Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, byddaf yn nodi'r angen dybryd i gynhyrchu cynllun a ariennir ar y cyd ac a gefnogir gan y Llywodraeth i unioni gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin allanol a rhywfaint o gladin waliau mewnol mewn cartrefi yng Nghaerau yn fy etholaeth o dan raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/Arbed 1, ac i wneud iawn am y difrod a wnaed i gartrefi a bywydau pobl....
Huw Irranca-Davies: Weinidog, tybed a wnewch chi ildio ar hynny.
Huw Irranca-Davies: Weinidog, fe wyddoch fod grŵp cydweithredol y Senedd, mewn gwirionedd, wedi cynhyrchu adroddiad ar hyn o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn wir, roedd yn cefnogi'n fawr y dull cydweithredol ar lawr gwlad o ddatblygu rhwydwaith bwyd cryfach, lle ceid rhwydweithiau bwyd lleol yn wir, lle gallai cynhyrchwyr sylfaenol, yn ogystal â chynhyrchwyr cydweithredol, a sefydliadau ar lawr gwlad, fod...
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o oblygiadau adolygiad gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer cyllidebau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru?
Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, yr anhawster gyda hyn a'r diffyg ymgysylltu yw'r diffyg cyfatebiaeth yn y fframwaith polisi yng Nghymru, gyda Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ein dull o fuddsoddi economaidd, ein dull o ymdrin â swyddi a sgiliau a'n dull o ddatblygu ac integreiddio'r sector addysg uwch yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i bweru'r economi yn ei blaen. Os cawn ni fewnbwn ar hap o gyllid gan...
Huw Irranca-Davies: 7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa adnewyddu cymunedol? OQ57196
Huw Irranca-Davies: Gadewch inni fod yn glir: dynion yn unig sy'n sbeicio. Dim ond dynion sy'n treisio ac yn cam-drin menywod ar ôl eu gwneud yn anymwybodol; problem dynion ydyw, nid problem menywod. Ac eto, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae pobl yn dweud wrth fenywod sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel, lle mae clybiau nos a bariau a heddlu a grwpiau cymorth yn cynnig mesurau i helpu menywod i gadw eu...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ganmol, yn ddiffuant, yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a phob Gweinidog, nid yn unig yn awr, ond yn y cyfnod cyn y COP hefyd? Mae wedi bod yn wych gweld hynny. Mae gennym fwy i'w wneud—mwy o lawer—ond gobeithiwn y bydd yr un arweinyddiaeth yn dal i fod yno erbyn diwedd y COP, yn ystod yr ychydig ddyddiau olaf hyn, wrth wireddu a chadw at y cynigion i...
Huw Irranca-Davies: Mae'n iawn ein bod ni fel Senedd yn dangos parch a chydnabyddiaeth o'r aberth y mae personél ein lluoedd arfog, yn ddynion ac yn fenywod, wedi ei wneud dros lawer iawn o flynyddoedd, a byddwn ni'n sefyll gyda'n gilydd yn y dyddiau nesaf ac ar Sul y Cofio i gofio'r aberth sydd wedi ei wneud; y rhai sydd wedi dychwelyd, sydd wedi eu hanafu, yn gorfforol neu'n feddyliol, o'u rhan mewn diogelu...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaethom drafod y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, yn dilyn cais gan y Gweinidog i gyflymu ein gwaith craffu, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt.
Huw Irranca-Davies: Fel y dywedodd y Gweinidog eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i etholwyr wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy mewn rhai isetholiadau llywodraeth leol a gynhelir rhwng y dyddiad pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym a 28 Mawrth 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r etholwyr gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyngor Llywodraeth Cymru, neu gyngor ymarferydd meddygol cofrestredig mewn...
Huw Irranca-Davies: Felly, y tro hwn, cytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu deall y gyfraith sy'n berthnasol iddynt. Diolch yn fawr, Llywydd.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n siarad fel Cadeirydd ein pwyllgor nawr. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i gyflymu ein gwaith craffu, a gosodwyd ein hadroddiad yn syth wedyn.
Huw Irranca-Davies: Cododd ein hadroddiad yr hyn y bydd yr Aelodau bellach yn ei gydnabod yn bwyntiau teilyngdod eithaf cyfarwydd o dan Reol Sefydlog 21.3, sef tynnu sylw at unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, a diffyg ymgynghori ffurfiol ac asesu'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau. Fe wnaethom ni gydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r pwyntiau hyn, fel y nodir yn y...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n gofyn am eich cyngor doeth ar sut y gallwn ni gael mater penodol iawn wedi ei godi yma yn y Siambr. Gallai fod drwy ddadl ar berchnogaeth tir cymunedol, neu, yn wir, swyddogaeth Ystâd y Goron, neu rywbeth arall a allai helpu i ddatrys problem hirsefydlog yng nghwm Garw hyfryd. Mae gennym ni hen reilffordd lofaol sydd yn llwybr troed a llwybr beicio cymunedol poblogaidd erbyn hyn, ond...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw, a gallech ailadrodd y cwestiwn rwy'n ei ofyn am ardal fy mwrdd iechyd fy hun ar gyfer Cymru gyfan, lle nad oes un ateb, ond mae'n fater o gael yr adnoddau cywir ar draws yr ystod honno o ffactorau a fydd yn helpu i gyflymu’r broses o ryddhau cleifion. Ac wrth gwrs, mae hyn yn bwysig i gleifion yn yr ysbyty ac yn bwysig o ran rhyddhau gwelyau, ond hefyd o...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella pa mor gyflym y caiff cleifion eu rhyddfau o'r ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ57087
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu, mae'r ddadl hon yn dilyn penderfyniad y Senedd ddiwedd mis Rhagfyr i gydsynio i Fil Amgylchedd Llywodraeth y DU. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm atodol a'r ohebiaeth sy'n gysylltiedig ag ef yn ein cyfarfod ddoe, ond bydd y Senedd yn deall nad ydym ni wedi cael amser i adrodd yn ffurfiol. Ond a gaf i ddweud o'r cychwyn cyntaf ein...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch a phrynhawn da, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw'n llwyr, yn enwedig ar ôl lansio strategaeth sero-net Cymru. Fel yr ydych wedi dweud, mae'n ddogfen fyw, ond mae'n dangos lefel uchel iawn o uchelgais, a bydd yn sbarduno newidiadau gwirioneddol ddifrifol yn y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn teithio. Mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond maen...
Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf i gyd, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddiolch i Trafnidiaeth Cymru a'r heddlu trafnidiaeth yn y de ar fy rhan i am eu hymateb effeithiol iawn nhw i'm pryderon ynghylch lleihau'r defnydd o fygydau wyneb ar deithiau lleol ar y trên o Ogwr i Gaerdydd? Maen nhw wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith ac maen nhw'n gwneud rhywfaint o gynnydd nawr, mewn gwirionedd, ymysg defnyddwyr trafnidiaeth,...