Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Hefin David: Gwn ei fod yn gwneud pwynt smala ynglŷn â bod yn aelod blaenorol o'r pwyllgor, ond a all nodi unrhyw faterion yn yr adroddiad hwn ac unrhyw safbwyntiau sydd ganddo sydd wedi newid o ganlyniad i ddod yn Weinidog yn y Llywodraeth? A yw ei safbwynt wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i'r profiad hwnnw?
Hefin David: Cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol—a gellir ymgorffori'r cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol hynny yn y strategaeth a grybwyllodd Leanne Wood yn gynharach mewn perthynas â budd amgylcheddol, yn enwedig lle byddant yn tyfu cadwyni cyflenwi lleol, o darddiad lleol, yn y sector sylfaenol, a all leihau olion traed carbon. Daeth cwmni tai Redrow i gyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a...
Hefin David: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision canolbwyntio ar yr economi sylfaenol? OAQ53627
Hefin David: Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad galw heibio ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ar ran undebau addysgu amrywiol, gan gynnwys yr Undeb Addysg Cenedlaethol. Dywedodd athrawon a oedd yn bresennol wrthyf eu bod yn poeni bod toriadau yng nghyllid Llywodraeth y DU yn effeithio'n uniongyrchol ar eu gallu i roi'r diwygiadau addysg ar waith, gan gynnwys, er enghraifft, Bil Anghenion Dysgu...
Hefin David: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ysgolion? OAQ53579
Hefin David: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc ag awstistiaeth yng Nghaerffili?
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai?
Hefin David: Mae'n rhaid dweud, mae'r Dirprwy Weinidog dros yr economi wedi hyrwyddo'r economi bob dydd ers amser maith. Roedd hyn cyn iddo ddod yn Ddirprwy Weinidog, ac yn wir cyn iddo ddod yn Aelod Cynulliad, pan y'i hadnabuwyd yn syml fel Lee Waters. Un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu cael o'r—[Torri ar draws.] Wel, nid oes dim byd syml am Lee Waters. Un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu cael o...
Hefin David: 3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso gwaith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53521
Hefin David: Diolch. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swydd. Rwy'n siŵr y bydd hi'n dod i arfer yn gyflym iawn. [Chwerthin.] Ond at fy nghwestiwn: mae llawer o grwpiau gwirfoddol yn fy etholaeth i, bron gormod i sôn amdanyn nhw, ond rwyf am sôn am dri. Un yw Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned, sydd bellach yn fenter gymdeithasol ffyniannus—canolbwynt yn y...
Hefin David: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol? OAQ53472
Hefin David: Ar 27 Tachwedd y llynedd, gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr union gynllun cyflawni hwnnw yn y Siambr hon. Ers hynny, mae wedi cael dyrchafiad i'r meinciau cefn—[Chwerthin.]—a'r Dirprwy Weinidog sydd bellach yn gyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, un o'r pethau a addawodd Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu oedd cronfa gyfalaf £25 miliwn i gefnogi saith...
Hefin David: Pan roddodd James Price dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd y byddai cerbydau ychwanegol ar gael erbyn mis Mai eleni; os nad erbyn mis Mai, yna o bosibl erbyn mis Mawrth. Mae adegau prysur, yn enwedig wrth ddod adref ar adegau prysur, ar reilffordd Caerdydd i Rymni yn ofnadwy. Mae'n anodd iawn cael lle i eistedd. Byddai'r gwelliant hwn ym mis Mawrth/Mai yn galonogol...
Hefin David: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ53416
Hefin David: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53415
Hefin David: Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—roedd ar yr agenda—cefais e-bost dig iawn gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dywedai hyn, 'Hefin, rwy'n gobeithio eich bod yn mynd i sôn am yr hyn y mae cyngor Caerffili yn ei wneud. Dylech bob amser gysylltu â mi i weld beth rydym yn ei wneud oherwydd rydym yn gwneud pethau gwych yng Nghaerffili.' Ac yn sicr ddigon, fe wnes i hynny, fe...
Hefin David: Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf roi munud o'r ddadl fer hon, yn y drefn hon, i Joyce Watson, David Melding, Rhianon Passmore a Jenny Rathbone, sy'n dangos pwysigrwydd y ddadl heddiw, rwy'n credu. Pe baech yn gosod yr holl gwpanau polystyren a gynhyrchir mewn un diwrnod yn unig mewn rhes, byddent yn mynd yr holl ffordd o amgylch y ddaear. Pe baech yn gosod yr holl wellt plastig a...
Hefin David: Yn ddiweddar, cefais ohebiaeth gan etholwr a ysgrifennodd ataf mewn perthynas â phrofiad a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Roedd wedi parcio mewn parth a nodwyd yn amlwg ar wefan bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel un ar gyfer cleifion ac ymwelwyr. Roedd yn synnu, felly, pan gafodd ddirwy o £40 gan gwmni gorfodi parcio o'r enw ParkingEye, a ddywedai mai parth ar gyfer...
Hefin David: Yn ychwanegol at y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r feirniadaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, lle roeddent yn dweud bod datblygiad y cwricwlwm yn generig, wedi'i ddiffinio'n wael ac yn wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau. Daeth at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Ionawr a dywedodd nad...