Alun Davies: Diolch yn fawr. Dwi'n gwerthfawrogi'r ateb yna gan y Llywydd, a dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud. Dwi eisiau bod mewn sefyllfa ble, os oes yn rhaid inni newid y gyfraith, ein bod ni'n gwneud hynny ymlaen llaw. Dwi'n awyddus iawn, iawn, iawn i sicrhau ein bod ni'n ystyried yr holl ddewisiadau a fydd gennym ni, yr opsiynau y byddwn ni, efallai, yn eu hwynebu ym mis Mai, a bod pob...
Alun Davies: Weinidog, mae pobl ledled Cymru, ac yn sicr yn fy etholaeth ym Mlaenau Gwent, yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi busnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod cannoedd o fusnesau yn fy etholaeth i wedi cael cymorth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod y pecyn mwyaf o gymorth busnes yn unman yn y DU yn rhywbeth sydd eisoes wedi...
Alun Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau y mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn effeithio arnynt? OQ55763
Alun Davies: 3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am baratoadau i sicrhau y bydd etholiadau nesaf y Senedd fis Mai yn mynd rhagddynt yn ôl y bwriad? OQ55764
Alun Davies: O, wel, Neil, ni fydd o bwys i chi; nid ydym ni yn Wiltshire beth bynnag. Mae hwn yn fater i ni sydd, mewn gwirionedd, yn ceisio cynrychioli'r bobl a oedd yn meddwl eu bod nhw'n ein hethol ni. Gadewch i mi ddweud hyn: pan edrychais i ar y cynnig hwn gan y Prif Weinidog, roeddwn i'n ansicr a bod yn gwbl onest. Gofynnais dri chwestiwn i mi fy hun. Y cwestiwn cyntaf oedd, 'A oes unrhyw ddewis...
Alun Davies: Rwyf innau'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad a wnaeth ef y prynhawn yma. Roeddwn i'n arbennig o ddiolchgar o'i glywed yn datgan mor glir bod cefnogaeth i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol i'r Llywodraeth hon, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n gwbl hanfodol, yn enwedig pan fyddwch chi'n ystyried rhai o'r cymunedau y mae llawer ohonom ni'n eu cynrychioli. Mae llawer...
Alun Davies: Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog eisiau ymuno â mi i groesawu'r newyddion bod tîm pêl-droed carchar Prescoed bellach wedi cael chwarae yng nghynghrair dydd Sul Cynghrair Canol Gwent. Roedd yn drasiedi yn wir pan gawsant wybod, ar ôl 20 mlynedd, nad oeddent yn gallu ailymuno â'r gynghrair ar gyfer y tymor sydd i ddod. Ond onid yw hyn yn adlewyrchu'n wael ar sut yr ydym ni'n rheoli...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei esboniad clir o'r weledigaeth honno. Ni fydd yn synnu gwybod ei bod yn un yr wyf i yn ei rhannu. Rwy'n gobeithio, yn y sgyrsiau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyda'r Arglwydd Ganghellor, y byddan nhw'n pwysleisio y canlyniadau yr ydym wedi eu gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y ffordd y mae'r coronafeirws wedi effeithio...
Alun Davies: Y rhan fwyaf sarhaus o'r Bil hwn, wrth gwrs, yw'r ffordd y mae'n sathru ein setliad cyfansoddiadol, ac yn gwneud hynny heb gydsyniad. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, wrth gwrs, o Statud San Steffan, a ddeddfwyd ym mis Rhagfyr 1931, a oedd yn rhoi annibyniaeth i'r hyn oedd y Dominiynau ar y pryd. A yw'n bryd, Cwnsler Cyffredinol, i ni gael statud San Steffan newydd, sy'n rhoi'r...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Wrth gwrs, mae'r cwestiwn yn rhagflaenu'r cyhoeddiad ddoe am y dull sy'n cael ei fabwysiadu dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, yn siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i'r adwy ac yn rhoi cymorth di-dor i bobl sy'n cael eu heffeithio gan hynny. Ond byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, Prif Weinidog, pe gallech chi...
Alun Davies: 5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn ac ehangu'r cynllun cadw swyddi ar gyfer ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol? OQ55770
Alun Davies: Ers hynny, ers 2016, safodd y Gweinidog a minnau yng Nglynebwy yn 2017 a lansio rhaglen y Cymoedd Technoleg yn fy etholaeth i. Rydym wedi gweld bargeinion dinas Caerdydd ac Abertawe yn datblygu'n ansicr, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Rydym wedi clywed sôn am gronfa ffyniant gyffredin ond hyd yma, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon yn gwybod...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Dylwn ddweud ar y dechrau fod Dawn Bowden wedi gofyn am gael munud o fy amser, ac rwyf wedi cytuno i hynny. Ysgrifennais yn y Western Mail y bore yma mai un o'r pethau sy'n sicr am fywyd gwleidyddol yng Nghymru yw lansio rhaglen ar gyfer y Cymoedd gan Lywodraeth neu weinyddiaeth newydd, ac wrth ddweud hynny, dylwn innau hefyd, wrth gwrs, ddatgan fy...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Synnais wrth glywed Nick Ramsay a Mark Reckless yn cyfeirio at fy eiriolaeth i broses ddeddfwriaethol. Mae fy nodiadau fy hun yma'n dweud fy mod wedi dod at hyn heb fod ag unrhyw ragdybiaethau nac ymagwedd egwyddorol ar y cychwyn, dim ond gwrando ar y dystiolaeth. Efallai i mi wrando, sut y gallaf ddweud, ychydig yn fwy gweithredol nag y tybiwn. Mewn...
Alun Davies: Dwi'n cynnig yn ffurfiol.
Alun Davies: Mae'r canfyddiadau, Lywydd dros dro, mor llwm ag y byddai unrhyw un ohonom yn ei ddisgwyl a'i ragweld ac y byddai unrhyw un ohonom wedi gweld yn ein cymunedau ein hunain dros y misoedd diwethaf—yr effaith y mae'r feirws, y pandemig, wedi'i chael ar bobl sy'n byw mewn tlodi, ar bobl hŷn, ar ethnigrwydd ym mhob rhan o Gymru. Rydym wedi gweld sut nad yw'n feirws sydd wedi taro pobl yn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Lywydd dros dro. Rhaid imi ddweud bod yr adroddiad hwn yn ddarn rhagorol o waith a chredaf y dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar iawn i John Griffiths fel Cadeirydd, ac i'r holl Aelodau ar bob ochr i'r Siambr a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac wrth gwrs, y staff a fu'n gweithio arno hefyd. Credaf ei fod yn adlewyrchu'n wael ar rai o'r Aelodau a oedd yma i gyfrannu...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn am eich amynedd, Lywydd.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe. Mae Blaenau Gwent yn rhan o'r wlad, wrth gwrs, a fydd fwy ar ei cholled yn ariannol nag unrhyw fwrdeistref sirol arall, bron â bod. Mae Blaenau Gwent wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd o ran cysylltedd, mewn perthynas â buddsoddiad yn y rheilffyrdd a deuoli’r A465. Mae pobl...
Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd ei raglen economaidd yn cefnogi ardaloedd fel Blaenau Gwent?