Heledd Fychan: Ar hyn o bryd, yng Nghymru, efallai y bydd pobl yn teimlo, gyda'r cyhoeddiad hwn, fod diwedd y pandemig o fewn golwg. Yn wir, rwyf wedi cael nifer o negeseuon gan bobl sy'n arbennig o hapus bod canolfannau sglefrio'n ailagor. Ond yn y rhan fwyaf o leoedd yn y byd, mae'r pandemig yn arwain at fwy byth o farwolaethau. Er ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau'r Ewros dros yr wythnosau diwethaf ac...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi ddylwn i ddatgan fan hyn fy mod i'n gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoddi arian i nifer o gynghorau lleol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, i wario ar amddiffynfeydd dros dro rhag llifogydd ar gyfer tai, megis giatiau atal llifogydd ac ati, ac mae'r cynllun yn cael ei weinyddu...
Heledd Fychan: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r Gweinidog gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ56769
Heledd Fychan: Dwi'n siŵr ein bod yn gytûn yn y gobaith mai cyllideb adferol yn hytrach nag adweithiol fydd hon, a hoffwn ategu pwyntiau Llyr Gruffydd: mae angen i hon fod yn gyllideb radical os ydym am fynd i'r afael â'r heriau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Bydd yn hanfodol felly fod rôl ganolog ein sectorau diwylliannol, celfyddydol, creadigol a threftadaeth yn cael ei chydnabod ynddi. Wedi'r...
Heledd Fychan: Drefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf o ran ymateb y Lywodraeth hon i'r ffaith bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr wythnos diwethaf alwadau i roddi £1.2 biliwn o gronfeydd pensiwn i gyn-lowyr, gan fynnu dal gafael ar yr arian. A sut fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r glowyr a'r teuluoedd i gael cyfiawnder a'r hyn maent yn haeddu ei dderbyn? Yn ail, yr...
Heledd Fychan: Prif Weinidog, fel y cyfeiriasoch ato yn ein hymateb cyntaf, mae Cymru ac Affrica yn ymwneud â llawer mwy na masnach. Mae Oxfam Cymru, drwy eu partneriaid yn Uganda, wedi cael gwybod bod achosion COVID-19 wedi cynyddu gan dros 1,000 y cant fis diwethaf, ac mai dim ond 4,000 o bobl sydd wedi cael eu brechu yn llawn mewn poblogaeth o 45 miliwn. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei llais i...
Heledd Fychan: Mae'n iawn inni ofyn cwestiynau i Cyfoeth Naturiol Cymru a chodais yr union fater hwn ddoe yn y Senedd, ond rwy'n bryderus ynghylch cywair y sylwadau a wnaethpwyd heddiw. Yn y pen draw, rwy'n credu bod angen inni gofio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Yn eu hadolygiad a'u hadroddiad eu hunain ar y llifogydd, dywedasant eu bod wedi eu tangyllido a bod hynny...
Heledd Fychan: Pa gamau sydd yn cael eu cymryd i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth canser yn dilyn y pandemig ar gyfer trigolion Canol De Cymru?
Heledd Fychan: Ddydd Iau diwethaf fe gyhoeddwyd y cyntaf o'r adroddiadau adran 19 wedi'u paratoi gan gyngor Rhondda Cynon Taf i lifogydd 2020, ac roedd yn ymwneud â Pentre. Yn sgil ei gyhoeddi, rydym ni wedi gweld ffrae gyhoeddus rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor RhCT ynghylch y casgliadau, a galw gan rai gwleidyddion lleol am iawndal a gweithredu cyfreithiol posibl. At hynny, fel yr adroddwyd ar...
Heledd Fychan: Gwych. Diolch o galon i chi a diolch hefyd am y rôl wnaethoch chi ei chwarae i sicrhau bod gan bobl ifanc 16 a 17 yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad eleni. Er i nifer o bobl ifanc fanteisio ar y cyfle hwnnw, dwi'n falch iawn o glywed y byddwch chi yn ymchwilio o ran sut oedd effeithiolrwydd yr ymgyrch honno, ond hefyd mae gen i ddiddordeb gwybod: ydy'r ymchwil yna hefyd yn mynd i gynnwys y...
Heledd Fychan: 8. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i adeiladu ar ymgyrch pleidlais 16 i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ymgysylltu gyda gwaith yn y Senedd? OQ56707
Heledd Fychan: Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch gwneud cynnydd o ran datganoli darlledu i Gymru?
Heledd Fychan: Fel y byddwch yn ymwybodol, Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r ganolfan, sydd dim ond nepell o’r Senedd hon, wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach. Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli...
Heledd Fychan: Ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, mae etholwyr di-ben-draw wedi bod mewn cysylltiad ar yr union fater hwn, ac mae'n amlwg fod gwasanaethau'n anghyson ledled Cymru. Ac er bod problemau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi arwain at lai o wasanaethau a llai o gapasiti, y realiti yw bod y gwasanaethau bysiau yn gwbl annigonol cyn hynny hyd yn oed. Ni ddylid defnyddio COVID fel esgus. Mae'n...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Hoffwn gyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn ffurfiol, a nodi fy niolch innau am y cyfle i drafod ar ddiwrnod lle rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Twrci, ac, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno yn dda i'r garfan. Bwriad ein gwelliannau yw ychwanegu at y cynnig gwreiddiol mewn ffordd adeiladol, a hoffwn weld y Senedd yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol ar y...
Heledd Fychan: Hoffwn ddatgan yn glir iawn, o ran yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, nad oes lle i wleidyddiaeth plaid, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau a chefnogi eich gwaith. Ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at yr angen i fynd ati i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ar sail y data a'r wyddoniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn groes i'r modd rydych chi wedi gwrthod...
Heledd Fychan: Diolch i chi. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o ymgyrch yn fy ardal o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn benodol yng ngogledd Pontypridd, lle ceisiodd ymgyrchwyr berswadio'r cyngor lleol i ystyried opsiynau amgen, yn hytrach na'r opsiwn sy'n mynd rhagddo, a fydd yn symud mynediad at addysg Gymraeg ymhellach o gymunedau Ynysybwl, Coed-y-Cwm a Glyncoch, ac allan yn llwyr o Gilfynydd. Os ydym o...
Heledd Fychan: Diolch am eich ymateb. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod lefelau staffio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gyfan gwbl annigonol i ymdopi â llifogydd dinistriol 2020, fel sydd wedi'i gadarnhau gan y ffaith bod 41 yn fwy o staff ganddynt yn gweithio i reoli'r risg o lifogydd ers hynny, sydd dal yn dipyn llai na'r hyn y mae'r adroddiad yn datgelu sydd ei angen. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth...
Heledd Fychan: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu'r argymhellion a restrwyd yn ei adroddiad ar lifogydd 2020? OQ56603
Heledd Fychan: 8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i bob plentyn a chymuned, yn arbennig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru? OQ56602