Russell George: Gan fod yr economi a'r sector sgiliau yn cydblethu, mae newyddion drwg i'r economi, yn anffodus, yn newyddion drwg i sgiliau. Wrth i mi sôn am sgiliau, rwy'n credu yr hoffwn i'n gyntaf gydnabod y rhan allweddol y mae'r prentisiaid iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i chwarae mewn ymdrech i gyfyngu'r pandemig ac ymateb iddo. Roedd y tystion yn awyddus i ddweud wrthym sut yr oedd prentisiaid...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd, i waith caled ein staff yn y GIG ac oherwydd bod dinasyddion Cymru wedi chwarae eu rhan ac wedi aros gartref, rydym ni, gobeithio, wedi pasio'r marc dŵr uchel. Fodd bynnag, wrth i'r llanw gilio, wrth gwrs, mae'n datgelu argyfwng economaidd, a dyna pam y gofynnais am y ddadl gynharach hon. Mae cyhoeddiad Airbus ddoe yn rhan o'r argyfwng hwnnw sy'n datblygu. Rwy'n...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig yn fy enw i. Hoffwn i ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu'r ddadl hon yn gynharach nag a fyddai wedi digwydd o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau.
Russell George: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno ag eraill sydd wedi gwneud sylwadau. Rwy'n credu ei fod yn newyddion siomedig ac yn ergyd drom i'r sector awyrennau yng Nghymru, ac rwy'n credu ein bod yn meddwl am yr holl staff hynny yr effeithiwyd arnynt. Gofynnwyd rhai o'r cwestiynau allweddol, ond rwy'n credu ei bod hi yn peri pryder bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Ryanair i ofyn i'r...
Russell George: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r ateb yna'n fawr. Credaf fod busnesau twristiaeth yn troi at Lywodraeth Cymru am ryw fath o amserlen uchelgeisiol ynghylch pryd y gallan nhw ailagor eu drysau eto—gan weithredu, wrth gwrs, yn ôl canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Er mwyn osgoi niwed annileadwy i economi'r canolbarth—ac rwy'n gwybod eich bod yn poeni am economi'r canolbarth...
Russell George: Diolch am eich ateb, Gweinidog. Os caf i, efallai, roi enghraifft ichi o ddarparwr gofal plant dielw ym Machynlleth yn fy etholaeth i, gyda gwerth ardrethol o £12,000. Maen nhw wedi cysylltu â mi i ddweud bod y mwyafrif helaeth o'u hincwm yn deillio o godi ffioedd am blant sy'n derbyn gofal yn hytrach na rhoddion. Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gymwys am y grant rhyddhad ardrethi...
Russell George: Trefnydd, byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi ymchwilio i'r mater cwestiynau llafar ysgrifenedig sydd heb eu hateb, yn dyddio'n ôl, yn fy achos i, cyn belled â 2016, gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Gwn fod hwn yn fater a godwyd nifer o weithiau yn y Siambr hon, ond teimlaf nawr fod angen inni ddarganfod pam nad yw cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu hateb gan Weinidogion Llywodraeth...
Russell George: Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Busnes a Chynllunio yn Senedd y DU, a oedd yn cynnwys cyfres o fesurau brys i helpu busnesau i addasu i ffyrdd newydd o weithio i ymateb i'r pandemig presennol. Mae'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru wedi dweud bod angen map ffordd eglur arno ar gyfer ailagor a chymorth gan y Llywodraeth i'w gael yn ôl ar ei draed. Felly,...
Russell George: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector di-elw yn ystod pandemig Covid-19? OQ55353
Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OQ55352
Russell George: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, fe aethom i mewn i'r cyfyngiadau symud fel Teyrnas Unedig ac fel pedair gwlad, ac rwy'n credu ei bod yn niweidiol iawn i economi Cymru, yn anffodus, ein bod ni'n llacio'r cyfyngiadau mewn ffordd ranedig. Ddoe, gwelsom Brif Weinidog y DU yn cyhoeddi ei fod yn llacio canllawiau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol ac yn ailagor y...
Russell George: Weinidog, rydych chi’n cael cwestiwn gennyf fi yn awr. [Chwerthin.] Diolch. Weinidog, rydych wedi amlinellu cymorth i awdurdodau lleol, ond rwyf wedi cael nifer o gynghorau tref a chymuned yn cysylltu â mi, ac rwy'n ymwybodol fod rhai o'r cynghorau hynny’n dioddef yn sylweddol—rhai yn fwy nag eraill efallai. Felly, os caf sôn am Gyngor Tref y Trallwng, er enghraifft, fe ddioddefodd...
Russell George: Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, byddai’r swyddi pellach a gollir yn Laura Ashley, cyflogwr eiconig a phwysig yn y Drenewydd, wedi bod yn brif newyddion oni bai am y pandemig cyfredol. Mae'n newyddion ofnadwy, wrth gwrs, y bydd y gweithgaredd manwerthu a gweithgynhyrchu yn dod i ben. Ni allai fod wedi digwydd ar adeg waeth, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, câi...
Russell George: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i gynghorau sir, tref a chymuned yn ystod y pandemig Covid-19? OQ55317
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i weithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn Laura Ashley yn y Drenewydd yn dilyn y cyhoeddiad nad yw'r rheolwyr wedi llwyddo i sicrhau busnes gweithredol ar gyfer gwaith manwerthu a gweithgynhyrchu?
Russell George: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector elusennol a gwirfoddol yn ystod y pandemig Covid-19?
Russell George: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Rwy'n cofio, yr wythnos gyntaf i mi gael fy ethol i'r Senedd, Oscar yn mynd â nifer o aelodau newydd allan am ginio a mynnu ei fod yn talu. A dyna pryd y deuthum i adnabod Oscar yn iawn am y tro cyntaf, a bydd y rheini ohonom ni yn yr ystafell de yn cofio'r ymadrodd hwnnw, 'Fi sy'n talu', yn yr ystafell de. Roedd Oscar yn wir yn ddyn mor hael gyda'i eiriau a gyda'i weithredoedd. Yr hyn rwy'n...
Russell George: Gan droi, os caf, Weinidog, at drafnidiaeth, pa waith sydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r prinder trenau yn ystod y cyfyngiadau symud fel y gellir sicrhau ymarferoldeb mesurau cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd â chapasiti is o lawer? A oes unrhyw gynlluniau i Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio'r amser hwn, pan fo llai o wasanaethau ar gael, i wneud gwelliannau i'w...
Russell George: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwy'n credu fy mod wedi clywed llawer ohono yng nghyfarfod briffio Llywodraeth Cymru heddiw am 12:30, a arweiniwyd gennych. Weinidog, bydd busnesau manwerthu yn Lloegr yn ailagor ddydd Llun, a bydd busnesau Cymru dan anfantais, yn enwedig y rhai ar y ffin, megis yn eich etholaeth chi a fy un i. Tybed beth y gallwch ei ddweud wrth y busnesau hyn...