl sy'n siarad Cymraeg. 

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Yn ôl e-bost anfonoch chi i swyddogion yn holi cwestiynau cyn pasio'r safonau iechyd—. Mae'n dod yn amlwg, o ddarllen yr e-bost yna, eich bod chi'n gwbl effro i ddiffygion y safonau iechyd. Dwi'n dyfynnu—rydych chi'n gofyn hyn: 

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mi wnes i godi achos dyn oedrannus Cymraeg ei iaith o Ynys Môn sy'n byw efo dementia. Mae'r ffaith bod bwrdd iechyd sydd i fod yn gweithredu'n unol â'r safonau iaith hyd yn oed yn ystyried darparu gofal iddo yn Lloegr, lle, wrth gwrs, na fyddai yna wasanaeth Cymraeg ar gael, yn brawf gwbl ddiamheuol fod y safonau ar y byrddau iechyd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cydraddoldeb yn y Gyfraith ( 7 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Mae'n glir bod system gyfiawnder wan yn arwain at anghydraddoldeb drwyddi draw, ac mae anghydraddoldeb i'w weld yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad gan gomisiwn Thomas, ac mae o'n sôn am orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig fel troseddwyr yn y system gyfiawnder a diffyg cyfleusterau i fenywod a diffyg gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl tu mewn i'r system. Ac mae'r adroddiad yn sôn y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol drwy Gyfrwng y Gymraeg ( 7 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Mae'r ffaith y gall bwrdd iechyd sy'n gweithredu o dan safonau'r iaith Gymraeg hyd yn oed ystyried symud claf dementia Cymraeg ei iaith i Loegr lle na fyddai gofal yn y Gymraeg, mae hynny yn brawf diamheuol fod safonau'r Gymraeg yn y maes iechyd yn gwbl, gwbl ddiffygiol. Dyma ddigwyddodd dros y Nadolig yn achos claf dementia oedrannus o Ynys Môn. Mae Plaid Cymru ac eraill wedi dadlau o'r...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hunanladdiad ( 7 Ion 2020)

Siân Gwenllian: Fel rhan o ymchwiliad y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr diweddar, pan ofynnodd yr Organisation for Economic Co-operation and Development i ddisgyblion am eu teimladau am eu profiadau bywyd, fe ddarganfuwyd fod 54 y cant o ddisgyblion yng Nghymru weithiau neu o hyd yn teimlo'n ddiflas—39 y cant ydy'r cyfartaledd rhyngwladol. Mae 63 y cant o ddisgyblion weithiau neu o hyd yn teimlo yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Cymdeithasol drwy Gyfrwng y Gymraeg ( 7 Ion 2020)

Siân Gwenllian: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ54864

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cydraddoldeb yn y Gyfraith ( 7 Ion 2020)

Siân Gwenllian: 3. Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael hefo'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â chydraddoldeb yn y gyfraith, yn sgil adroddiad Comisiwn Thomas? OAQ54863


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.