Canlyniadau 401–420 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (23 Maw 2021)

Delyth Jewell: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol yr undeb?

8. Dadl ar ddeiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru' (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: Mae'r sefyllfa ail gartrefi mewn rhai mannau o Gymru yn argyfyngus. Mae hon yn ddadl rŷn ni wedi dod gerbron y Senedd ar gymaint o achlysuron dros y blynyddoedd a misoedd diwethaf, ac mae'r sefyllfa yn un sydd yn gwaethygu. Hyd yn hyn, yn rhy aml, ymateb Llywodraeth Cymru ydy dweud bod angen mwy o ymchwil. Wel, mae hen ddigon o ymchwil wedi digwydd erbyn hyn nes ein bod yn mynd bron yn...

4. Cwestiynau Amserol: Diogelwch Menywod (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae hwn yn fater personol iawn i mi, yn anad dim gan fy mod yr un oedran â Sarah Everard, a gafodd ei lladd mewn modd mor erchyll ger Llundain yn ddiweddar, ac y cafodd yr wylnos i gofio amdani ei drin mewn ffordd mor ofnadwy gan yr heddlu. Lladdwyd o leiaf saith o fenywod gan ddynion yng Nghymru eleni yn unig. Rydym yn dal i gyfrif menywod sydd wedi marw, gan gynnwys...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Hyrwyddo Pleidleisio Ymysg Pobl Ifanc (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: Mae hyn mor bwysig, i gael pobl ifanc yn gallu pleidleisio, ond mae fe'n bwysig hefyd ar gyfer y genhedlaeth sydd ar eu hôl nhw. Mae swyddfa'r comisiynydd plant yn rhedeg etholiad seneddol amgen ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb fydd yn gallu pleidleisio yn yr etholiad yn 2026 i gael profiad realistaidd o'r profiad o bleidleisio. Mae 85 o ysgolion...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Llesiant Disgyblion (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Lynne Neagle wedi bod yn ei ddweud am bwysigrwydd canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc a rhoi gobaith iddynt. Mae gan bobl ifanc—. Rwy'n ceisio ailgyflunio'r ffordd rwy'n mynd i eirio hyn, mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn yn mynd i ddweud, 'Maent wedi colli cynifer o brofiadau.' Ond mewn gwirionedd, mae gan bobl ifanc gymaint o brofiadau y mae angen iddynt eu...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Gronfa Lefelu (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: Onid yw’n rhyfeddol? Mae’r gronfa codi’r gwastad yn sarhad uniongyrchol i setliad datganoli Cymru, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, ac mae'n mynd heibio i'n sefydliadau democrataidd. Nid yn unig y mae'r Senedd wedi'i heithrio o benderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud yn Whitehall, ond mae'r gronfa'n clymu llwyddiant prosiectau cymunedol â sylwadau a wnaed gan Aelodau Seneddol...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Gronfa Lefelu (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: 7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa lefelu? OQ56458

4. Cwestiynau Amserol: Diogelwch Menywod (17 Maw 2021)

Delyth Jewell: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru? TQ548

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Maw 2021)

Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ynghylch pwysigrwydd hanfodol helpu pobl ifanc i ymadfer o'r argyfwng, yn enwedig eu hiechyd meddwl a'u lles. Rwyf wedi siarad yn y Senedd o'r blaen am y gwaith gwych y mae Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd—neu SYDIC—yn ei wneud i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc. Rwyf wedi siarad â Dave Brunton,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Perthnasau Rhynglywodraethol (16 Maw 2021)

Delyth Jewell: Prif Weinidog, ni allaf orbwysleisio pa mor ddwfn yr wyf i'n anghytuno â phopeth y mae Mark Reckless yn sefyll drosto erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r prif rwystrau i gysylltiadau rhynglywodraethol da rhwng Cymru a Lloegr yw swyddogaeth ddi-rym, i raddau helaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'r deiliad, Simon Hart, wedi dweud yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (16 Maw 2021)

Delyth Jewell: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Maw 2021)

Delyth Jewell: Iawn, diolch ichi am hynny, Weinidog. Fy nghwestiwn olaf: hoffwn eich holi am rai o'r newidiadau mwy pellgyrhaeddol i'r system gynllunio sy'n sicr o fod eu hangen ar ein cymdeithas. Rwy'n sylweddoli bod cynllunio'n rhychwantu gwahanol bortffolios, ond mae'n amlwg fod cysylltiad â lles trigolion, ac ansawdd tai a'r cymunedau y mae'r tai hynny'n eu cynnal. Oherwydd ar hyn o bryd, yn nwylo'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Maw 2021)

Delyth Jewell: O'r gorau. Diolch ichi am hynny, Weinidog. Byddaf yn aros yn eiddgar i weld beth fydd y cyhoeddiad ddydd Gwener. Gan droi at faes arall, rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos i bawb ohonom pa mor hanfodol yw teimlo'n ddiogel yn ein cartrefi. Mae gormod o bobl yng Nghymru yn teimlo'n anniogel yn yr adeiladau lle maent yn byw, yn aml oherwydd bod cladin y mae'r datblygwr wedi gwrthod cael...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Maw 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Wrth agor, Weinidog, hoffwn adleisio'r hyn y mae Laura wedi'i ddweud. Mae wedi bod yn bleser eich cysgodi yn y swydd hon a dod o hyd i lawer o fannau lle ceir cydsyniad, rwy'n credu. Yn amlwg, ni fyddwn wedi cytuno ar bopeth, ond rwyf eisiau diolch i chi hefyd. Gan droi at y cwestiynau sydd gennyf, mae'r amddiffyniadau ychwanegol i denantiaid yn ystod COVID—y gwaharddiad ar...

14. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22 ( 9 Maw 2021)

Delyth Jewell: Fe wnaf i ddechrau hefyd trwy ddiolch i staff llywodraeth leol am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud, ledled Cymru, yn delio ag effeithiau'r pandemig dros y 12 mis diwethaf. Trwy gydol y cyfnod cythryblus, mae cynghorau yn aml wedi llwydo i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu, a hynny mewn amgylchiadau aruthrol o anodd, boed hynny yn y sector gofal, y sector casglu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 9 Maw 2021)

Delyth Jewell: Wrth inni nesáu at ddiwedd y tymor Seneddol hwn, Trefnydd, ac wrth inni nodi Wythnos Genedlaethol Pontio'r Cenedlaethau, fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth ynglŷn â phwysigrwydd pontio rhwng cenedlaethau. Fe hoffwn i gael datganiad sy'n cydnabod yr unigrwydd gwirioneddol a ddioddefodd aelodau iau a hŷn yn ein cymdeithas ni, yn ogystal â'r rhagfarn ar sail...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Maw 2021)

Delyth Jewell: Rwy'n siŵr y bydd y Senedd gyfan yn ymuno â mi i longyfarch tîm rygbi Cymru am eu buddugoliaeth aruthrol yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, mewn gêm wefreiddiol yng Nghaerdydd, ac ennill y Goron Driphlyg. Unwaith eto, fe wnaethon nhw ymgorffori ysbryd y genedl wrth ddangos cymeriad a phenderfyniad, ac ennill yn groes i'r disgwyl. Ac fe ddangoswyd ganddyn nhw, pan fyddwch yn ddisgybledig a phan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfranogiad Dinasyddion ( 2 Maw 2021)

Delyth Jewell: Dim ond os yw'r demos, neu'r bobl yn cymryd rhan y mae democratiaeth yn gweithio yn iawn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd y pandemig, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o ddatganoli, ond mae'r cynnydd hwnnw yn fregus. Does bosib nad oes angen gweithredu nawr i wneud yn siŵr nad yw pobl yn ymwybodol o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y fan yma yn unig, ond eu bod nhw'n teimlo eu bod...

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: Hunanladdiadau (24 Chw 2021)

Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. 


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.