Rhianon Passmore: Mark Drakeford.
Rhianon Passmore: Byddaf yn pleidleisio o blaid y gwelliant i'r cynnig hwn a gynigiwyd gan Julie James AC. Mae cynnig y Torïaid yn sinigaidd ac yn wleidyddol oportiwnistaidd. Mae cynnig y Torïaid hefyd yn sylfaenol ddiffygiol. Fe wyddom fod dau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ers 2009. Y ddau dro, mae'r Cymry wedi mynd i bleidleisio, a'r ddau dro, ffurfiwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A fyddech yn cytuno â barn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n symud i'r cyfeiriad iawn o ran diwygio addysg?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y cwestiwn wedi'i ofyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod trethdalwyr Cymru wedi cael eu llythyr CThEM ynghylch cyfraddau Cymreig o dreth incwm?
Rhianon Passmore: Dyna'r cwestiwn o fy mlaen, Lywydd.
Rhianon Passmore: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yn Islwyn rhag effeithiau'r cyni?
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru eleni yn gam hynod o bwysig yn y broses ddatganoli. Dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd refeniw a godir o gyfraddau treth incwm newydd Cymru yn cael ei gynnwys yng nghyllideb Cymru, ar ôl cyflwyno'r trethi hynny ym mis Ebrill 2019. Fodd bynnag, mae'r cam pwysig hwn yn y broses ddatganoli yn digwydd yng nghyd-destun y cyni tywyllaf mewn...
Rhianon Passmore: Nid yw hynny'n ateb fy nghwestiwn—
Rhianon Passmore: A ydych chi'n derbyn neu’n credu nad yw’r gyllideb nawr 5 y cant yn is nag ydoedd yn 2010-11? Onid ydych chi’n cytuno â hynny?
Rhianon Passmore: Mae'n wirionedd anffodus, yn ystod bron i ddegawd o gyni yn y DU, fod toriadau i gyllidebau llywodraeth leol wedi arwain at doriadau i wasanaethau anstatudol a ddarperir gan gynghorau ledled y DU. Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar statws ac iechyd gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae hwn yn fater sy'n agos...
Rhianon Passmore: Mae'n iawn bod y Siambr hon yn cynrychioli barn gref ac angerddol iawn y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Dydyn nhw ddim yn haeddu dim llai, ond maen nhw hefyd yn haeddu llawer mwy, wrth inni nesáu at y cyfnod mwyaf allweddol i'n dinasyddion a'n heconomi. Mae'r cytundeb a negodwyd gan Theresa May yn ddrwg i Brydain, mae'n ddrwg i Gymru ac mae'n ddrwg i Islwyn. Caiff ei ailadrodd yn aml y...
Rhianon Passmore: Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £15 miliwn ychwanegol o gyllid i helpu i gynyddu cydweithio rhwng rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynorthwyo oedolion ag anghenion gofal yn eu cartrefi. Arweinydd y tŷ, pa wahaniaeth fydd yr arian ychwanegol hwn yn ei wneud i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, i ddychwelyd cleifion i'w cartrefi, ac i gynorthwyo...
Rhianon Passmore: Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynorthwyo busnesau bach yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen...
Rhianon Passmore: Diolch. Rydych chi wedi dweud yn aml, fel plaid, nad oes gennych chi unrhyw ffydd mewn unrhyw gytundebau gyda'r DU. A oes gennych chi ffydd y bydd Cymru'n cael y gyllideb angenrheidiol i gyd-fynd ag unrhyw fudd-daliadau lles datganoledig?
Rhianon Passmore: Diolch ichi am hynna. Rwy'n credu na ellir gwahanu oddi wrth y ffaith, ers 2010, y bu toriad o £850 miliwn i Gymru. Mae hyn yn strategol, mae hyn yn hirdymor, ac rydym ni'n gwybod bod mwy i ddod oni bai y bydd etholiad cyffredinol, a cheir ffaith eithaf syml yn y fan yma: Os yw eich côt yn rhy dynn, byddwch yn gwlychu. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol...
Rhianon Passmore: Gadewch imi orffen—ac yn wyneb toriad o £850 miliwn i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU ers 2010. Mae hynny'n ffaith.
Rhianon Passmore: Nid wyf i wedi gorffen eto, diolch. Fe wnaf yn nes ymlaen—[Chwerthin.]—ond mewn gwirionedd mae wedi cynyddu diffyg y DU—[Torri ar draws.] Fe wnaf hyn yn nes ymlaen, iawn. Rydym ni wedi bod yn dioddef nawr am naw mlynedd hir, ac nid yw'n beth i chwerthin yn ei gylch i bobl yn fy etholaeth i, sy'n dioddef canlyniadau cyni a diwygio lles. Mae hyn ar wahân—[Torri ar draws.] Mae hyn ar...
Rhianon Passmore: Rwy'n codi i gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn gan y Torïaid, ac rwy'n edrych ar yr olygfa gywilyddus o'r Torïaid gyferbyn â mi yn codi i ddweud bod awdurdodau lleol yn cael trafferthion—wel, gadewch inni fod yn onest, yn blwmp ac yn blaen, ysgwydwch y goeden arian hud honno, a byddwn yn cael mwy o arian, mwy o werth am ein harian o wneud hynny. Rwyf i yn un, wedi blino...