Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn o glywed nad ydych yn gwrthwynebu'r syniad o berchnogaeth gan weithwyr a modelau cydweithredol o berchnogaeth gan weithwyr. Byddwn yn dweud wrtho, peidiwch ag edrych yn ôl ar y model hwnnw o'r 1980au. Edrychwch ar weithio gyda ni ar sut y byddai model newydd yn edrych er mwyn cyflawni'r un nod yn union. Daw hynny â mi at Vikki Howells, a siaradodd â ni mewn dwy ran, yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ymateb yn fyr iawn. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn werth chweil. Rwyf wedi mwynhau'r cyfan, ac fe geisiaf ymateb yn fyr i rai o'r cyfraniadau, gan orffen gyda'r Gweinidog. Yn gyntaf oll, i Joel. Rwy'n croesawu'r cyfraniad a'r feirniadaeth hefyd, oherwydd mae arnom angen yr her honno. Ond byddwn yn dweud...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a heddiw, byddwn yn archwilio nid yn unig beth arall y gellir ei wneud i hyrwyddo perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru, ond a allwn gyflwyno cyfraith Marcora ymarferol i Gymru yn wir. A diolch i'r Pwyllgor Busnes am ddewis y cynnig hwn i'w drafod ac i Aelodau eraill y Senedd am gefnogi'r cais. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau heddiw ac ymateb y Gweinidog....
Huw Irranca-Davies: Weinidog, fe fyddwch yn gwybod beth yw fy mhwynt terfynol ar hyn, ond a gaf fi ddweud yn gyntaf, fy mod yn credu bod y map hwn, y ddogfen, y datganiad heddiw yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch newid y sgwrs gyfan am symud tuag at deithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus—fel rydych newydd ei ddisgrifio: ceffyl gwaith y ffordd y teithiwn yn ein cymunedau, cyrraedd y gwaith,...
Huw Irranca-Davies: I ddilyn pwyntiau Russell a Rhun, mae bancio cymunedol yn ymwneud â phresenoldeb ar y stryd fawr, ac rydym wedi gweld mwy a mwy o fanciau’n diflannu oddi arnynt dros yr ychydig flynyddoedd, os nad degawdau, diwethaf. Mae hefyd yn ymwneud â mynediad rhad ac am ddim at fancio i grwpiau cymunedol ac elusennau. Gwelsom mai HSBC yw’r banc diweddaraf i fachu'r arian a diflannu, ac nid yw'n...
Huw Irranca-Davies: Felly, gan hynny, rydym yn edrych ymlaen, er mwyn datblygu consensws, i ymgysylltu’n adeiladol â’r comisiwn a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein trefniadau cyfansoddiadol yn addas i’r diben. Diolch yn fawr, Llywydd.
Huw Irranca-Davies: Tynnodd adroddiad etifeddiaeth ein pwyllgor blaenorol sylw at lawer o faterion a fydd yn berthnasol i waith y comisiwn. Tynnodd sylw at weithrediad ac effeithiolrwydd confensiwn Sewel ac yn wir y tensiynau sydd wedi bodoli rhwng Llywodraethau a'r angen i bob Llywodraeth a Senedd ddod o hyd i ddealltwriaeth gyffredin o gymhwyso'r confensiwn hwnnw. Awgrymodd ein pwyllgor blaenorol hefyd ein bod...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Gweinidog. Mae materion cyfansoddiadol yn ganolog i gylch gwaith y pwyllgor. Ar ôl holi’r Cwnsler Cyffredinol am ychydig ynghylch ei gynlluniau i sefydlu comisiwn cyfansoddiadol ym mis Medi, mae’r cyhoeddiad heddiw o gryn ddiddordeb i ni. Yn benodol, bydd yn ddiddorol ystyried y cysylltiad rhwng ei gynlluniau a’r ail argraffiad o 'Diwygio ein...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, yn fy rôl fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac ar ôl misoedd lawer o waith trawsbleidiol y tu ôl i'r llenni, lansiwyd y pecyn cymorth teithio llesol hirddisgwyliedig i ysgolion yn ysgol gynradd Penyrheol yng Ngorseinon. Yng Nghymru, rydym wedi rhoi camau pwysig ar waith i newid y ffordd yr ydym yn mynd i'r ysgol, ond mae'r...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi yn gyntaf oll, fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd, ofyn i'r morloi chwarae'n ofalus? [Chwerthin.] Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel y gŵyr y Gweinidog, yn y gwaith partneriaeth sy'n sail i bysgodfeydd a rheoli morol, yr ymelwa, yn gynaliadwy, ar ein hadnoddau naturiol, ochr yn ochr â'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, y dywedodd yn gywir y byddai'n sail i ystyriaeth Llywodraeth...
Huw Irranca-Davies: Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog pa waith y mae'n ei wneud ar wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol i sicrhau y gallwn ni fynd drwy hyn i gyd gyda'n gilydd yn ddiogel.
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n ailadrodd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich paragraff gobennol: mae pawb wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rydym ni'n newid hynt y pandemig hwn gyda'n gilydd. Mae'n bwysig dweud hyn oherwydd bydd y nodyn atgoffa hwnnw i bobl am faint y maen nhw wedi ei wneud gyda'i gilydd a faint y mae'n rhaid...
Huw Irranca-Davies: Er fy mod i'n croesawu'r datganiad hwn, rwy'n nodi nad yw'r pethau hyn yn bodoli mewn rhyw wagle. Os cyflawnir yr uchelgais a'r camau gweithredu yn hyn o beth, fe fyddan nhw'n cael effaith wirioneddol, ddiriaethol ar ein hetholwyr ni, yn enwedig y rhai a oedd yn bresennol ym mwrdd crwn iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr a drefnwyd gan fy nghyfaill da, Sarah Murphy, y gwnaethom ni ei lywyddu ar...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac rwyf i'n wirioneddol yn poeni yn fawr iawn am yr hydref a'r gaeaf i fy etholwyr i, y mae rhai ohonyn nhw yn dibynnu ar gredyd cynhwysol i atodi eu cyflogau, y mae rhai ohonyn nhw yn ddi-waith, ond, i bob un ohonyn nhw, mae hyn yn gwneud y gwahaniaeth—mae'n fater o lwyddo neu fethu—rhwng mynd i ddyled a thlodi ac o bosibl digartrefedd. Byddwn i'n...
Huw Irranca-Davies: 8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch atal y toriad mewn credyd cynhwysol, yn unol â'r hyn y gofynnwyd amdano gan arweinwyr y Llywodraethau datganoledig? OQ56987
Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r buddsoddiad y byddwn yn ei weld yn y seilwaith gwefru yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sef y £450,000 a fuddsoddir mewn cyfleusterau gwefru ar gyfer lleoedd parcio ar ymyl y palmant? Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod trafnidiaeth fwy gwyrdd hefyd yn cysylltu â'r hyn a wnawn gydag annog pobl i ddewis teithio llesol hefyd? Ac a...
Huw Irranca-Davies: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer addysg alwedigaethol ôl-16 yn etholaeth Ogwr?
Huw Irranca-Davies: Rwyf yn nodi ac yn croesawu'r ymateb yr ydym bellach wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru i'r pwyntiau hyn. Er ein bod yn gwerthfawrogi’r cyd-destun cyffredinol y mae’r newidiadau hyn yn y gyfraith wedi’u drafftio ynddynt, rwy’n atgoffa Llywodraeth Cymru, yn barchus, y dylai’r wybodaeth a ddarparwyd i fy mhwyllgor, yn ôl y cais, fod wedi cael ei chynnwys yn y memorandwm esboniadol...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe wnaethom drafod y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddoe, a gosod ein hadroddiad yn union wedi hynny er mwyn llywio'r drafodaeth y prynhawn yma. Diolch i gynghorwyr cyfreithiol y pwyllgor am wneud eu dadansoddiad mor gyflym—yn gyflym iawn.
Huw Irranca-Davies: Rwyf i hefyd yn diolch i fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor am eu gwaith craffu diwyd. Rydym ni wedi nodi yr hyn a fydd yn bwyntiau cyfarwydd erbyn hyn mewn cysylltiad ag ymyrraeth bosibl yr offeryn ar hawliau dynol a'r diffyg ymgynghori ffurfiol. Fe wnaethom ni sylwi hefyd nad oedd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau, a chydnabod y sail resymegol dros hyn, fel y nodir yn y...