Joyce Watson: —sydd wedi gweithredu. Diolch yn fawr iawn.
Joyce Watson: Diolch, Llywydd. Ac rwy'n mynd i siarad i gefnogi y cyfnod atal byr hwn a fydd yn cael ei gyflwyno ddydd Gwener. Rwy'n cydnabod ei fod yn gwbl angenrheidiol. Rwyf wedi gwrando ar y ddadl a chafwyd rhai datganiadau rhagorol, ac, yn anffodus, datganiadau nad oedden nhw mor rhagorol. Rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir iawn nad y Blaid Lafur yn unig sy'n cefnogi hwn, ond rwyf hefyd eisiau...
Joyce Watson: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ym mis Ebrill, cynyddodd Llywodraeth y DU daliadau credyd cynhwysol gan £20 yr wythnos, ac yn wir roedd hynny yn achubiaeth i lawer o deuluoedd yn ystod y pandemig. Ond codiad dros dro yn unig yw hwn a disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ebrill 2021. Cafwyd llawer iawn o alwadau gan lawer iawn o elusennau ledled y DU i ofyn am barhad yr £20 ychwanegol hwnnw...
Joyce Watson: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol? OQ55740
Joyce Watson: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd yn rhy aml o lawer nid yw materion iechyd menywod yn gweld golau dydd. Nid ydynt yn cael eu trafod ac felly nid ydynt o reidrwydd yn cael sylw dyledus. Felly, mae endometriosis, fel y dywedodd pawb, yn gyflwr gwanychol iawn, ac o ganlyniad mae'n cael effaith ddinistriol ar iechyd menywod o ran ansawdd eu...
Joyce Watson: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau digartrefedd y gaeaf hwn?
Joyce Watson: Diolch, Lywydd, a diolch i chi am dderbyn y cwestiwn hwn heddiw, oherwydd gofynnais am ddatganiad ddoe. Ond yr hyn sy'n bwysig yma, rwy'n meddwl, yw nodi dwy ffaith. A'r gyntaf, mae'n ymddangos i mi, yw mai'r 129 o bobl a gyflogir yma oedd yr olaf i wybod, ac ni ddylai hynny byth ddigwydd. Felly, i symud ymlaen o hynny, Weinidog, clywais yr hyn a ddywedoch chi, rydych yn gweithio gyda...
Joyce Watson: Rwyf eisiau datgysylltu fy hun oddi wrth lawer iawn o'r hyn a ddywedwyd o'r blaen. Rwy'n mynd i groesawu'r ddadl hon, yn enwedig wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon a chydnabod ei fod yn rhan annatod o hanes pob un ohonom yn y fan yma. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r cyflawniadau a'r cyfraniadau a wnaed gan unigolion sydd â threftadaeth Garibïaidd Affricanaidd ac...
Joyce Watson: Mae gennyf bryderon sylweddol ynghylch y trefniant hwn: un ohonyn nhw yw nad wyf i'n ymddiried yn y Torïaid, a dyna fy llinell goch i mi fy hun. Byddaf i yn ei gefnogi, ond rwy'n mynd i'w gefnogi gydag amheuon enfawr, ac rwyf eisiau eu hamlinellu. Nid wyf yn credu bod adrodd bob dwy flynedd yn cyfateb â chymal machlud, ac mae hynny'n peri pryder imi. Ond yr hyn sydd wir yn peri pryder yma...
Joyce Watson: Mae hi braidd yn anffodus—roeddwn i'n ceisio gwrando ar y siaradwr blaenorol ac roedd tarfu ar y cysylltiad drwy'r amser. Ond, er hynny, fy rheswm dros siarad yma yw i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad, ac ailadrodd bod llwyddiant y cyfyngiad cyhoeddus yn dibynnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn ei gilydd a'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. A dyna pam rwyf i'n credu bod ymddygiad...
Joyce Watson: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd. Y cyntaf yw datganiad gan Weinidog yr economi am gau ffatri rhannau ceir Stadco yn Llanfyllin. Mae 129 o weithwyr a'u teuluoedd eisiau gwybod ar frys pa gymorth a pha gefnogaeth fydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol agos. Ac yna, yn dilyn hynny, gwn y bydd diddordeb ehangach gan y cyhoedd yn yr hyn sy'n digwydd i'r safle hwnnw, o gofio mai dyma'r...
Joyce Watson: Diolch am eich ateb. Yn ei sesiwn dystiolaeth gyda phwyllgor iechyd y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Dr Quentin Sandifer o Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cyfnod cyffredin byddem yn anelu at ddarparu brechlyn ffliw i 75 y cant o'r bobl sydd mewn grwpiau cymwys ac y byddai hynny'n ‘ymestyn yr effaith amddiffynnol i'r eithaf’. Felly, yn amlwg, hoffem gyflawni o leiaf hynny eleni. Felly,...
Joyce Watson: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu rhag y ffliw y gaeaf hwn? OQ55595
Joyce Watson: Diolch am eich ateb. Ond ar ddechrau pandemig COVID-19, capiodd Llywodraeth Cymru y cynllun cymhwysedd ar gyfer seibiant ardrethi busnes a hepgor pob safle manwerthu, lletygarwch a hamdden gyda gwerth trethadwy o fwy na £0.5 miliwn. Ac roedd dull wedi'i dargedu o'r fath yn galluogi Llywodraeth Cymru i ychwanegu £100 miliwn at y gronfa cadernid economaidd a helpodd, yn ei thro, i ddiogelu...
Joyce Watson: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb hydref 2020? OQ55560
Joyce Watson: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi twristiaeth dros y 12 mis nesaf?
Joyce Watson: Diolch am hynny. Un o ganfyddiadau'r adroddiad yw effaith y cyni parhaus a gafodd ei osod ar Gymru gan gynlluniau gwario Llywodraeth y DU. Roedd y cyni hwnnw'n lleihau buddsoddiad awdurdodau lleol mewn diwydiannau, a mathau eraill o gyllid y byddem wedi disgwyl iddo ddod i Gymru, a phenderfyniad gwleidyddol yn unig ydoedd. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Changhellor y DU i...
Joyce Watson: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'The Future of Regional Development and Public Investment in Wales'? OQ55579
Joyce Watson: Mae cyn brif economegydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Séan Rickard, yn amcangyfrif y gallai un o bob tair fferm roi'r gorau iddi o fewn pum mlynedd pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Felly y ffordd orau y gall Paul Davies gefnogi ffermio yng Nghymru yw drwy lywio ei blaid i ffwrdd oddi wrth y canlyniad trychinebus hwnnw. Ffordd arall yw drwy gefnogi ffermio cynaliadwy sy'n sicrhau...
Joyce Watson: Rwyf i wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer o blaid defnyddio mwy o barthau 20mya yng Nghymru. Edrychais yn gyntaf ar hyn yn 2011, ac ar yr adeg honno yr oedd 237 o ddamweiniau difrifol yn cynnwys cerddwyr yng Nghymru, ac yn anffodus roedd hynny'n cynnwys 82 o blant yn colli eu bywydau neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol iawn, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw’r ystadegau hynny mewn cof...