Lesley Griffiths: Diolch Dirprwy Lywydd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi bod yn dyst i'r achosion mwyaf difrifol o ffliw adar yng Nghymru ac ar draws Prydain. Dyma'r achos mwyaf o glefyd hysbysadwy egsotig mewn anifeiliaid ers yr achosion trychinebus o glwy'r traed a'r genau yn 2001. Nid yw Prydain Fawr ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae'r straen yma o ffliw adar yn effeithio ar adar yn y rhan fwyaf o...
Lesley Griffiths: Mae'n wir ddrwg gen i glywed am y sefyllfa yr oeddech chi'n ei disgrifio, ond mater i'r bwrdd iechyd yw hwnnw, ac nid wyf i o'r farn y byddai datganiad llafar yn y fan hon yn briodol.
Lesley Griffiths: Felly, efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i, mewn ateb cynharach i Darren Millar, yn dweud ein bod ni'n sicr yn cydnabod bod dynion a menywod sy'n gyn-filwyr a'u teuluoedd angen mynediad at wasanaethau mewn ffordd wahanol, weithiau, i eraill, ac mae hynny'n sicr wedi bod ar gynnydd, wrth symud ymlaen. Soniais i'n gynharach hefyd y bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain...
Lesley Griffiths: O ran y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch ysgolion yn addysgu ar-lein, rwy'n gwybod fod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn dweud na fyddem ni'n dymuno gweld ysgolion yn gwneud hynny. Yn sicr, ni fyddem ni eisiau gweld ysgolion yn cau oni bai bod y penderfyniad yn seiliedig ar resymau brys neu iechyd neu ddiogelwch er enghraifft. Ac nid ydw i'n credu y...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n amlwg eich bod chi'n cyfeirio at ffordd benodol iawn yn eich etholaeth. Rwy'n credu y byddai'n well, oherwydd eich bod chi'n amlwg yn gofyn am iawndal ariannol hefyd, pe baech chi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Lesley Griffiths: Nid wyf i'n siŵr, Llywydd, a oedd yr Aelod yn ei sedd pan ofynnodd arweinydd yr wrthblaid yr un cwestiwn i mi, ond, fel y dywedais i, mae'r awdurdodau lleol wedi dweud iddyn nhw wneud 96 y cant o'r taliadau ym mis Mehefin.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae Llywodraeth y DU, yn amlwg, â chyfrifoldeb dros gyfiawnder, ac mae hynny'n cynnwys cyfiawnder ieuenctid. Pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru, yn amlwg byddem ni mewn sefyllfa i ystyried y cwestiwn hwn yn fanwl iawn ac, yn bwysicach byth, mewn sefyllfa i ymdrin â'r pwyntiau dilys iawn yr ydych chi wedi'u codi. O dan y drefn bresennol, fel y dywedais i, mae'n fater i...
Lesley Griffiths: Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch y cynllun talu ychwanegol i'n gweithwyr gofal, fy nealltwriaeth i yw bod awdurdodau lleol wedi nodi bod 96 y cant o'r taliadau wedi'u talu'n barod. O ran y 4 y cant, rwy'n credu eich bod chi wir wedi gwneud y peth cywir yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, a bydd hi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y 4 y cant hwnnw. Ac ar eich ail...
Lesley Griffiths: Diolch, ac yn sicr mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y materion iechyd y mae Owain ac Ethan yn eu profi. Yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei ddisgwyl yw bod pobl yn gallu cael gafael ar therapïau a argymhellir fel rhan o'r drefn arferol drwy'r GIG, ac mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod triniaethau sydd ar gael fel mater o drefn ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd. Yn amlwg gwnaethoch...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod pan oedd gen i bortffolio'r amgylchedd, roeddwn i'n cwrdd yn rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a hefyd yr Alban, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater â gedwir yn ôl, a byddai angen i Lywodraeth y DU wahardd gwerthu tân gwyllt. Ond rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yr ydych chi'n ei wneud yw nad un noson yn unig...
Lesley Griffiths: Mae'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, na'r awdurdod lleol, byddwn i'n dweud, weithio gyda Llywodraeth y DU pan ydyn nhw'n cael eu hanwybyddu'n llwyr. Fel y dywedwch chi, ni chawsom wybod am hyn ymlaen llaw, ac rwyf i eisiau bod yn wirioneddol glir, Llywydd, mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am bolisi mewnfudo a'i gyflawni. Mae ganddyn nhw system nawr sydd wedi torri, rwy'n credu,...
Lesley Griffiths: Felly, rwy'n cyfeirio, mewn gwirionedd, at fy ateb i Darren Millar. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod gwaith pwysig iawn swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yma yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae rhai newidiadau i fusnes yr wythnos yma. Byddaf i'n gwneud datganiad ynghylch ffliw adar yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac mae'r datganiad ar yr ymateb i gynllun ariannol a rhagolwg economaidd Llywodraeth y DU a'r drafodaeth ar yr Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Protocol Gogledd Iwerddon wedi'i gohirio tan 22 Tachwedd. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain dadl y prynhawn yma ar y lluoedd arfog. Nid wyf i eisiau dwyn y sylw oddi wrthi, ond nid wyf i'n credu fy mod i'n dweud unrhyw beth nad yw yn y parth cyhoeddus; rwyf i wedi ei chlywed yn dweud droeon ei bod hi wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ariannu swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog.
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i sicrhau bod milwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi yn ysbryd cyfamod y lluoedd arfog. Mewn meysydd datganoledig gan gynnwys iechyd, addysg, tai a chyflogaeth, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau nad oes neb o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. Pan fo'n berthnasol, rhoddir ystyriaeth arbennig.
Lesley Griffiths: Fel y dywedais yn fy atebion cynharach i ddau o'n cyd-Aelodau, fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod â llawer o'r datblygwyr hyn—ac roedd Blue Gem yn sicr wedi'i gynrychioli o amgylch y bwrdd hwnnw—yng Nghorc, lle cawsom y trafodaethau hynny. Nid oes ganddyn nhw unrhyw amheuon na fydd Llywodraeth Cymru yno i'w cefnogi wrth iddyn nhw gyflwyno'r prosiectau hyn.
Lesley Griffiths: Rydym ni eisiau i Gymru gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ein hunain a chadw'r manteision economaidd a chymdeithasol o wneud hynny. Rydym ni'n creu datblygwr adnewyddadwy sector cyhoeddus wrth i ni wneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.
Lesley Griffiths: Rydych chi'n iawn; rydym ni'n sicr yn wynebu colled sylweddol—dros £1.1 biliwn—mewn cyllid UE heb ei ddisodli rhwng 2021 a 2025. Fe wnaethoch chi sôn am gyllid ffyniant bro. Yn amlwg, gwrthodwyd mynediad i Lywodraeth Cymru at y gronfa ffyniant gyffredin neu unrhyw fath o swyddogaeth benderfynu o ran sut mae'r cyllid yn mynd i gael ei ddyrannu yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n deg...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid a chyngor polisi i gynorthwyo darpariaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Yn sgil diddymu arian yr UE, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu model ariannu cynaliadwy yn unol â strategaethau rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths: Yn amlwg, gall eiriolaeth gymryd sawl ffurf. Mae'n gallu bod yn anffurfiol, mae'n gallu bod yn ffurfiol. Rwy'n credu eich bod chi'n cyfeirio at ddulliau mwy ffurfiol. Mae gan bob math o eiriolaeth ei fanteision ei hun yn y ffordd y mae'n cynorthwyo unigolion. Mae gennym ni wasanaethau eiriolaeth ar gyfer iechyd. Byddwch yn ymwybodol o'r corff llais y dinesydd newydd ar gyfer iechyd a gofal...