Canlyniadau 421–440 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Capasiti'r GIG (17 Hyd 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein GIG yn wynebu galw nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen. Yn y 12 mis diwethaf, cafwyd ymhell dros filiwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Mae dros bedwar o bob 10 ohonom yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu a chaiff llawdriniaethau eu canslo fel mater o drefn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Tyfu Economi Cymru (17 Hyd 2018)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, Weinidog, bydd economi Cymru yn trawsnewid dros y degawdau sydd i ddod wrth i dechnolegau digidol ddod yn fwy amlwg. Bydd yn rhaid i fusnesau addasu wrth i ddata ddod yn nwydd mwy gwerthfawr na dim arall. Er mwyn helpu ein heconomi i addasu, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich...

7. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol (16 Hyd 2018)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Rwy'n croesawu fframwaith diweddar eich Llywodraeth ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Mae cael byw'n annibynnol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, ond i unigolyn ag anableddau ceir cymaint o rwystrau sy'n gwneud byw'n annibynnol bron yn amhosibl i lawer. Mae cymydog i mi, er enghraifft, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwariant Awdurdodau Lleol (16 Hyd 2018)

Caroline Jones: Prif Weinidog, o ganlyniad i setliad llywodraeth leol eleni, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth i yn rhybuddio bod toriadau i wasanaethau hanfodol yn anochel. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cau toiledau cyhoeddus ym Mhorthcawl, mae Abertawe yn cau cartrefi gofal, ac mae Castell-nedd Port Talbot ar ben eu tennyn oherwydd y toriadau. Prif Weinidog, sut mae...

10. Dadl ar NDM6813 — Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren (10 Hyd 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Rhun a Darren am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, a diolch i Neil am ei ymdrechion i sicrhau nad yw'r gwaddodion sy'n cael eu dympio'n creu unrhyw risg i iechyd pobl na'n hamgylchedd. Efallai mai yn rhanbarth Neil y mae gwastraff Hinkley yn cael ei ddympio, ond mae'n effeithio ar fy rhanbarth i hefyd, rhanbarth sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd a hafan i blanhigion...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Bwlio ar Sail Rhyw (10 Hyd 2018)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae achosion cynyddol o fwlio homoffobig a bwlio ar sail rhywedd ar-lein yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos hon, cawsom wybod bod gweinidog hoyw yn wynebu cam-drin ar-lein cyson, gan amlaf yn galw arno i ladd ei hun. Mae menywod ifanc yn cael eu cymell i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd y llif cyson o...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Bwlio ar Sail Rhyw (10 Hyd 2018)

Caroline Jones: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw? OAQ52720

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (10 Hyd 2018)

Caroline Jones: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru ar dalwyr y dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?

7. Dadl: Adroddiad Canolfan Lywodraethiant Cymru — Carcharu yng Nghymru — Ffeil Ffeithiau ( 9 Hyd 2018)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar garcharu yng Nghymru yn tanlinellu beth y mae llawer ohonom wedi ei ddweud dros nifer o flynyddoedd: mae Cymru yn dibynnu ar garchardai yn Lloegr. Fel un a oedd yn rhedeg ei hadran ei hun yn y gwasanaeth carchardai, gwn fod y carchar yn gweithio, ond dim ond os yw'n cael ei ariannu'n iawn ac yn cael adnoddau priodol. Yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Allforion i Wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ( 9 Hyd 2018)

Caroline Jones: Prif Weinidog, er ei bod hi'n wir, ar hyn o bryd, bod y rhan fwyaf o nwyddau allforio Cymru yn mynd i'r UE, nid yw'r rhagolygon ar gyfer twf, Brexit neu beidio, yn addawol. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol i gyd wedi israddio'r rhagolygon twf cynnyrch domestig gros i tua 1.5 y cant, tra bydd twf pum i 10 gwaith yn fwy...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad ( 3 Hyd 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Lynne, Adam a David am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae'r wythnos nesaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod a pha well ffordd i'w nodi na thrafod y cymorth y mae Cymru'n ei roi i'r teuluoedd yr effeithir arnynt gan farwolaeth baban? Mae'n ffaith drist nad yw colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban yn ddigwyddiadau anghyffredin. Mae un o bob pedwar...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Castell-nedd Port Talbot, fel pob un o gynghorau Cymru, yn gorfod lleihau'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol o ganlyniad i ddiffygion enfawr yn eu cyllidebau. Mae'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn un o'r gwasanaethau pwysicaf y mae awdurdod lleol yn eu darparu. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cydweithwyr mewn llywodraeth leol ynglŷn â'r camau y gallant eu...

6. Dadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd' (26 Med 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hadroddiad. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed, ac mae'r rhai sy'n gwadu ei effaith neu ein rôl yn ei greu wedi eu halltudio i'r cyrion, diolch byth, ynghyd ag eraill sy'n credu mewn cynllwynion gwallgof, megis y rhai sy'n credu bod y ddaear yn wastad neu'r rhai sy'n credu mai stori ffug...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Tagfeydd Traffig ar yr M4 (26 Med 2018)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifir bod tagfeydd ar gyffordd 43 yn costio oddeutu £6.5 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a thagfeydd ar gyffordd 41 yn costio £5.1 miliwn yn ychwanegol. Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar fynd i'r afael â thagfeydd o gwmpas Casnewydd a chyflwyno'r metro i gynnig dewisiadau gwahanol hwylus a dibynadwy yn lle'r car. Ysgrifennydd y Cabinet, a all...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Ymateb Ambiwlansys (25 Med 2018)

Caroline Jones: Prif Weinidog, bu cynnydd aruthrol i'r galw am ambiwlansys—cynnydd o tua 128 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Ond mae'r model ymateb clinigol newydd i fod i sicrhau bod y rhai hynny sydd â'r mwyaf o angen yn cael yr ymateb cyflymaf—boed hynny'n ambiwlans â chriw llawn neu barafeddyg ymateb cyflym. Fodd bynnag, y llynedd, cymerodd 16 y cant o alwadau coch fwy na 10 munud ac arhosodd...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Safonau Ysgolion (19 Med 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â rhoi cyfle i ddisgyblion fanteisio ar eu doniau a'u galluogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Er fy mod yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud, mae gennym lwybr hir i'w droedio o hyd, a rhaid inni gael strategaeth ymarferol ar waith er mwyn sicrhau llwyddiant i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfraddau Goroesi Canser (18 Med 2018)

Caroline Jones: Diolch. Prif Weinidog, diagnosis cynnar yw'r peth allweddol i wella cyfraddau goroesi canser cleifion canser Cymru. Cysylltodd meddyg teulu â mi gan fynegi pryder ynghylch nifer yr atgyfeiriadau canser sy'n cael eu hisraddio fel mater o drefn gan feddyg ymgynghorol. Mae'r meddyg teulu a gododd y mater hwn gyda mi yn credu, fel yr wyf innau, y dylai'r meddyg teulu gael ei hysbysu am y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfraddau Goroesi Canser (18 Med 2018)

Caroline Jones: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser? OAQ52610

6. Datganiad gan Paul Davies: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod — Bil Awtistiaeth (Cymru) (18 Gor 2018)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth i Gymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae rhai ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru. Camau gweithredu y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau sbectrwm awtistiaeth wedi...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Digideiddio Gwasanaethau Cyhoeddus (18 Gor 2018)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae cynghorau ledled Cymru yn edrych ar ddeallusrwydd artiffisial i ymgymryd â rhai o swyddogaethau eu staff. Mae cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhith-gynorthwyydd i ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd, ac mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno bot sgwrsio ar gyfer ei ymholiadau ar-lein. Mae adroddiad gan PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y bydd y newid...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.