Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Yn ystod tymor y Senedd yma, mae’r Comisiwn a’r prif weithredwr wedi gweithio gyda’r pwyllgor i baratoi gwybodaeth ariannol dryloyw, a dwi yn gobeithio y bydd y berthynas waith effeithiol yna yn parhau, wrth gwrs, i mewn i'r chweched Senedd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r newyddion fod y prosiect i...
Llyr Gruffydd: Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o'r camau sydd ar y gweill i wneud cais i gronfa syniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn edrych ar y posibilrwydd o ailagor y llinell rhwng Bangor ac Afonwen. Nawr, mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn cwblhau loop pwysig iawn o safbwynt y gogledd-orllewin, a gyda datblygiad posibl y llinell o Aberystwyth i Gaerfyrddin, mi fyddai hynny yn...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am isadeiledd rheilffyrdd yn y gogledd? OQ55838
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddom i gyd, yr wythnos hon yw Wythnos Hinsawdd, ac mae'n gyfle i fyfyrio ar ein cydymdrechion a'n cydymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur presennol a pharhaus. Ers i'r Senedd ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, efallai nad ydym wedi gweld y newid agwedd pendant y byddai llawer ohonom wedi gobeithio amdano, ac wedi'i ddisgwyl yn wir, a gwn...
Llyr Gruffydd: Wel, dwi'n gobeithio eich bod chi eisoes yn dod i weld gymaint mae pobl yng ngogledd Cymru yn poeni am wasanaethau iechyd meddwl, ac nid dim ond oherwydd, wrth gwrs, yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd ond am resymau hanesyddol hefyd. Byddwch chi'n gwybod mai diffygion yn y gwasanaethau iechyd meddwl oedd un o'r rhesymau y rhoddwyd y bwrdd i mewn i fesurau arbennig, ac mae nifer o...
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd meddwl yn y Gogledd? OQ55787
Llyr Gruffydd: Os caiff y refeniw ei rannu, a fydd yn cael ei rannu ar sail poblogaeth? A yw'n mynd i ddod drwy fformiwla Barnett? A yw'n mynd i adlewyrchu'r ffaith bod 9 y cant o'r gosodiadau sy'n ddarostyngedig i'r cynllun wedi eu lleoli yng Nghymru, neu fod 15 y cant, rwy'n credu, o allyriadau'r DU o fewn y cynllun yn dod o Gymru? Mae cyfranogwyr cynllun masnachu allyriadau yn cyfrif am 46 y cant o...
Llyr Gruffydd: Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r Gorchymyn yma wedi cael ei gyhoeddi ar ei ben ei hun, i bob pwrpas—in isolation fel maen nhw'n ei ddweud yn Saesneg. Mae e i fod yn rhan o becyn o bum darn o ddeddfwriaeth oddi fewn i fframwaith cyffredin a bod hwnnw'n cael ei weld ochr yn ochr â'r concordat yma sydd i fod i gael ei gytuno ar sut mae Llywodraethau'n mynd i ddod at ei gilydd i wneud iddo fe...
Llyr Gruffydd: Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i sefydliadau addysg uwch yn wyneb yr heriau presennol?
Llyr Gruffydd: Efallai ei bod yn arwyddocaol fod EDF, y cwmni y tu ôl i'r prosiect, bellach wedi teimlo bod angen cynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol cyn i Cyfoeth Naturiol Cymru fynnu eu bod yn gwneud hynny. Credaf fod hynny'n gydnabyddiaeth o'r angen am ddadansoddiad cynhwysfawr a thrylwyr o samplau gwaddodion. Ac mae hyn yn mynd y tu hwnt i'r cynllun samplu cychwynnol, a oedd yn destun ymgynghoriad...
Llyr Gruffydd: Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n trafod hyn yn y Siambr heddiw yn tanlinellu bod yna bryderon real iawn ymhlith pobl yng Nghymru ynghylch y bwriad i ddympio mwd o Hinkley oddi ar arfordir de Cymru. Dwi wedi ymgysylltu â gwyddonwyr ac ymgyrchwyr a'r ymgyrch Geiger Bay, wrth gwrs; pob un ohonyn nhw'n mynegi pryderon difrifol am yr effaith y bydd dympio o'r fath yn ei chael ar yr...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am yr ateb. Mae'r tai, wrth gwrs, sydd o fewn y gyfradd uwch yn cynnwys nifer o wahanol fathau o dai, megis gwerthiant ail dai, eiddo prynu i osod, tai sy'n cael eu gwerthu i gymdeithasau tai, ac yn y blaen. Felly mae yna ystod o wahanol fathau o fewn yr un gyfradd yna. Nawr, rŷn ni'n ddiweddar yn fan hyn yn y Senedd, wrth gwrs, wedi trafod yr argyfwng tai a chynigion penodol i...
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am niferoedd y tai cyfradd uwch sy'n ymddangos yn ffigurau diweddaraf y dreth trafodiadau tir? OQ55756
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Am funud, roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog yn camu'n ôl braidd o'r hyn roeddwn wedi'i ddeall oedd y safbwynt, ond rwy'n credu—. Rwy'n tybio bod bod yn agored i barhau â'r drafodaeth hon yn dweud mewn gwirionedd eich bod yn hapus i wneud hynny ac y byddwch yn ymgysylltu, ac rwy'n siŵr y bydd eich olynydd yn y Senedd nesaf, gobeithio, yn hapus i wneud...
Llyr Gruffydd: Ein casgliad cyntaf yw ein bod yn credu, fel pwynt o egwyddor, y dylid cael deddfwriaeth flynyddol i basio cyllideb Llywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu dylanwadu'n effeithiol ar y Weithrediaeth. Dechreuodd ein gwaith ar gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn gydag ymweliad â'r Alban, lle cynhaliwyd sesiynau ffurfiol gyda chynrychiolwyr o grŵp adolygu...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle i agor y ddadl yma heddiw mewn perthynas, wrth gwrs, â'n hymchwiliad ni i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad ni, ac, wrth gwrs, i'r Gweinidog hefyd am ei hymateb i'n hadroddiad ni. Nawr, mi roddodd Deddf Cymru 2014...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Byddwch chi, dwi'n gwybod, yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Cyswllt Ffermio, 'Iaith y Pridd', yn ddiweddar, ac rŷn ni'n gwybod am ffigurau'r cyfrifiad, sy'n dangos bod 43 y cant o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg o gymharu ag 19 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Nawr, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'r iaith Gymraeg a...
Llyr Gruffydd: Wel, nid ydych wedi rhoi unrhyw gamau penodol i mi o hyd, ond rwyf am symud ymlaen, gan fod gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau a gwelsom yr wythnos hon sut y gwnaeth Aelodau Seneddol Torïaidd yn San Steffan gael gwared ar gymalau o Fil Amaethyddiaeth y DU, wrth gwrs, cymalau a fyddai wedi diogelu safonau bwyd yn y wlad hon mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Ac wrth wneud hynny, wrth...
Llyr Gruffydd: Rwy'n falch eich bod yn rhannu fy mhryderon. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhoi'r sicrwydd roeddwn yn chwilio amdano. Ni chlywais unrhyw fanylion penodol, heblaw am ‘drafodaethau parhaus’. Nawr, 12 wythnos sydd i fynd, wrth gwrs, tan y sefyllfa bosibl hon, ac mae angen i'ch Llywodraeth fod yn barod i gymryd camau gweithredu ymhen 12 wythnos. Roeddwn yn gobeithio clywed, efallai, sut...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Yfory, Weinidog, wrth gwrs, yw'r terfyn amser a bennwyd gan Boris Johnson ar gyfer cytuno gyda'r UE ar gytundeb masnach ar ôl Brexit, ac ar ôl hynny, dywed fod y DU yn barod i roi’r gorau i’r trafodaethau, gan ein gadael gydag anhrefn ‘dim cytundeb’, a gwireddu hunllefau gwaethaf y diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru wrth gwrs. Ac mae pob un ohonom yn...