Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rydym ni'n cytuno â'r angen i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac felly rydym ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd bod angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi. Rydym ni'n...
Gareth Bennett: Wel, roeddwn innau'n holi pam tybed, a dyna pam y codais y mater. O edrych ar faniffesto Llafur, maniffesto'r DU o'r llynedd, nid oedd unrhyw sôn mewn gwirionedd am ddatganoli plismona, felly byddai'n dda inni glywed heddiw, Gweinidog, beth yw eich agwedd chi tuag at ddatganoli plismona, a sut y credwch chi y mae hynny'n cyd-fynd ag agwedd Plaid Lafur San Steffan? Beth fydden ni yn UKIP yn...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad blynyddol yr heddlu. Byddem ni yn UKIP yn awyddus hefyd i ymuno â'r Gweinidog yn ei deyrnged i swyddogion yr heddlu. Hoffwn nodi ar y dechrau ein bod ni yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rydym yn croesawu'r gefnogaeth ariannol gynyddol, er mai cynnydd bychan ydyw o gyllid allanol agregedig, sef cyfran Llywodraeth Cymru o setliad yr...
Gareth Bennett: Diolch am y mentrau blaenorol. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn edrych ar gyflwyno rheoliadau llymach ar gyfer bridio cŵn yn Lloegr. Yng ngoleuni hynny, a yw'n bosibl y gallai fod yn rhaid i ni edrych ar reoliadau tynnach eto yng Nghymru, o ystyried achosion diweddar, fel cyfraith Lucy?
Gareth Bennett: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles cŵn a chŵn bach yng Nghymru? OAQ51776
Gareth Bennett: Diolch. Mae yna rywbeth mwy nag ychydig yn anonest hefyd am y ddadl hon dros fod angen rhagor o Aelodau. Roedd refferendwm 1997 yn bleidlais o blaid Cynulliad, y pennwyd ar y pryd ei fod i gynnwys 60 o Aelodau. Nid oedd unrhyw sôn am orfod ei ehangu yn ddiweddarach. Galwodd refferendwm 2011 am bwerau deddfu sylfaenol, ond nid oedd yn egluro y byddai angen mwy o Aelodau ar ôl cyflawni...
Gareth Bennett: Pe baech yn aros i glywed fy nghynnig, Simon, efallai y caech eglurhad ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd. Gallai fod gennych bwyllgorau chwe Aelod gyda dau Aelod Llafur, tri Aelod rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac un UKIP. Byddai hyn yn dal yn gymesur pe bai gan Aelodau Llafur ddwy bleidlais yr un ym mhob sefyllfa bleidleisio. Wedi'r cyfan, mae'r pedwar Aelod Llafur bob amser yn pleidleisio...
Gareth Bennett: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae yna broblem gyda gwaith pwyllgor. Dyna yw rhan fwyaf difrifol y gwaith, mae'n debyg, oherwydd gallem fod yn craffu ar ddeddfwriaeth, ac mae'r gwaith pwyllgor, rwy'n teimlo, yn eithaf trwm. Fodd bynnag, hyd yn oed yno, ceir cafeatau, nad yw'r adroddiad yn manylu arnynt. Er enghraifft, nid ydym yn edrych ar ddeddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, dim ond...
Gareth Bennett: Ie, wel rwy'n mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw, David a Mike, felly diolch. Mae'n ddiddorol nodi nad oes fawr o rwymedigaethau statudol, hynny yw, dyletswyddau cyfreithiol, gan ACau i bob pwrpas. Felly, os ydym yn mynd i ddweud bod angen rhagor o ACau, efallai bod angen i ni yn gyntaf nodi set lawer mwy llym o ddyletswyddau statudol. Fe fyddwch yn cofio sut y dygwyd anfri ar y Cynulliad...
Gareth Bennett: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yma heddiw i drafod y bwriad i ehangu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Clywsom yn gynharach gan y Llywydd ynglŷn ag adroddiad y panel arbenigol, sydd wedi argymell ehangu, ac am yr ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn digwydd yn awr. Rydym ni yn UKIP yn credu bod y cynigion i ehangu yn newid enfawr a fydd yn gostus iawn. Rhaid inni sefydlu bod cydsyniad...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd, am gyflwyno'r cynnig heddiw ar ran Comisiwn y Cynulliad. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r panel arbenigol am gynhyrchu ei adroddiad, a'r grŵp cyfeirio gwleidyddol ei hun, sydd wedi bod yn cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cyfarfodydd y grŵp cyfeirio gwleidyddol yn ddiddorol iawn, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, er bod yn rhaid imi nodi mai un yn unig a fynychais yn...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rydym ni wedi bod yn cynnal ymchwiliad ynglŷn â digartrefedd ar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Fel y soniodd Bethan Jenkins yn gynharach, fe wnaethom ni ymweld â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth i lawr y ffordd oddi yma, yn Stryd Bute, a oedd yn ymweliad addysgiadol iawn oherwydd fe gawsom ni siarad nid yn unig â'r staff,...
Gareth Bennett: Diolch am yr ymateb yna. Do, soniasoch ar achlysur blaenorol eich bod chi'n aelod o CAMRA, ac mae'n dda eich bod chi'n cymryd rhan yn y byd cwrw go iawn. Rydym ni'n ceisio—. Mae gennym ni grŵp trawsbleidiol nawr. Mae Nick yn rhan ohono hefyd. Simon Thomas sy'n ei redeg. Rydym ni'n mynd i'ch helpu, gobeithio, i fwrw ymlaen â hyn, gan ein bod ni wedi bod yn aros cryn amser am ddatganiad...
Gareth Bennett: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganiatâd cynllunio a newid defnydd o ran tafarndai yng Nghymru? OAQ51734
Gareth Bennett: Diolch i Mick Antoniw a noddwyr eraill y ddadl heddiw. Nid yw mater lesddaliadau a rhydd-ddaliadau yn un newydd yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i geisio mynd yr holl ffordd yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg, fel y gwnaeth Mick, ond fe gawsom sefyllfa a gafodd lawer o sylw yn ystod y 1950au pan oedd gan nifer fawr o gartrefi glowyr yng Nghymoedd de Cymru lesddaliadau nad oedd y meddianwyr yn...
Gareth Bennett: Iawn. Diolch am eich ateb. Rwy'n cytuno bod angen inni ddeall. Efallai hefyd fod angen inni sicrhau dull safonol o fonitro lefel y trais fel y gallwn o leiaf ganfod hefyd faint sy'n digwydd mewn gwirionedd, sy'n rhywbeth y mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn galw amdano ar hyn o bryd. Felly, a fyddech bellach yn ystyried meddwl am ddull safonol o...
Gareth Bennett: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o drosedd a thrais mewn ysgolion? OAQ51666
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae yna rai pwyntiau synhwyrol yn y datganiad hwnnw y byddem ni ar y cyfan yn eu cefnogi, a rhai mwy dadleuol. I ddechrau gyda'r pethau da: swyddogaeth prif weithredwr y Cyngor fel y swyddog canlyniadau mewn etholiadau llywodraeth leol. Byddem yn cytuno â chi y dylai hon bellach fod yn swyddogaeth statudol ar gyfer prif weithredwr y cyngor, ac y...
Gareth Bennett: Na, nid hynny. Mae'r amgueddfa forol, fel y'i gelwid, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cyn hir, fe welwn ni'r Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn newid ei enw i'r 'Amgueddfa Diwydiant Cenedlaethol' neu ryw deitl diddychymyg tebyg. Rwy'n pendroni weithiau tybed pwy sy'n dyfeisio'r enwau newydd hyn. Bob tro rydych chi'n newid enw, rydych chi'n colli cwsmeriaid posib oherwydd rydych...
Gareth Bennett: Wel, af ymlaen at hynny wedyn, Lee. Dywedaf wrthych wedyn. Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys prif adeilad newydd, gweithdy crefft a chyfleusterau eraill. Mae'r adeilad newydd yn cynnwys caffi estynedig, mannau gweithgareddau a digwyddiadau, y gellir llogi rhai ohonyn nhw i grwpiau, a siop anrhegion fwy o faint. Bydd hyn, gobeithio, yn helpu amgueddfa Sain Ffagan i godi mwy o arian,...