Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?
Vikki Howells: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nawr, yn ogystal â'i bod yr unig ffordd A allan o Gwm Cynon yn yr ardal honno, mae'r A465 hefyd yn ffordd bwysig iawn yn rhanbarthol hefyd, gan gysylltu, fel y mae'n ei wneud, Blaenau'r Cymoedd, mor bell i ffwrdd â chanolbarth Lloegr, i lawr i orllewin Cymru a dyma'r unig ffordd yng Nghymru, os wyf i'n gywir, sy'n cael ei hystyried yn rhan o'r...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd? OAQ53633
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Llifogydd yw un o'r trychinebau mawr mwyaf cyffredin, ac ar ben hynny gall fod yn un arbennig o ddirdynnol. Mae nifer o astudiaethau yn dangos cynnydd sylweddol mewn iselder, gorbryder a gofid ymhlith y rhai yr effeithir arnynt gan lifogydd. Mae hefyd wedi effeithio ar lawer o bobl yn fy etholaeth i. Rwy'n siŵr y cofiwch y llynedd, disgrifiwyd...
Vikki Howells: Prif Weinidog, roedd yn bleser ymuno â chi ddydd Iau yn agoriad swyddogol Ysgol Gynradd newydd sbon gwerth £7.2 miliwn Cwmaman yn fy etholaeth i, dim ond y diweddaraf mewn cyfres o adeiladau ysgol newydd lle mae fy etholaeth wedi elwa ar fuddsoddiad o fwy na £100 miliwn—mwy nag unrhyw etholaeth arall yng Nghymru, rwy'n credu. Ac, fel cyn-athrawes, gwn yn rhy dda pwysigrwydd darparu'r...
Vikki Howells: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella perfformiad addysgol yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ53534
Vikki Howells: Pa rai o'r argymhellion a nodir yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwiath a Sgiliau, Gwerthu Cymru i'r Byd, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn?
Vikki Howells: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig?
Vikki Howells: Ddirprwy Weinidog, credaf fod rhai mesurau allweddol y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai nad ydynt yn cynnwys gorfod adeiladu cartrefi newydd, ac un enghraifft o'r fath yw cynlluniau cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae 312 o geisiadau grant eiddo gwag wedi dod i law ers i'r cynllun ddechrau yn 2016, a hyd yma, mae 128 o'r cartrefi hynny...
Vikki Howells: Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion. Mae'r ymgynghoriad 'Parchu eraill' ar fin dod i ben yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond ar ôl blynyddoedd lawer yn yr ystafell ddosbarth, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod yn...
Vikki Howells: Ers agor y rheilffordd Brydeinig gyntaf bron 200 mlynedd yn ôl, mae trenau wedi newid y ffordd yr ydym ni'n teithio ac yn cyfathrebu. I gymunedau fel yr un yr wyf i yn ei chynrychioli ym maes glo'r de, datblygodd y rheilffyrdd berthynas gymhleth a symbiotig â chloddio. Roedden nhw'n cynnig cyfleoedd i ddinasyddion weithio, dysgu neu fwynhau hamddena, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Yn...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd fy swyddfa etholaethol sesiwn hyfforddi Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Cafodd ei drefnu gan Centrica (Nwy Prydain), ac roedd yn tynnu sylw at faint y broblem. Mae 53 y cant o bobl 65 oed a hŷn wedi cael eu targedu gan sgamiau, sydd gyda'i gilydd yn costio rhwng £5 biliwn a £10 biliwn y flwyddyn i economi'r DU. Mae'r canlyniadau dynol yn...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog. Mae gen i gwpl o gwestiynau heddiw ynghylch gordewdra ymhlith plant, sy'n fater yr wyf yn bryderus iawn yn ei glych. Wrth gwrs, rydym yn gwybod y gall fod problemau daearyddol penodol o ran mynd i'r afael â mater hwnnw, ac un ystadegyn sydd wedi rhoi sioc imi erioed yw'r ffaith bod chwarter y plant yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn ordew—nid dim ond dros bwysau, ond yn...
Vikki Howells: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog iechyd am ei ddatganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gwrdd â mi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad i drafod hyn, ac rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau gonest a defnyddiol gyda chadeirydd...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gynharach heddiw, noddais ddigwyddiad i lansio gwobrau cymwysterau galwedigaethol 2019. Mae'r gwobrau yn awr yn eu deuddegfed flwyddyn yn olynol, a'u nod yw codi statws dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol. Yn wir, eu diben yw sicrhau ein bod yn ystyried cymwysterau galwedigaethol fel llwybr uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer pawb, a'n bod yn eu hystyried...
Vikki Howells: Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler. Pan oedd y Prif Weinidog blaenorol yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd fod dros 100 o fusnesau yng Nghymru eisoes wedi ymwneud â phorth busnes Brexit Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod y tirwedd ar ôl Brexit yn gymaint o ddirgelwch, yn bennaf oherwydd y dull blêr a fabwysiadwyd...
Vikki Howells: 6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch paratoi busnesau yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ53187
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd?
Vikki Howells: Rwy'n codi i siarad gyda chalon drom ar ran y grŵp Llafur. Yn gyntaf, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad ni i gyd â gwraig Steffan, Shona, ei fab, Celyn, a'i holl deulu a'i ffrindiau. Roedd Steffan mor fawr ei barch yng ngolwg Aelodau o bob plaid ar draws y Siambr hon ac roedd llawer o edmygedd ohono. Roedd ei ddeallusrwydd craff yn glir, fel yr oedd ei afael ar y materion allweddol a'i angerdd...
Vikki Howells: Yng Nghymru, mae gennym ychydig o dan 35,000 km o ffyrdd. Mae teithiau'r rhan fwyaf o bobl yn cynnwys y defnydd o'r rhwydwaith ffyrdd, ffigur sydd wedi bod yn sefydlog ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Rydym hefyd yn dibynnu ar y ffyrdd ar gyfer cludo cyfran uchel o'n nwyddau domestig. Ledled y DU, mae gwefan 'Fill that Hole' Cycling UK yn rhoi gwybod am 13,500 o dyllau ffordd ar...