Siân Gwenllian: Mae yna gynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes—mathemateg, gwyddoniaeth a darllen—ers 2015, sy'n galonogol. O'i gymharu â 2006, cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio bod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 a dim ond megis ailgydio yn sefyllfa 2006 ydym ni rŵan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau...
Siân Gwenllian: Hoffwn innau dalu teyrnged i ddisgyblion Cymru am eu holl waith caled, yn ogystal â diolch i'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc ni yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd, ond mae'n rhaid defnyddio'r data'n ddoeth, a dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddadansoddi'r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau a'r wythnosau...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Dwi'n edrych ymlaen, felly, at weld y 'Fframwaith Siarter Iaith' yn cael lle dyledus yn y fersiwn nesaf o'r cwricwlwm Cymreig. Rhaid imi ddweud dwi yn gefnogol iawn i rai o syniadau'r ymgynghoriad ar y rheoliadau—y symud at dargedau i'w groesawu, y sifft mewn ffocws oddi wrth datblygu ymatebol, sef mesur y galw gan rieni, i symud at y rhagweithiol, y proactive, sef creu'r...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. A dwi'n falch iawn eich bod chi yn dyfalbarhau efo'r ymdrechion yna, ac rydw i'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y trafodaethau efo'r cyngor yn dwyn ffrwyth yn fuan iawn. A throi rŵan at y cynllun siarter iaith arloesol, sydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg tu allan i'r dosbarth, mae yna dystiolaeth gref ei bod hi'n llwyddiannus, ond does gan y 'Fframwaith Siarter Iaith' ddim...
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Mi hoffwn i drafod eich datganiad ysgrifenedig diweddar sy'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad i ddiwygio rheoliadau cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, sef y WESPS. Mae gweld symudiad pendant tuag at newid yn gadarnhaol iawn. Mae angen cynllunio bwriadus er mwyn datblygu addysg Gymraeg ar draws y wlad, ond mae yna lawer o ffordd i fynd. Mae'r sefyllfa ddiweddar ym...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Dwi'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf yma. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, fe ges i'r fraint o gadeirio panel rhiant corfforaethol Cyngor Gwynedd, a dwi'n cofio'n glir y dyletswyddau manwl sydd ar gynghorwyr sir i weithredu er lles plant mewn gofal yn unol â'r hyfforddiant pe byddai'n blentyn i mi, ac mae yna ddyletswydd arnom ni fel Aelodau Cynulliad i...
Siân Gwenllian: Mae rhai o fy etholwyr i wedi bod yn fy ngweld i'n ddiweddar i sôn am gynllun cyffrous i greu canolfan amgylcheddol arbennig yn Eryri. Nod y Ganolfan Ryngwladol Adnoddau Daear ydy defnyddio'r ymchwil wyddonol ddiweddaraf i helpu cynulleidfaoedd i ddeall effaith pobl ar y byd a pha gamau y gallwn ni eu cymryd. Ond mae'n ymddangos bod arafwch ymateb eich Llywodraeth chi'n dal pethau'n ôl. Mae...
Siân Gwenllian: Fe gymerodd Cymru ran ym mhrofion PISA am y tro cyntaf yn 2006, a bydd y set ddiweddaraf o ganlyniadau yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Fel rydych chi'n gwybod, roedd sgoriau Cymru yn y cylch diwethaf yn 2015 yn is na sgoriau 2006 ymhob maes, ac roedd canlyniadau Cymru yn y flwyddyn honno hefyd yn is na chanlyniadau'r tair gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, ac yn is na chyfartaledd yr...
Siân Gwenllian: Mae'n amlwg imi—a dwi'n gwybod eich bod chi'n anghytuno â hyn—bod achosion fel hyn yn golygu bod yn rhaid inni edrych eto ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â'r Gymraeg yn y sector breifat. Un maes lle mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu ichi weithredu heddiw i hybu gweithluoedd lle gall y staff weithio yn Gymraeg ac i warchod eu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ddirwystr ydy yn y...
Siân Gwenllian: Gwych. Diolch yn fawr iawn. Dwi'n falch bod yna gonsensws ar y mater yma a dwi wir yn gobeithio y bydd y mater yn cael ei ddatrys yn gadarnhaol. Dwi yn dymuno'n dda i'r myfyrwyr, y rheini sydd yn ceisio gwthio'r maen i'r wal efo hyn. Dwi am droi at faes arall rŵan. Nos Lun, fe gyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad yn dyfarnu bod gweithwyr mewn ffatri yn Rhydaman wedi'u hatal rhag siarad...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Y llynedd, fe lansiwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, datblygiad arwyddocaol o ran y Gymraeg ym maes addysg uwch. Cefais i gyfarfod ddoe efo dau o arweinwyr yr undeb, Wil Rees a Jacob Morris. Yr hydref y llynedd, fe gafwyd cefnogaeth eang gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eu cyfarfod blynyddol i’r cam nesaf, sef creu swyddog etholedig, cyflogedig a llawn amser dros y...
Siân Gwenllian: Yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad bod sefyllfa Pacers Trafnidiaeth Cymru yn dal heb gael ei datrys, ac os na fydd yna gytundeb efo'r cerbydau yma, mae peryg y bydd yn rhaid tynnu rhai ohonyn nhw oddi ar y traciau, ac, yn amlwg, bydd hynny'n golygu y bydd gwasanaethau yn dirywio i bobl Cymru. Gaf i jest roi gair o rybudd i'ch Llywodraeth chi? Peidiwch â meddwl bod modd i chi israddio'r...
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau trenau ar draws y gogledd? OAQ54704
Siân Gwenllian: Dwi'n codi i siarad fel llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg. Mi fyddai'n fendigedig petai ni, Aelodau'r pumed Cynulliad, yn cyhoeddi yn glir heddiw mai 'Senedd Cymru' ydy enw ein Senedd genedlaethol ni, ac mai'r term 'Senedd Cymru' sydd i'w ddefnyddio o hyn ymlaen. Os nad ydyn ni'n gwneud hyn, dwi'n credu y byddwn ni'n colli cyfle hanesyddol ac mi fyddwn ni yn gwneud camgymeriad, a bydd...
Siân Gwenllian: Mi oedd bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno'r rotas newydd yma wedi codi nyth cacwn anferth yn lleol, a hynny yn gwbl ddealladwy. A dwi'n falch iawn bod y newid meddwl yma wedi digwydd rŵan—ac rydym ni wedi clywed amdano fo dim ond rhyw awr yn ôl. Mi fyddai hyn, petai o wedi digwydd, wedi bod yn gam hynod niweidiol ac yn cymryd mantais o'r nyrsys sydd yn gweithio mor...
Siân Gwenllian: Yn sicr. Mae'r cynllunio hirdymor yma yn angenrheidiol ar gyfer osgoi sefyllfaoedd fel yna i'r dyfodol. Dyna pam dwi mor falch—a dweud y gwir, bues i at y 18 o fyfyrwyr sydd ym Mangor ar hyn o bryd yn cael eu hyfforddiant, ac mae'n wych o beth, ond mae eisiau i hwnna gario ymlaen a chyflymu hefyd. Mae prinder deintyddion yn creu problemau mynediad at wasanaeth ddeintyddol yn yr un ffordd....
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Mae hi'n newyddion calonogol bod 186 o lefydd hyfforddi meddygon teulu wedi cael eu llenwi eleni, sy'n gynnydd ar y 136 oedd ar gael yn 2017, a oedd yn digwydd bod yr un ffigur yn union â'r un yn 2010. Mae'n hollbwysig bod y momentwm yma yn cael ei gynnal a'i gyflymu, fel y clywon ni gan Helen Mary, a hynny er mwyn datblygu y gweithlu angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer...
Siân Gwenllian: A wnewch chi gymryd ymyrraeth?
Siân Gwenllian: Beth roeddwn i'n ei ddweud ynglŷn â Brexit, wrth gwrs, oedd bod Brexit yn bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg oherwydd ei fod o'n bygwth bodolaeth cymunedau lle mae'r iaith Gymraeg yn iaith bob dydd. Felly, dyna oedd fy nghyfeiriad i at Brexit.
Siân Gwenllian: Dwi hefyd yn diolch yn fawr iawn am yr adroddiad yma gan y comisiynydd ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau rhwng 2018 a 2019—cyfnod sydd, fel rydyn ni wedi sôn yn barod, yn pontio cyfnod dau gomisiynydd, sef Meri Huws, sydd wedi gorffen ei thymor erbyn hyn, ac Aled Roberts, y comisiynydd hyd 2026. A hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r ddau ohonyn nhw am fod mor barod i gyfarfod yn...