Vaughan Gething: Fel y gwyddom ni, yn yr wythnosau a ddilynodd, trodd omicron economïau'n ôl i fodd argyfwng wrth i ni ymateb i'r don ddiweddaraf o COVID gyda chamau gweithredu wedi'u cyflawni mewn partneriaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys cylch arall o gymorth busnes gyda phecynnau ar gael yng Nghymru yn unig, fel y gronfa cadernid economaidd. Nid oedd cronfeydd tebyg, wrth gwrs, ar...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd ein cenhadaeth economaidd drawslywodraethol ni. Roedd yn amlwg bryd hynny nad oedd dychwelyd i fusnes fel arfer yn ddewis. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi cyflymu llawer o'r tueddiadau presennol ar draws datgarboneiddio, digideiddio ac effaith poblogaeth sy'n heneiddio. I fusnesau, daeth y pandemig â thrawma gwirioneddol...
Vaughan Gething: Diolch, Llywydd, a diolch i Huw Irranca-Davies, yn gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder. Dylwn ddweud fy mod yn ddigon bodlon gwrando ar dinc tyner a thawel llais Mr Irranca-Davies ar sawl achlysur yn y Siambr hon, ac mae'n debygol y bydd llawer mwy, o gofio ei bod yn debygol y bydd mwy o ddeddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a...
Vaughan Gething: Yn ffurfiol.
Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig ger ein bron, ac rwy'n argymell i Aelodau'r Senedd ein bod yn cydsynio i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil. Fel y gŵyr yr Aelodau, ni argymhellais y dylai'r Senedd gydsynio i'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 3 Rhagfyr y llynedd. Fodd bynnag, ar ôl ymgysylltu'n helaeth â Llywodraeth y...
Vaughan Gething: Diolch i chi. Rwy'n gwybod ambell i beth am y gwasanaeth iechyd ac am fuddsoddi mewn dewisiadau ynglŷn â'n gweithlu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau a wnaethom ni'n rheolaidd. Rydym ni bob amser, yn y cyfnod yr oeddwn i'n Weinidog iechyd, ond yng nghyfnod Eluned Morgan y Gweinidog newydd hefyd, wedi buddsoddi'r swm uchaf posibl yn yr hyn y gall ein cyfundrefn ni ei...
Vaughan Gething: Rwy'n falch iawn fod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at ein henw da ni o ran cyflawni ac, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i hynny o ran ein haddewid ni yn y tymor Seneddol diwethaf. Fe wnaethom ni addo 100,000 o brentisiaid; fe gawsom ni dros 112,000. Wrth gwrs, roedd y gallu gennym ni i ddefnyddio arian o Ewrop ar y pryd, felly fe fydd 125,000—sef cynnydd o 25 y cant ar ein...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiwn. Oes, mae gennyf i ddiddordeb arbennig, fel sydd gan ein Gweinidogion newid hinsawdd yn wir, mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni adnewyddadwy o bob math; mae yna lawer i'w gynnig i ni yn y gogledd a'r de o ran y cyfleoedd hynny. Ac fe fydd hynny'n mynnu ein bod ni'n cael sgwrs gyda busnesau yn ogystal â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r partneriaid sydd...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr pa mor bell na pha mor agos yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw â'r cynllun, ond rwy'n hapus i fynd i'r afael â'r pwyntiau a wneir, fel rwyf i'n eu deall. Oherwydd, unwaith eto, yn y gorffennol i mi, pan oeddwn i'n rhedeg hawliadau am gyflog cyfartal, roeddwn ni'n gallu gweld pethau a fyddai'n ymddangos yn anarferol yn gyflym iawn, ac yna mae'n...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cydnabod bod gwaith, a gwaith ystyrlon yn arbennig felly, yn elfen warcheidiol o ran iechyd meddwl pobl. Nid yw'n gwarantu hynny, ond fe wn y gall gwaith diwerth fod ag effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl hefyd. Fe wn i o'm gyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth, pan welais i bobl a oedd yn gweithio mewn gweithle truenus yn cael...
Vaughan Gething: Ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am Twf Swyddi Cymru+. Mae honno'n rhaglen newydd, sy'n cyfuno'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru, i helpu pobl i gael gwaith neu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith yn y lle cyntaf. Ac rydym ni wedi dysgu am y gefnogaeth y bydd ei hangen ar wahanol bobl ar wahanol adegau i sicrhau eu bod...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf i am ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i heb drethu amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, ynglŷn â'ch pwyntiau cychwynnol, o ran y warant i bobl ifanc, mae honno'n elfen allweddol, yn amlwg, o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau. Ac nid yn unig yn y cynllun heddiw, ond yn fy natganiadau blaenorol ar y...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser bod yn ôl yn y Siambr heddiw. Yn y rhaglen lywodraethu, rydym ni'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod y tymor Seneddol hwn i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Heddiw, mae hi'n bleser gennyf lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a...
Vaughan Gething: Felly, yn y tymor hwy, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi nodi y bydd rhyddhad ardrethi y flwyddyn nesaf. Bydd yn cyfateb i'r pecyn sydd ar gael yn Lloegr. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol ein bod yn cael sgyrsiau ynglŷn â sut y cefnogwn ddyfodol yr economi, ond mae honno'n sefyllfa fwy heriol oherwydd y setliad cyllideb sydd gennym ac oherwydd y realiti y bydd cronfeydd ffyniant...
Vaughan Gething: Roedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ochr yn ochr â'r gronfa adferiad diwylliannol a'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Hyd yma, mae dros £66.8 miliwn wedi'i gynnig drwy'r cronfeydd hyn. Yn ogystal, mae llawer o fusnesau'n dal i elwa o'r rhyddhad ardrethi 100 y cant, sy'n parhau am y flwyddyn ariannol gyfan, yn wahanol i fusnesau yn Lloegr, wrth...
Vaughan Gething: Wel, ceir amryw o elfennau yn y warant i bobl ifanc a allai fod o gymorth, ond ceir amryw o heriau eraill y gallai busnesau eu hwynebu. Felly, er enghraifft, ceir gwasanaeth paru â swyddi i ddeall sut y gallwch baru pobl â chyfleoedd gwaith sy'n bodoli, ceir gwaith gwasanaeth ReAct+, a fydd yn wasanaeth newydd, pwrpasol, sydd unwaith eto'n ceisio cwmpasu'r hyn sydd ei angen ar unigolion i'w...
Vaughan Gething: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi mentrau micro, bach a chanolig ym mhob rhan o Gymru. Gall busnesau bach a chanolig gael gafael ar ystod eang o wybodaeth, cyngor a chymorth drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, a Banc Datblygu Cymru wrth gwrs.
Vaughan Gething: Gwn fod Darren Millar yn hoffi cyffroi yn rheolaidd—
Vaughan Gething: —a thaflu geiriau o gwmpas, ond edrychwch, credaf efallai y dylai oedi a chymryd hoe fach ar fainc yr eilyddion tra bod y mater hwn yn cael ei benderfynu gan yr oedolion. Pan edrychwch ar draws Ewrop a gogledd America, pan edrychwch ar lefydd lle mae ardoll yn rhan reolaidd o'u diwydiant twristiaeth, ni welwch unrhyw beth i gefnogi'r codi bwganod a'r rhagfynegiadau diwedd-y-byd y mae'n...
Vaughan Gething: Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith economaidd bosibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a fyddant yn codi ardoll ar ymwelwyr. Cânt eu grymuso mewn awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain gyda chymorth Llywodraeth Cymru.