David Melding: 3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i annog y sector gwirfoddol i geisio am dendrau'r sector cyhoeddus? OAQ55172
David Melding: Rwyf wedi gwrando ar y cyfraniadau. Rwy'n credu eu bod yn feddylgar ac yn ddifyr a gwamal. Nid wyf am gynnig disgrifiad o bob siaradwr. Ond rwy'n meddwl mewn unrhyw system newydd o Lywodraeth, fod angen i chi edrych ar y sefydliadau, ac mae'r Llywodraeth yn sefydliad pwysig ond mae'r ddeddfwrfa o leiaf yr un mor bwysig. Mewn gwirionedd, o'r ddeddfwrfa y caiff y Weithrediaeth ei hawdurdod....
David Melding: A wnewch chi ildio?
David Melding: Mantais ffederaliaeth yw ei bod yn rhoi llyfr rheolau i chi, ond mae'n bargeinio'n gyson rhwng y lefel y wladwriaeth a lefel yr is-wladwriaeth. Gwelwch hyn yn yr Unol Daleithiau, lle credid bod lefel y dalaith—h.y. yr is-wladwriaeth yn America—yn dirywio, ac ysgrifennwyd llyfrau ar ddiwedd ffederaliaeth. Nawr, rydym yn gweld ei fod yn hollol groes i hynny, gyda Califfornia yn arwain...
David Melding: Mae hwnnw'n bwynt pwysig, ond y prif reswm dros hyn yw diffyg cyflenwad tai—dyna sydd wedi cynyddu prisiau tai a chynnal rhan o gymdeithas sydd â diddordeb mewn gweld prisiau tai'n aros yn uchel. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai'r sawl sy'n dadlau'n gyson yn erbyn rhagor o adeiladu tai yn y Siambr hon yw chi.
David Melding: A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Cwnsler Cyffredinol o ran yr agwedd y mae wedi ei mabwysiadu? Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, er gwaethaf ein hanghytundebau achlysurol, bod Llywodraeth Cymru, wrth geisio cryfhau'r cyfansoddiad Prydeinig o dan ddatganoli, fel arfer yn diweddu yn y lle iawn. Rwyf weithiau'n cael dadleuon ynglŷn â sut y gwnaethoch chi gyrraedd yn y pen draw, ond...
David Melding: A gaf i groesawu'r datganiad hwn ar ddulliau modern o adeiladu—MMC o hyn ymlaen? Mae Plaid Geidwadol Cymru drwy gydol y tymor Seneddol hwn wedi hybu'r math hwn o adeiladu, ac yn ein papurau gwyn ni ar ddylunio trefol ac ar dai, roeddem ni'n hyrwyddo'r syniad o ddefnyddio mwy ar MMC. Mae hwn yn llwybr yr ydym yn ei ffafrio yn hytrach nag yn un sy'n cael ei ysgogi gan anghenraid neu brinder,...
David Melding: A gaf i gydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt yn rhanbarth Canol De Cymru yn y digwyddiad hynod drallodus hwn a'r profiadau a ddilynodd o weld eich cartrefi'n dioddef llifogydd? Mae'n digwydd mor gyflym—rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio at hynny. Mae'n syfrdanol. Yn fy 21 mlynedd yn y Siambr, pan wyf wedi siarad â dioddefwyr llifogydd, y cyflymder yw'r hyn a ddywedant, sy'n golygu...
David Melding: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy'n cymeradwyo gwaith y pwyllgor o dan arweinyddiaeth John. I mi, o ddarllen hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae Caroline newydd eistedd a'n rhybuddio, os na fyddwn yn gweithredu, ymhen 20 mlynedd byddwn yn mynd o gwmpas yr un cae ras, wel, teimlaf ein bod yn trafod llawer o'r problemau hyn 20 mlynedd yn ôl, efallai heb ganolbwyntio ar...
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn? Maes polisi cyhoeddus pwysig iawn, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno. Mae'r grant cymorth tai wedi'i groesawu gan lawer yn y sector hwn, a nodaf y bwriad i wario arian cyhoeddus yn fwy effeithiol drwy ddulliau mwy integredig a strategol, ac edrychaf ymlaen at asesiad llawn o'r dull hwn, gan ei fod yn amlwg yn eithaf dadleuol pan gynigiwyd ef...
David Melding: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Ni wn ai hwn yw'r tro cyntaf; mae fwy na thebyg wedi digwydd mewn deddfwrfeydd eraill, ond nid sefyllfa arferol yw cael Bil sy'n diwygio Deddf nad yw wedi cychwyn eto, er ei bod dros dair blwydd oed—nid wyf am ei eirio'n gryfach na hynny. Yn wir, rydym yn clywed nawr na chaiff Deddf 2016 ei chychwyn tan ddiwedd y tymor Seneddol hwn, felly fe fydd...
David Melding: Prif Weinidog, yn absenoldeb Deddf aer glân, fel yr ydych chi wedi ei nodi, rydym ni'n mynd i gael cynllun aer glân, ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ac i chi ymateb iddo ac yna ei roi ar waith. Bydd rheoliadau atal a rheoli sy'n defnyddio'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer rheoli llygredd yn ganolog i'r drefn newydd . Efallai y gallech chi ymhelaethu ar beth y mae hyn yn debygol o...
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf ein bod wedi cael dadl ragorol a chafodd pwyntiau perthnasol iawn eu cyflwyno sydd wedi ychwanegu at ei dyfnder, ac wedi ychwanegu awdurdod i'r angen i symud hefyd yn fy marn i, a diolch i'r Gweinidog am ateb yn yr ysbryd hwnnw hefyd. Os caf ddweud, rwy'n meddwl, Jenny Rathbone, eich bod chi'n iawn i ddweud bod yna dechnolegau eraill, a hydrogen...
David Melding: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am roi cyfle i mi sôn am y cynnig deddfwriaethol hwn heddiw? A gaf fi ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi'i gefnogi? Rwy'n falch o ddweud fod llawer iawn wedi rhoi eu cefnogaeth i drafod hyn heddiw. Rwy’n falch iawn fod fy Mil arfaethedig wedi cael cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol, yn wir. Credaf fod hyn yn...
David Melding: Weinidog, ein partneriaid masnachu mwyaf yw'r Almaen a Ffrainc, yn y drefn honno, ac i fod yn deg â Neil Hamilton, mae UDA yn drydydd. Roedd ein perfformiad allforio yn gadarn y llynedd, ac rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y gwaith a wnaeth yno; gwelsom fod ein hallforion wedi cynyddu bron i 5 y cant. Ond cafwyd gostyngiad yn yr allforion i'r Almaen, ac rwy'n credu bod angen i ni fod...
David Melding: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn wir, roeddwn am sôn am reilffyrdd a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Ac rwy'n gobeithio y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod gwella'r gwasanaethau yn flaenoriaeth gyson, o ran eu maint a'r cyfleusterau sydd arnynt, fel bod y Cymoedd, a'u potensial rhyfeddol o bobl fedrus iawn, yn gallu cael mynediad at swyddi sy’n talu’n dda, a bod yr economi...
David Melding: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwm Rhondda yn 2020? OAQ55046
David Melding: Weinidog, rwy'n cofio Dafydd Wigley yn codi'r mater hwn yn y Cynulliad cyntaf ac yn sôn am ble mae ganddynt farchnadoedd tai rheoledig, fel Ynysoedd y Sianel—y cadarnle sosialaidd hwnnw yn y Sianel. Y peth yw, mae gennym ddiwylliant ehangach ym Mhrydain o berchentyaeth ail gartrefi a marchnad rydd, ac rwy'n parchu hynny, ond mae llawer o'r bobl hynny hefyd yn cael eu temtio weithiau i...
David Melding: Weinidog, yn ein strategaeth adnewyddu trefol, 'Dinasoedd Byw', gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig addewid i sicrhau bod o leiaf 20 y cant o frigdwf trefol yng Nghymru erbyn 2030. Fe welwch fod y mudiad trefi a dinasoedd gwyrdd bellach yn mynd o nerth i nerth ledled y byd, a gallem fod yn rhan o hynny hefyd mewn gwirionedd, ac yn ei arwain. Rwyf am weld y dydd pan fydd rhai o'r priffyrdd mwyaf drwy...
David Melding: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelwch tân a nodwyd yn y cyfadeilad o fflatiau Celestia ym Mae Caerdydd?