Hannah Blythyn: Credaf fod yr Aelod newydd ateb fy nghwestiwn ar fy rhan. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Credaf eich bod yn ceisio neidio ar y drol a chymell ffrae. Caiff tirfeddiannwr preifat wneud fel y mynnant ar eu tir eu hunain, ond o ran ystâd Llywodraeth Cymru, a gaiff ei reoli ar ran holl bobl Cymru, ar gyfer pobl Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny.
Hannah Blythyn: Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl Cymru a barn y cyhoedd yn dweud eu bod, mewn gwirionedd, yn cefnogi rhoi terfyn ar brydlesu ar ystâd Llywodraeth Cymru. Awgrymaf fod yr Aelod allan o gysylltiad â barn y cyhoedd, ac wedi colli golwg ar y polisi. Gan gyfeirio'n ôl at yr honiadau o ran yr effaith ar yr economi, mae'r ffigurau a ddyfynnir ar gyfer pob menter saethu ledled Cymru, nid ar...
Hannah Blythyn: Na, nid wyf yn derbyn hynny. Fel y dywedasom yn glir yr wythnos diwethaf mewn ateb i gwestiwn amserol, mater polisi oedd hwn. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn glir o'r cychwyn eu bod yn disgwyl cael arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r ystyriaethau moesegol ac ystyriaethau polisi ehangach. Dywedais hynny ac rwy'n falch fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar saethu ffesantod a...
Hannah Blythyn: The Welsh Government’s woodland estate, which NRW manages, is an important public asset, managed for the public good. In July this year, Welsh Government and NRW published a statement on its purpose and role, setting out our priorities for the estate and describing how NRW is delivering them.
Hannah Blythyn: Rwy'n anghytuno â honiadau'r Aelod. Hoffwn gyfeirio'n ôl at y ffaith na châi hyn ei ystyried yn ymyrraeth. O'r cychwyn cyntaf, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru hi'n glir y byddai'r ystyriaethau moesegol a pholisi ehangach yn fater i Lywodraeth Cymru fel y tirfeddiannwr.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. O ran edrych ar yr effaith economaidd, mae nifer o ffigurau wedi cael eu crybwyll yn ddiweddar, yn dweud bod gwerth y diwydiant saethu i economi Cymru oddeutu £75 miliwn. Ond mae hynny ledled Cymru gyfan, nid yn benodol ar gyfer y tair prydles ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ac rwyf eisoes wedi dweud nad ydynt ond yn cynrychioli 1 y cant o'r mentrau...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei sylwadau. O ran y pwyntiau penodol mewn perthynas â'r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela, hoffwn eich cyfeirio'n ôl at fy ateb blaenorol i'n cyd-Aelod Vikki Howells. Mewn perthynas â'r pryderon penodol a godwyd gennych—efallai y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion am hynny, ac efallai y byddech yn hoffi gohebu...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei chwestiynau blaenorol wrth godi'r mater hwn yn y lle hwn a thu hwnt. Gallaf glywed o’r heclo yn y cefndir fod hwn yn fater sy'n ennyn teimladau cryf ac yn cynhyrchu barn gref ar y ddwy ochr. Fodd bynnag, rydych yn iawn: gwelwyd bod yna farn gyhoeddus sylweddol, yn enwedig mewn perthynas ag argymhelliad 3 a nodai nad oedd 60 y cant o drigolion Cymru...
Hannah Blythyn: Er mai'r tirfeddiannwr fydd yn penderfynu ynglŷn â saethu ar dir preifat, mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i ystyriaeth ehangach o farn y cyhoedd wrth ystyried beth sy'n digwydd ar ein hystâd. Mae arwynebedd cyfunol y tri heldir yr effeithir arnynt gan benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i atal saethu ffesantod yn llai na 300 hectar ac yn cynrychioli llai nag 1 y cant o gyfanswm nifer...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei diddordeb yn y maes hwn. Mae'n gywir y bydd y penderfyniad yn rhoi diwedd ar brydlesu tir ar gyfer saethu ffesantod ar dir Llywodraeth Cymru pan ddaw'r cytundebau prydles cyfredol i ben. Mewn perthynas â’r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon, mater i Ysgrifennydd y Cabinet yw hwnnw mewn gwirionedd. Ond gallaf...
Hannah Blythyn: Rwy’n falch fod safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar saethu ffesantod a gweithgareddau cysylltiedig ar dir cyhoeddus wedi cael eu hystyried gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rwy’n croesawu penderfyniad eu bwrdd ar 20 Medi i roi terfyn ar y gweithgareddau hyn ar ystâd Llywodraeth Cymru pan ddaw'r cytundebau prydles cyfredol i ben.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ymrwymiad cyson i'r mater hwn ar ran ei etholaeth. Fe sonioch chi ynglŷn â sut y cafwyd achosion yn ddiweddar, gyda'r tywydd cynnes a sych, o lawer iawn o lwch yn effeithio ar drigolion lleol. Rwy'n deall y pryder a'r rhwystredigaeth y byddai hynny'n ei achosi i drigolion lleol yn llwyr. Rwy'n deall bod—. Rydych yn llygad eich lle mai Cyfoeth...
Hannah Blythyn: Mae cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar aer glân ar gyfer Port Talbot yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael yn ymarferol ag ansawdd aer gwael yn y rhanbarth. Rwyf wedi comisiynu adolygiad gan gymheiriaid o gynnydd yn erbyn y cynllun hwn, ein dull, a'r dystiolaeth sy'n sail iddo, i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Byddaf yn cyfarfod â Tata Steel, Cyfoeth...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydych yn codi pwyntiau tebyg iawn o ran pwysigrwydd perthi i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth. Ac er yr ystyrir yn aml mai prif swyddogaethau perthi yw rheoli stoc a nodi ffiniau tir, mae ganddynt werth ehangach, mwy cyffredinol hefyd, a phwrpas ar ein cyfer ni. Fe sonioch chi am goridorau gwyrdd; fe'u gelwir yn aml yn goridorau bywyd gwyllt...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Rydych yn codi pwynt pwysig iawn o ran gwerth perthi'n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd hanfodol i adar ac anifeiliaid, ac i wella a diogelu bioamrywiaeth. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, roedd dyletswydd gyhoeddus ar bob awdurdod cyhoeddus i sicrhau a chynnal bioamrywiaeth, a thrwy hynny gynyddu gwydnwch ecosystemau, sydd hefyd yn...
Hannah Blythyn: Rydym yn cydnabod gwerth amaethyddol perthi, a'u gwerth i fywyd gwyllt ac i'r dirwedd. Mae adar yn nythu rhwng mis Mawrth a mis Awst yn bennaf, a dylid archwilio perthi cyn eu torri, er mwyn osgoi niwed i nythod. Mae'n rhaid i bawb sy’n derbyn taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin ddilyn rheolau trawsgydymffurfio, sy'n datgan na ellir torri perthi rhwng mis Mawrth a mis Awst.
Hannah Blythyn: The Welsh Government has introduced a range of measures to help improve waste management and prevent littering. These include introducing powers to enable local authorities to issue fixed-penalty notices and providing £3.7 million of funding to Keep Wales Tidy.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Rwy'n eithaf hoffi hynny—"Plant a Tree in '73, Plant some more '74". Efallai fod angen inni feddwl am sloganau cyfoes i gyd-fynd â'r strategaeth coetiroedd. Gallwn fod yn temtio ffawd drwy wahodd cyfraniadau ar hyn, serch hynny. Rydych chi'n iawn o ran, mewn gwirionedd, pwysigrwydd dod o hyd i ffyrdd o werthfawrogi coed, a byddaf yn sicr yn ymchwilio i...
Hannah Blythyn: Diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad, eto yn ailadrodd y manteision y gall coetir a mannau gwyrdd trefol eu cyflwyno, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r ymdeimlad hwnnw—yn enwedig os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae fwy na thebyg yn daith sylweddol i fynd, mewn gwirionedd, i ymweld â choedwig fawr rhywle, bod y coetiroedd hynny 10 munud o garreg eich drws yn gwneud gwahaniaeth...
Hannah Blythyn: Diolch, diolch i Mike Hedges am hynny. Fe wnaethoch chi daro'r hoelen yn union ar ei phen yn y fan yna trwy ddweud bod consensws a'n bod ni i gyd yn cytuno—a chewch chi'n anodd dod o hyd i rywun sy'n anghytuno mai rhywbeth cadarnhaol yw plannu rhagor o goed a'i bod angen inni wneud hynny—ond yr hyn sy'n allweddol yw sut i'w gyflawni. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud sylwadau gwirioneddol...