Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant 13, fel y gwnaethom gyda gwelliant tebyg iawn yng Nghyfnod 2, pan aeth i bleidlais gyfartal. Un o'r anghysonderau gyda'r Bil drafft, yn fy marn i, oedd methiant i ddiffinio cysyniadau allweddol, a oedd yn fy nharo fel ychydig yn anffodus pan oeddem ni'n sôn am Fil sy'n ymwneud â gwneud cyfraith Cymru, yn y ddwy iaith, yn haws dod o hyd...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy gefnogi cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen y ddinas? Mae'n ddwy flynedd a chwarter ers cyhoeddi hwnnw ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, a'r teimlad cyffredinol yw nad ydym wedi mynd fawr pellach ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod siarad. Hoffwn, os caf, ofyn am ddau ddatganiad yn amser y Llywodraeth—cyn diwedd y sesiwn hwn, os oes modd. Bydd yr...
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Brexit: gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n galw ar—pwy sy'n dechrau gyda ni? Mark Reckless. Mae'n ddrwg gyda fi. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. A galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Iawn. Wel, mae'r ymchwil ar gyfer hynny wedi dod o waith Dr Elin Jones, a wnaeth y gwaith rhagarweiniol ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig yn ôl yn 2013 a 2015, ac mae tystiolaeth lawer mwy diweddar wedi dod gan Martin Johnes, rwy'n credu, o Brifysgol Abertawe, sy'n dangos, er bod hynny ar gael i athrawon ei addysgu, nid yw'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gwneud defnydd o'r modiwlau hynny. A'r...
Suzy Davies: Rwy'n wirionedddol—. Mewn chwe munud, nid oes unrhyw ffordd y gallaf wneud cyfiawnder â phawb ar hyn. Ond rwy'n falch iawn fod hyn wedi'i dderbyn ar gyfer dadl heddiw. Ni allaf feddwl am y tro diwethaf i mi fwynhau dadl cymaint, yn ogystal â dysgu oddi wrthi. Mae'n debyg mai'r cwestiwn yw pam ein bod yn ei chael o gwbl, ac mewn gwirionedd, fe'm trawodd, ar ôl dilyn rhywfaint o...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, pawb, hefyd.
Suzy Davies: Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn i ddirymu'r rheoliadau hyn, nid ar sail eu cynnwys, ond oherwydd eu bod yn anwybyddu rôl graffu'r Senedd hon. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn hawdd i ymarferwyr fodloni gofynion y rheoliadau—mae rhywun arall yn talu amdanyn nhw a dydyn nhw ddim yn heriol. Dwi ddim am osod safonau ar fusnesau bach, hyd yn oed yn uniongyrchol, ond camau syml yw'r rhain sy'n...
Suzy Davies: Cytunaf â Bethan Sayed fod sefydliad, boed yn gorff ymreolaethol ai peidio, pan fo'n derbyn arian cyhoeddus, yn atebol i'r lle hwn, naill ai drwoch chi neu drwom ni yn uniongyrchol. Rwyf am eich holi ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch am y trafodaethau a gawsoch gyda CCAUC, oherwydd, mewn gwirionedd, credaf mai yma, fel Cynulliad, yw'r man lle gallwn fod yn gofyn rhai cwestiynau. Dywedoch nad...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb i David Rees yn y fan honno. Rwy'n meddwl sut y gallwch weithio gyda CNC gyda phortffolios eraill o fewn y Llywodraeth yn ogystal â thwristiaeth a lle gall y posibiliadau hyn gydblethu â'i gilydd. Ym mis Ionawr, gofynnais a oeddech yn meddwl bod cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gydag ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc chwarae rhan yn ailblannu coed yn eu...
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ffermwyr yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog ac Aelodau.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar aer glan. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Ac yn olaf, Joyce Watson.
Suzy Davies: Diolch, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddwy eitem, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw llythyr at bob Aelod Cynulliad, efallai gennych chi, a dweud y gwir, ond nid wyf i 100 y cant yn siŵr gan bwy, ynghylch pam nad yw'r ddogfen ymgynghori—y ddogfen hon—ar ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllideb a Chyrff Dynodedig) 2018—gwn nad yw'n swnio'n gyffrous iawn—ar wefan y...
Suzy Davies: Diolch am hynna, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydym ni'n dechrau ei weld ar hyn nawr. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion mai Castell-nedd Port Talbot, yn fy rhanbarth i, yw'r awdurdod lleol cyntaf i ymrwymo i gynllun cyflogwyr FairPlay i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae gennym ni fylchau cyflog eraill hefyd, gan gynnwys gyda'r gymuned pobl...
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru? OAQ54081