Lesley Griffiths: Mae eich cyfeiriad at y wefan, rwy'n credu, yn hynod o bryderus, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei lle, ac fe ofynnaf iddi wneud rhai ymholiadau penodol mewn cysylltiad â hynny. Ynghylch y farn a oes angen ymchwiliad cenedlaethol, mae'n amlwg fod plismona yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, a nhw felly sydd i benderfynu a ydyn nhw'n credu y dylai ymchwiliad...
Lesley Griffiths: Mae gennym ni ffydd. Fel y dywedais i, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cwrdd â'r prif gwnstabl a'r comisiynydd heddlu a throseddu i drafod y pryderon. Hyd y gwn i, nid yw wedi cael cyfarfod pellach. Fe wnaethoch chi sôn am y sylwadau a gyflwynodd y teulu. Mae'n bwysig iawn, yn amlwg, bod gan bobl sydd eisiau amlygu eu pryderon, os ydyn nhw wedi dioddef unrhyw drosedd, ffydd yn...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu bod yr honiadau diweddaraf yn adroddiad The Sunday Times ddydd Sul diwethaf yn peri pryder mawr. Fel Llywodraeth, ac rwy'n siŵr fel pawb yn y Siambr yma, rydym ni'n sefyll yn erbyn llygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia ym mhob ffurf. Dydw i ddim wedi gweld y sylwadau a wnaed gan y teulu hyd yma. Fel y gwyddoch chi, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru; mae'n...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rydym yn cydnabod bod y cynnydd mewn costau ynni, yr argyfwng costau byw, yn amlwg yn rhoi mwy o bwysau ar ein hysgolion, ar ein hawdurdodau lleol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal ag ar gymaint o'n hetholwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu posibl i helpu pobl ledled Cymru gyda'r argyfwng costau byw. Byddwch yn ymwybodol mai ein...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu y cymeraf y cyfle yn gynnar iawn yn y sesiwn holi hon i ddweud na fydd y cyllid ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru—£1.2 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf—yn llenwi'r bylchau mawr yn ein cyllideb. Fe wnaf hynny'n glir iawn. Rydym ni'n wynebu rhai dewisiadau anodd iawn fel Gweinidogion wrth i ni gyflwyno cyllideb y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu ein...
Lesley Griffiths: Fel yr wyf eisoes wedi sôn, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu i ofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb gydag Ysgrifennydd Gwladol BEIS, ac rwy'n siŵr, ar ôl iddo gael y cyfarfod brys hwnnw, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau lleol am y datblygiadau diweddaraf yn y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau gorau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw parhau i roi...
Lesley Griffiths: Rydym yn parhau i wynebu dewisiadau anodd iawn wrth i ni baratoi ein cyllideb ddrafft 2023-24. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi datgan, byddwn yn cadw ein pwyslais ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Fel y dengys dadansoddiad diweddar Trysorlys EM, roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru 17 y cant yn uwch nag yn Lloegr yn 2021-22. Byddwn yn darparu manylion pellach yn ein cyllideb ddrafft...
Lesley Griffiths: Yn bendant, a byddwch wedi clywed fy ateb cychwynnol i Jayne Bryant. Ac, fel y soniais, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol BEIS i geisio cyfarfod brys. Rwy'n credu mai dim ond ddoe neu heddiw yr anfonwyd y llythyr hwnnw. Felly, byddwn i'n gobeithio—ac os oes gennych chi unrhyw ddylanwad—a byddwn i'n awgrymu ei fod yn gyfarfod brys i drafod hyn, wrth symud...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gan Gasnewydd glwstwr lled-ddargludyddion o arwyddocâd byd-eang, ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'n cael ei ddal yn ôl o ganlyniad i'r bennod hon. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant wastad wedi sefyll dros y sector hollbwysig hwn yn ei hetholaeth, ac rydym yn uchelgeisiol o ran y rhan y gall ei chwarae. Rwy'n credu bod gweinyddiaeth Biden wir wedi rhoi...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ffaith bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud o'r diwedd, sydd wedi rhoi rhywfaint o eglurder sydd i'w groesawu. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion yn hanfodol i economi Cymru, ac rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei strategaeth ar led-ddargludyddion a buddsoddi yn y sector hynod o bwysig hwn ar frys.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi arwain uwchgynhadledd o ddarparwyr gwasanaethau canser ac arweinwyr fis diwethaf i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer gwasanaethau canser o effaith y pandemig. Rwy'n gwybod ei bod hi'n parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd i ymdrin â'r mater.
Lesley Griffiths: Byddaf i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar y mater hwnnw.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r honiadau yn yr adroddiad yn peri pryder mawr. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn falch iawn bod y llu'n glir iawn am hyn. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni'n sefyll yn erbyn llygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia yn eu holl ffurfiau. Rydych chi'n sôn bod plismona yn amlwg yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs,...
Lesley Griffiths: Nid fi fyddai hi; y Gweinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, gan mai hi sy'n gyfrifol am CNC. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn cael trafodaethau gyda CNC ynglŷn â hyn, ond nid wyf i'n gweld y byddai hynny ar gyfer ddatganiad llafar. Os oes unrhyw wybodaeth arall y mae'r Gweinidog yn teimlo bod angen iddi hi ei rhannu â ni, byddaf i'n gofyn iddi wneud datganiad ysgrifenedig.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r cyfrwng digidol nawr yn chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas, o ganiatáu i bobl ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a chyhoeddus, er enghraifft, neu leihau teimladau o unigrwydd ac unigedd drwy gynnal cysylltiad â'u ffrindiau a'u teuluoedd, neu, wrth gwrs, barhau i weithio a chael mynediad at ddysgu. Ond wrth gwrs, mae yna bobl sy'n dewis peidio cymryd rhan, neu nad ydyn nhw'n...
Lesley Griffiths: Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i'r gwerthoedd cadwraeth yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu eich bod chi wir wedi gwneud y peth cywir wrth ysgrifennu at y Gweinidog, ac rydych chi'n dweud eich bod chi wedi cael ei hymateb defnyddiol.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn awyddus iawn i'n cyn-filwyr a'u teuluoedd fod yn ymwybodol o'r arolwg, a byddaf i'n hapus i wneud hynny a chyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio'r drafodaeth ar gyllideb Comisiwn y Senedd yfory tan yr wythnos nesaf. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Lesley Griffiths: Diolch. Fe wnaf i ddechrau gyda'r cwestiynau ynghylch risg iechyd y cyhoedd, oherwydd yn amlwg nid oeddwn wedi cael y cwestiynau hynny o'r blaen, ac mae'n dda gallu ailadrodd mai cyngor Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yw bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws hwn yn isel iawn, a chyngor Asiantaeth Safonau Bwyd y DU yw bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU....
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Yn amlwg, rydych chi'n mynd yn groes i'r cyngor gwyddonol a'r cyngor a roddwyd i mi gan fy mhrif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad â lletya gorfodol, ac fe nodais, yn glir iawn yn fy marn i, yn fy natganiad llafar y rhesymau pam nad ydym wedi dilyn Lloegr. Nid ydych yn gofyn pam nad yw Lloegr wedi ein dilyn ni, ond y rheswm pam nad ydym ni wedi dilyn...