Mike Hedges: Yn fyr iawn, os ydym am ddysgu hanes Cymru, rwy'n credu bod angen inni ddysgu hanes teyrnasoedd yr hen Gymru. Maent yn golygu rhywbeth i lawer ohonom. Ymddengys ein bod wedi mynd tuag yn ôl. Pan oeddwn yn gwneud hanes lefel O, roeddem yn gwneud hanes cymdeithasol ac economaidd. Nawr, yn eu TGAU, maent yn astudio America, De Affrica a'r Almaen. Rwy'n credu bod angen i ni fynd tuag yn ôl. Yn...
Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y Gorchymyn drafft yng nghyd-destun ei waith ehangach ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU. Ni fydd ein gwaith ar y fframwaith cyffredin yn cael ei gwblhau tan yn llawer diweddarach y tymor hwn pan fydd yr holl...
Mike Hedges: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddechrau gyda dau o'm safbwyntiau hirsefydlog? Mae angen mwy o dai arnom ni, yn enwedig tai cyngor, i ddiwallu'r angen, ac, yn ail, mae angen i ni ddychwelyd at safon Parker Morris neu safon debyg iawn i honno, sy'n seiliedig ar y rhagdybiaeth nad yw hi byth yn bosibl gwneud tŷ neu fflat da allan o...
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Tua'r adeg hon bob blwyddyn, bydd yr Aelodau o'r Senedd o bob plaid yn gwisgo eitemau pinc fel rhan o ymgyrch Gwisgwch Binc canser y fron. Mae'r ffotograffau hyn yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol ac i bapurau lleol. Eleni, oherwydd y pandemig, ni allwn gymryd rhan mewn digwyddiad yn y Senedd, ond nid wyf am golli'r cyfle i ddangos fy nghefnogaeth i ymgyrch canser y fron....
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae llawer o bobl hŷn, yn enwedig rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd. A wnaiff y Llywodraeth hyrwyddo sesiynau Zoom i'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain er mwyn iddynt allu gweld a siarad â'u ffrindiau pan fydd TGCh ar gael iddynt? A hefyd, a ellir gwneud mwy i gynyddu nifer y bobl sy'n cael budd o wasanaeth cyfeillio...
Mike Hedges: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem unigrwydd ymhlith pobl hŷn? OQ55583
Mike Hedges: Yn gyffredinol, rwy'n croesawu cynigion y fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae'r newidiadau arfaethedig yn gwella'r drafft yn fawr. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 47 o 50 o gasgliadau'r pwyllgor, er ei bod unwaith eto'n siomedig mai dim ond mewn egwyddor yr oedd 22 ohonyn nhw wedi'u derbyn. Ac fel y...
Mike Hedges: Diolch, Llywydd dros dro. Mae'r ddadl hon yn ein tynnu gam yn nes at gytuno ar drefniadau trosiannol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae wedi bod yn daith hir. Mae craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU wedi bod yn elfen ganolog o waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar Brexit. Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyntaf mewn cysylltiad â Bil Amaethyddiaeth y DU yn...
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad llafar gan y Llywodraeth—yr un cyntaf o ran darparu prydau ysgol am ddim? Rydym wedi cael nifer o ddatganiadau ysgrifenedig ar y ddarpariaeth, o ran ei hehangu, ac rwy'n falch iawn o'r rheini, ond a allwn ni gael datganiad llawn ar beth yn union yw'r sefyllfa o ran hynny nawr ? Mae fy marn i yn hysbys, y dylai prydau ysgol am ddim barhau trwy bob gwyliau a,...
Mike Hedges: Credaf fod rhywbeth sylfaenol o'i le mewn cymdeithas lle mae rhai pobl heb gartref, neu'n byw mewn tai cwbl anaddas—gorlawn, llaith, oer—ac eraill sydd â dau gartref neu fwy, gydag o leiaf un y maent ond yn ei ddefnyddio'n anfynych. Rwy'n credu bod hynny'n foesol anghywir. A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, ac mae un ohonynt yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â bron bopeth a ddywedodd Nick Ramsay a fy nghyfaill Alun Davies? Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud wrth Nick Ramsay yw pe baem yn gostwng cyfradd uwch y dreth incwm 10 y cant, onid yw'n credu y byddai Lloegr, dros y ffin, yn gwneud yr un peth yn union, wrth inni gymryd rhan...
Mike Hedges: Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Roeddwn i, fel mae llawer o rai eraill yma, yn ymwybodol o ba mor anodd yw dod yn rhugl yn y Gymraeg fel oedolion. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chydweithwyr ynghylch pwysigrwydd dechrau dysgu Cymraeg yn ifanc, yn enwedig o ran cefnogaeth i Mudiad Meithrin, Ti a Fi a sicrhau bod dechrau disglair trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael?
Mike Hedges: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc? OQ55536
Mike Hedges: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding nid yn unig am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond am godi'r mater pwysig hwn? Hoffwn nodi dau bwynt cyflym iawn. Yn gyntaf, a oes unrhyw reswm pam na ellir defnyddio cyfalaf trafodion i ariannu'r gwaith angenrheidiol, gyda hawliad yn cael ei wneud yn erbyn gwerth yr eiddo sydd ar werth? Mae hwn yn arian sy'n mynd i'r sector preifat ac sy'n...
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar amddiffyn y bodau tinwen?
Mike Hedges: A gaf i yn gyntaf groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae'n fy synnu cyn lleied o arian oedd ei angen i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref ar ddechrau'r pandemig, a chredaf mai un peth da sy'n deillio o'r pandemig yw'r syniad o geisio mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog yn credu bod atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth ar gyfer y...
Mike Hedges: Diolchaf i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Er mwyn ei roi ar y cofnod, mae fy chwaer yn hollol fyddar, ac rwyf i hefyd yn llywydd Grŵp Trwm eu Clyw Abertawe. Mae COVID wedi cael effaith ddifrifol ar y gymuned pobl fyddar, gan fod masgiau yn atal gallu pobl fyddar i ddarllen gwefusau, neu hyd yn oed gwybod bod rhywun yn siarad â nhw. Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo iaith arwyddion a...
Mike Hedges: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gymuned fyddar? OQ55482
Mike Hedges: Rwyf i hefyd yn falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Mae hyn yn golygu nad ydym ni'n ymateb i gyllideb ddrafft, ond yn cynnig awgrymiadau i'w hystyried. Mae hefyd yn golygu y gall pleidiau gwleidyddol eraill lunio eu cynigion cyllideb eu hunain. Yn anffodus, hyd yn hyn, y cyfan a gawn yw galwadau am drethi llai yn fan hyn a chynnydd yn y gwariant...
Mike Hedges: Diolch yn fawr, Gweinidog. A allwch chi gadarnhau, heb gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd, o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd bod yn rhaid i bob Aelod roi'r un mynediad i'r farchnad i holl Aelodau eraill Sefydliad Masnach y Byd ar sail y wlad a ffefrir fwyaf, nid dim ond dewis a dethol y rhai y maent yn eu hoffi? Yn ôl a ddeallaf, os nad oes gennym ni dariffau ar ddur Ewropeaidd, byddai...