Canlyniadau 421–440 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

8. Dadl Plaid Cymru: Y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren (25 Ebr 2018)

Bethan Sayed: A ydych yn sylweddoli bod Legoland yn Windsor yn cael mwy o ymwelwyr na phalas Windsor mewn gwirionedd? Yn syml iawn, ni ddylem fynd ar drywydd y ddadl economaidd. Hefyd, maent yn gwneud llawer o arian drwy'r pwrs cyhoeddus, megis pensiynau ac ati, a thrwy'r Ddugiaeth. Nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn ei gefnogi, a dyna rywbeth yr hoffwn ei drafod yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn,...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Uno a Chau Ysgolion (25 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi yma o'r blaen mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth, ac fe'ch clywais yn siarad yn gynharach ynglŷn â'r dewis o deithio llesol ar gyfer dysgwyr. Ond yn yr achos hwn, os yw ysgol Cymer Afan yn cael ei chau a bod disgwyl iddynt deithio bron i 10 milltir i Gymla neu Margam, gallai hynny olygu nad...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Uno a Chau Ysgolion (25 Ebr 2018)

Bethan Sayed: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar uno a chau ysgolion? OAQ52023

Grŵp 4: Pŵer i benodi swyddogion (Gwelliannau 7, 8, 9, 10) (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Rydym ni wedi penderfynu yng ngrŵp Plaid Cymru i beidio â chefnogi'r gwelliannau hyn. Rydym ni'n credu, ar yr achlysur hwn, y byddent yn gosod gormod o anhyblygrwydd ar y Llywodraeth ac fe allai hi fod yn fanteisiol caniatáu hyblygrwydd o ran y mater penodol hwn. Yn sicr ceir amgylchiadau lle mae caniatáu i berson a benodir gan Lywodraeth Cymru barhau yn ei swyddogaeth yn fantais i'r...

Grŵp 2: Gwaith craffu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Gwelliannau 5, 13, 19, 2) (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Byddwn yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae craffu i fod yn un o swyddogaethau craidd y Cynulliad hwn, a bu gwendid â deddfwriaeth flaenorol sef, yn aml, nad yw craffu ôl-ddeddfwriaethol wedi cael y sylw haeddiannol. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant 19 ar y sail hon, ac mewn gwirionedd nid wyf yn credu mai lle'r Llywodraeth yw penderfynu beth ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol ei...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Gwnaf, wrth gwrs. 

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Ie, a dyna'n union pam yr ydym ni wedi codi pryderon ym mhob cyfnod, ac rwy'n credu bod hynny'n wir i ddweud ynglŷn â'n pryderon am y dyfodol, oherwydd os yw hynny'n digwydd nawr, sut allwn ni sicrhau drwy gyfrwng y Bil hwn nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Felly, byddwn yn gwrando'n ofalus ar ymateb y Llywodraeth i'r gwelliannau hyn, ond rydym ni ar hyn o bryd yn bwriadu hefyd gefnogi'r...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac rydym ni'n bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn ar y cam hwn. Ond hoffwn achub ar y cyfle i egluro beth yw ein dull ni o weithredu'r ddeddfwriaeth hon, fel y gwnaeth David Melding hefyd. Rydym wedi cefnogi egwyddor y ddeddfwriaeth, mewn ffordd bragmatig, ers iddi ddod yn amlwg y byddai penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Rwy'n sylweddoli nad yw bob tro yn bosibl darparu datganiadau i'r Cynulliad hwn, ond rwy'n credu o ran terfynu Cymunedau yn Gyntaf, fod hynny yn deilwng o ddatganiad yma, a chafodd ei dynnu allan unwaith eto yr wythnos diwethaf ar ôl inni adael y siambrau dadlau hyn i'n rhanbarthau neu ein pwyllgorau. Nawr, o ystyried bod hon yn rhaglen flaenllaw Llywodraeth Lafur mewn cysylltiad â...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwylliant y Gweithle yn Llywodraeth Cymru (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Prif Weinidog, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi eich absenoldeb o'r ddadl ar yr ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol yr wythnos diwethaf. Er i chi dynnu'n ôl o'r her gyfreithiol i atal y ddadl, byddwn wedi meddwl y byddech chi wedi parchu sefydliad y Cynulliad hwn ac wedi bod yma i glywed y dadleuon a gyflwynwyd gan ACau. Gwyddom eich bod wedi cael eich difeio yn adroddiad Hamilton a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Adeiladwyr Tai (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Jest yn parhau â'r thema yma, buaswn i eisiau gwybod a fyddai modd rhoi ffafriaeth bosibl i gwmnïau tai eco. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd angen edrych arno o ran cynaliadwyedd y farchnad ac o edrych i wneud ein tai yn fwy cynaliadwy. A oes modd i chi edrych i mewn i hyn fel Llywodraeth er mwyn sicrhau y byddai cynlluniau o'r fath yn cael rhyw fath o flaenoriaeth?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwylliant y Gweithle yn Llywodraeth Cymru (24 Ebr 2018)

Bethan Sayed: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwylliant y gweithle yn Llywodraeth Cymru? OAQ52056

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria (18 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Nid oes gennyf lawer o amser, mae arnaf ofn. Mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi'i nodi, mai'r rhai mwyaf awyddus i orymdeithio i ryfel am wahanol resymau, yn enwedig y rhai sydd dan ddylanwad jingoistiaeth Brydeinig, yw'r rhai lleiaf awyddus i helpu'r rhai sydd ar y pen arall i ymosodiadau milwrol. Y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffoaduriaid Irac ar ôl y rhyfel yn Irac a oedd fwyaf o blaid...

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria (18 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Diolch. Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod wedi fy siomi gan agwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr alwad am y ddadl frys hon yn enw Leanne Wood. Mae llawer o fy etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru eisiau gwybod beth yw barn ACau ar hyn, a hefyd cafwyd deiseb mewn perthynas ag ymateb y Prif Weinidog yn datgan y byddai'n cefnogi 'unrhyw ymyrraeth'—ei eiriau ef, nid fy rhai i: 'unrhyw...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi): Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid (18 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Rwy'n gwneud llawer gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o broblemau o hyd mewn perthynas ag arwahanrwydd a thrafnidiaeth. Mae rhai o'r bobl rwy'n cyfarfod â hwy yn famau sengl gyda thri neu bedwar o blant ac maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cludo gwahanol blant i wahanol leoedd ar wahanol adegau, ac ymrestru...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (18 Ebr 2018)

Bethan Sayed: Iawn. Diolch am eich ateb. Byddai goblygiadau ariannol i wariant y Llywodraeth pe bai carchar arfaethedig ym Mhort Talbot neu mewn man arall yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. A ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r effaith o ran sut y byddai angen i chi ddyrannu adnoddau ychwanegol i adrannau? Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud datganiad yn ystod...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Portffolio Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (18 Ebr 2018)

Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52006

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (17 Ebr 2018)

Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â hwyluso'r broses o adeiladu rhagor o garchardai yng Nghymru?

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Bethan Sayed: Iawn. Diolch. Wel, edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw, gan y credaf ei fod yn bwysig oherwydd ei fod yn gosod y cywair ar gyfer sut y mae pobl yn trin ei gilydd mewn cymdeithas hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn awyddus iawn i glywed mwy amdano. Gan aros gyda'r sector rhentu preifat, er mwyn datrys heriau digartrefedd a sicrwydd tai,...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Gan barhau ar hyn, rwyf wedi trafod y mater gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a dywedasant wrthyf fod hyn yn ymwneud yn aml ag yswiriant neu forgais, sy'n bolisi a osodwyd arnynt gan Lywodraeth y DU. Fy mhryder i, gyda chymaint o ansicrwydd o ran swyddi a chan mai'r sector rhentu preifat yw'r unig opsiwn i lawer o bobl, yw nad yw'r gwahaniaethu yn erbyn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.