Hefin David: 9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig? OAQ53972
Hefin David: Y broblem yw nad yw yn nwylo awdurdodau cynllunio, yn aml, i ddarparu'r lefel honno o dai fforddiadwy. Rhoddodd datblygiad a gymeradwywyd yn ddiweddar ar safle hen glwb golff Parc Virginia yng Nghaerffili 350 o dai trwy bwyllgor cynllunio, a dim ond 7 y cant ohonyn nhw—7 y cant—yn rhai fforddiadwy, ac mae'r datblygwyr yn lleihau eu darpariaeth fforddiadwyedd yn barhaus drwy gydol y broses...
Hefin David: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu tai fforddiadwy ar ystadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu? OAQ53971
Hefin David: Mae'r Brifysgol Agored yn enghraifft o'r hyn y gall Prif Weinidog ei gyflawni os bydd yn mynd ar drywydd rhywbeth yn gwbl benderfynol. Llywodraeth Harold Wilson a luniodd 'Prifysgol yr awyr'. Fe'i cyflwynwyd ym 1969, ac mae'n agosáu, eleni, at ei hanner canmlwyddiant fel y Brifysgol Agored. Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu o bell i tua 9,000 o bobl yng Nghymru, ac mae dros 200,000 o...
Hefin David: Rwy'n deall y cyfyngiadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu nodi, ond yn y cyfarfod llawn ar 20 Mawrth cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi ymgyrchwyr pensiwn y wladwriaeth, sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth, llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi ac wedi cysylltu'n uniongyrchol â mi. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip...
Hefin David: 4. Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo yn yr adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi Llywodraeth y DU o ran gwneud oedrannau pensiwn menywod yn gyfartal ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au? OAQ53905
Hefin David: Yn ddiweddar, cyfarfûm â Sefydliad Tai Siartredig Cymru, sy'n cyfrannu at y grŵp gorchwyl a gorffen, ynghyd â thrigolion ystâd Cwm Calon ym Mhenallta, Ystrad Mynach, yn etholaeth Caerffili. Mae nifer o faterion yn dal heb eu datrys mewn perthynas â'r taliadau rheoli ystâd cynyddol y disgwylir i drigolion eu talu, a gwn fod hwnnw'n faes cyfrifoldeb penodol i'r grŵp gorchwyl a gorffen....
Hefin David: 11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol Llywodraeth Cymru ar ddiwygio lesddeiliadaeth? OAQ53869
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llygredd amaethyddol a diwygio'r rheoliadau?
Hefin David: Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fy etholaeth wedi gwneud cais am gyfran o'r cyllid hwnnw. Rwyf wedi dweud wrth y Gweinidog am hynny drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fenter gymunedol sy'n cynnal canolfan galw heibio i bobl ifanc yn ardal Senghennydd ac mae'n hynod werthfawr yn fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae ganddynt dir ar...
Hefin David: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyfredinol ddatganiad am ddosbarthu cymorth ariannol i fentrau yn y gymuned drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru? OAQ53819
Hefin David: Nid wyf yn credu ein bod ni'n synnu pan fo Dr Dai Lloyd yn ein hatgoffa ni ei fod e'n feddyg teulu, oherwydd fy mod yn credu bod llawer ohonom ni wedi cael ymgynghoriadau anffurfiol rhwng dadleuon yn yr ystafell de, wedi gofyn ei gyngor, a chyngor da iawn oedd hwnnw. A minnau'n Aelod Cynulliad dros etholaeth—ac wrth gwrs rhaid parchu cyfrinachedd meddyg-claf yma hefyd—cefais alwad gan...
Hefin David: Ddydd Iau, bydd Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad, 'Datrys Heriau Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru', a bydd yn cael ei lansio yng nghyfarfod brecwast ddydd Iau o'r grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion yr wyf yn gadeirydd arno. Mae gwahoddiad i'r holl Aelodau i fod yno, a disgwylir eu presenoldeb. Noda'r adroddiad fod ein poblogaeth yma yng Nghymru yn hŷn yn gyffredinol nag yn Lloegr...
Hefin David: Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth honno a hefyd y newyddion a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill y byddai athrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael hwb gan gyfradd tâl dyddiol ofynnol wedi ei mandadu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. Rwy'n credu ei fod, yn rhannol, yn deyrnged i waith caled Sheila Jones, sy'n un o etholwyr Caerffili, sy'n gyn-athrawes gyflenwi, ac erbyn hyn hi...
Hefin David: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y telerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi sy'n gweithio yng Nghymru? OAQ53827
Hefin David: Mae hynny'n newyddion da iawn, Prif Weinidog. Ar hyn o bryd, mae syrcas Mondao yn un o'r syrcasau teithio prin yng Nghymru sy'n arddangos anifeiliaid gwyllt, ac maen nhw yn fy etholaeth i ar hyn o bryd. Rydych chi'n gwybod eu bod nhw yno gan eu bod rhoi posteri anghyfreithlon ym mhob rhan o'r fwrdeistref ac yn rhoi eu trelars ar dir cyhoeddus yn anghyfreithlon i hysbysebu'r hyn y maen nhw'n...
Hefin David: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithio (Cymru)? OAQ53789
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau sy'n gwerthu mewn marchnadoedd allforio rhyngwladol?
Hefin David: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cadwyni cyflenwi lleol cryf drwy'r system gynllunio?
Hefin David: Roeddwn am ddweud, 'Wel, roeddwn i'n arfer dysgu myfyrwyr rhyngwladol addysg uwch, yn hanu o'r UE ac o'r tu allan i'r UE,' ac roeddwn yn mynd i ddweud am y berthynas wych oedd gennyf gyda'r myfyrwyr hynny, ond nid oeddwn am fynd gam ymhellach wedyn, yn sgil beth oedd Bethan Sayed yn ei ddweud. [Chwerthin.] Roedd y myfyrwyr a gyfrannai at fy nghyrsiau yn dod ag amrywiaeth eang o wahanol...