Lynne Neagle: Suzy, gwn eich bod yn ymwybodol fod y pwyllgor rydych yn aelod ohono'n cyflawni ymchwiliad mawr i ariannu ysgolion, ond rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch y catalog hir hwn o anawsterau y cyfeiriwch atynt, oherwydd rwy'n meddwl tybed o ble y credwch y daw'r pwysau ariannol a orfodir ar ysgolion mewn gwirionedd, gan mai eich Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi torri ein grant.
Lynne Neagle: Rwy'n credu'n gryf fod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb ac yn gyfle i bawb. Hoffwn siarad am bob argymhelliad ond o gofio'r cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes. Mae'r cyntaf yn arbennig o agos at fy nghalon—hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a'r gorgyffwrdd rhwng yr adroddiad hwn ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, oherwydd ceir cysylltiad...
Lynne Neagle: Weinidog. Gallaf ddeall pam fod Aelodau UKIP a'r Aelodau Ceidwadol eisiau claddu eu pennau yn y tywod ynglŷn â'r dinistr y mae Brexit yn ei achosi'n ddyddiol i'n swyddi gweithgynhyrchu. Rwy'n pryderu'n ofnadwy am fy ffatrïoedd modurol yn Nhorfaen. Mae gennym gannoedd o weithwyr ar gyflogau da yn gweithio mewn cadwyni cyflenwi modurol ac mae eu swyddi oll mewn perygl yn awr, nid yn unig...
Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ynghylch diwallu anghenion cymunedau?
Lynne Neagle: Diolch i chi, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n gamgymeriad difrifol iawn i adael yr UE heb unrhyw syniad clir ynghylch y gyrchfan? Ac a wnewch chi egluro wrth unrhyw Weinidogion o Lywodraeth y DU, neu, yn wir, unrhyw un sydd â dylanwad sylweddol dros Brexit, megis arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, y byddai cefnogi Brexit â mwgwd yn bolisi â risg uchel annerbyniol?
Lynne Neagle: 8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud? OAQ53422
Lynne Neagle: Weinidog, rwy’n parhau i gael fy siomi gan barodrwydd ymddangosiadol Cyngor Dinas Casnewydd—cyngor Llafur—i beryglu gwasanaethau ar gyfer grŵp bregus iawn o blant a phobl ifanc, drwy dynnu'n ôl o'r gwasanaeth SenCom rhanbarthol effeithiol ac arbenigol iawn. Mae Casnewydd, o’r diwedd, yn gwneud rhywfaint o ymgynghori â theuluoedd, ond mae rhieni wedi cwyno bod llythyrau yn cael eu...
Lynne Neagle: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yng Ngwent ynghylch darpariaeth y gwasanaeth SenCom? OAQ53347
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth bracitherapi dos uchel ar gyfer canser y prostad?
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r wers o'r penwythnos, a'r newyddion drwg iawn gan Nissan, yw er mai dim cytundeb fyddai'r canlyniad gwaethaf un i'r diwydiant modurol, y gwir amdani yw y bydd unrhyw Brexit yn golygu y bydd dadleuon ac ansicrwydd yn parhau am flynyddoedd, a bod bob dydd o ansicrwydd yn ddiwrnod pan fo buddsoddwyr yn aros i ffwrdd ac mae swyddi o dan...
Lynne Neagle: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb fargen ar y sector modurol yng Nghymru? OAQ53378
Lynne Neagle: Roeddwn eisiau diolch i Bethan am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i iechyd emosiynol a meddyliol pobl ifanc y llynedd, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn thema gyson a godai ei phen, ac fel rydych chi eisoes wedi amlygu, rydym wedi ein cysylltu fwy nag erioed o'r blaen. Ond mewn gwirionedd, credaf ein bod yn fwy ynysig mewn llawer o ffyrdd nag...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?
Lynne Neagle: Brif Weinidog, roedd maint aflwyddiant y Torïaid neithiwr yn ei gwneud hi'n amlwg bellach mai'r unig ddewisiadau sydd ar ôl yw Brexit y mae'r ddwy brif blaid yn ei gefnogi, trychineb 'dim bargen' neu bleidlais y bobl. O ystyried y byddai unrhyw gytundeb Brexit yn golygu y byddai Cymru yn waeth ei byd, yn dyfnhau magl tlodi ac yn gwreiddio cyni ariannol, a fyddech yn cytuno â mi mai'r unig...
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog, ac roeddwn i'n falch iawn o glywed am y £7.1 miliwn ychwanegol hwnnw a gyhoeddwyd ddoe. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae cefnogaeth drawsbleidiol gref i 'Cadernid Meddwl', ac rwy'n credu ei fod yn cyflwyno map ffordd eglur ar gyfer gweddnewid iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Wedi dweud hynny, nid wyf i o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr...
Lynne Neagle: 1. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc drwy gydol tymor y Cynulliad hwn? OAQ53224
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân wedi cael ei chanmol yn ddiweddar gan Estyn am greu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion a'u hagweddau at ddysgu, gydag un ohonynt yn cynnwys cynllun arweinyddiaeth disgyblion sy'n golygu bod disgyblion yn arsylwi ar wersi, gan ganolbwyntio ar ymddygiad dysgu dysgwyr a'u hagwedd at ddysgu a lle y maent yn darparu adborth...
Lynne Neagle: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith cynlluniau arweinyddiaeth disgyblion mewn ysgolion? OAQ53118
Lynne Neagle: Mark Drakeford.
Lynne Neagle: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac, wrth gwrs, mae lleihau'r defnydd o wrthfiotigau ar gyfer pobl ac anifeiliaid yn hanfodol os ydym ni'n mynd i amddiffyn ein hunain rhag y bygythiad o ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae'r Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau mewn Amaethyddiaeth wedi dweud yn ddiweddar eu bod yn pryderu a yw'r data sydd ar gael yn ddigonol, yn enwedig i ffermwyr llaeth, cig...