Mark Drakeford: Mae sgrinio poblogaeth yn gyfrifoldeb craidd iechyd y cyhoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaethau sgrinio canser. Mae'n goruchwylio gwelliannau i raglenni, gan gynnwys yr estyniad diweddar yn y garfan oedran sy'n gymwys i gael gwasanaeth sgrinio'r coluddyn yng Nghymru.
Mark Drakeford: Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion y bwrdd taliadau meddygon a deintyddion, ac y bydd pawb sy'n gweithio yn GIG Cymru sydd dan sylw yn yr argymhellion hynny yn gwybod y byddant yn cael y codiadau a gynigiodd y bwrdd. Dydw i ddim mewn sefyllfa i wybod beth yw'r union drefniadau cyflog ar gyfer pob bwrdd iechyd ac i bob person sy'n gweithio iddyn nhw, ond rwy'n siŵr...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n credu bod Hefin David yn gwneud pwynt pwysig—sef na fydd ceisio mynd i'r afael â'r pwysau yn y system drwy ganolbwyntio ar un agwedd arni yn unig yn rhoi'r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld. Mae llawer o'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn wir yn dod oherwydd bod rhannau eraill o'r system ei hun dan straen. Rwyf wedi ceisio egluro yn fy atebion cynharach mai un o'r...
Mark Drakeford: Diolch i Hefin David am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith polisi ac yn darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am roi'r gwasanaeth ar waith yn eu hardaloedd.
Mark Drakeford: Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd egni cynaliadwy. Trwy greu system ar gyfer y dyfodol sy’n dibynnu ar egni cynaliadwy, gallwn ni weld dyfodol lle mae costau egni yn gallu bod yn fforddiadwy i fusnesau ac i bobl leol hefyd. Mae uchelgais gyda ni fel Llywodraeth i gynyddu’r canran o egni cynaliadwy sydd yn nwylo pobl leol. Rŷn ni wedi cynyddu nifer y rhaglenni ac...
Mark Drakeford: 'Breuddwyd gwrach' fyddai'r ffordd fwyaf caredig o'i ddisgrifio. Gallwch ddefnyddio'r ysgogiadau hynny, ac maen nhw'n dod â symiau cymedrol iawn, iawn o arian i mewn. Ac mae hynny'n cymryd yn ganiataol—sy'n eithaf arwrol, mewn gwirionedd—nad yw'r bobl y gofynnir iddyn nhw bellach dalu mwy o dreth yng Nghymru nag y bydden nhw'n gorfod ei thalu dros y ffin, yn trefnu eu materion mewn...
Mark Drakeford: Llywydd, rwyf eisoes wedi cytuno ag arweinydd Plaid Cymru mai trethiant blaengar yw'r ffordd y dylem ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn na allaf gytuno ag ef arno o bosib yw bod codi trethi yn y ffordd yr awgrymodd yn ei gwestiwn cyntaf—. Oherwydd iddo ofyn i mi yn ei gwestiwn cyntaf, byddwch yn cofio, a ddylem ni godi'r ddwy gyfradd drethu ychwanegol yr ydym ni'n gallu eu haddasu yma...
Mark Drakeford: Mae cyfres o raglenni gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau ym Meirionnydd. Mae’r cynnydd eithriadol mewn costau egni yn golygu bod angen set hirdymor o atebion, a dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig all eu darparu.
Mark Drakeford: Rwy'n cytuno â'r egwyddor, Llywydd, wrth gwrs mai'r rhai sydd â'r mwyaf ddylai gyfrannu fwyaf. Byddwn ni'n gwneud, fel yr eglurais i yr wythnos diwethaf—. Yr wythnos diwethaf, roedd yr Aelod yn fy annog i godi cyfraddau treth incwm yma yng Nghymru, a byddem yn edrych yn ffôl iawn heddiw pe byddem wedi dilyn ei gyngor bryd hynny, oherwydd, fel yr eglurais iddo, byddwn yn gwneud ein...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn etifeddu'r anawsterau sydd wedi eu creu yn ystod y tair wythnos diwethaf. Mae'r tair wythnos diwethaf wedi newid y cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynddo. Clywais Ganghellor yr wrthblaid yn esbonio hynny'n gryf iawn ar y radio y bore yma. Ni ellir cynnal rhywbeth a oedd yn iawn dair wythnos yn ôl mwyach, o ystyried y cythrwfl a'r...
Mark Drakeford: Llywydd, presgripsiwn Llywodraeth Cymru yw buddsoddi mwy o arian yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod â mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, i fod ag ystod ehangach o bobl sy'n gallu darparu'r gwasanaethau hynny ac i ambiwlansys wybod, pan fyddant yn cyrraedd ysbytai, y bydd yr ysbyty mewn sefyllfa i dderbyn y claf hwnnw fel y gall yr ambiwlans fynd yn ôl ar y ffordd eto yn...
Mark Drakeford: Do, fe gefnogodd Liz Truss. Rydym ni'n gwybod hynny. Mae e'n rhannol gyfrifol am y llanast yr ydym ni ynddo. Gweiddi arnaf i am y trafferthion sydd yn y gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n cydnabod hynny, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda phobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans i gael y gwasanaeth i'r sefyllfa lle mae angen iddo fod. Does dim ateb i hynny drwy weiddi arnaf i fel...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n deall y pwysau sydd ar y Blaid Geidwadol. Rwy'n deall pa mor anodd yw hi i arweinydd yr wrthblaid ddod yma a gofyn cwestiynau heddiw. Ond peidiwch â gadael iddo gredu, drwy weiddi arnaf i, y bydd yn perswadio unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon fod ei gyfrifoldeb—dydw i ddim wedi clywed yr un gair ganddo erioed yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n cytuno bod gwasanaeth ambiwlans Cymru o dan bwysau enfawr. Fe fydd hi dan fwy o bwysau o lawer pan fydd ei blaid ef wedi gorffen torri cyllideb y gwasanaeth iechyd, fel mae Jeremy Hunt wedi dweud ei fod yn bwriadu gwneud. Ie, gallwch ochneidio a griddfan, ond mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd lle mae'n gorwedd, ac mae pobl yn deall hynny hefyd. Ydy, mae'r system o dan bwysau enfawr;...
Mark Drakeford: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwyf eisiau ei ailadrodd eto y prynhawn 'ma, fel y gwnes i wythnos diwethaf, oherwydd mae hwn yn gyfnod hollol ddifrifol ym mywydau dinasyddion yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn werth, o ran pŵer prynu, £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd adeg yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, ac mae'r Canghellor wedi dweud...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn haeddu gwell oddi wrth Aelodau blaenaf ei grŵp a ddylai fod wedi ei gynghori, cyn iddo sefyll, i beidio â chynnig cyfraniad o'r math yna ar lawr y Senedd. 'Bai Gordon Brown ac Unol Daleithiau America yw'r cyfan.' Wel, hyd yn oed mewn wythnos pan gynigwyd yr esboniadau mwyaf anghyffredin, dydw i ddim yn credu bod unrhyw un wedi ceisio dwyn perswâd arnom ni i...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, wrth gwrs, nid yw'n deg ein bod ni i gyd wedi gorfod dioddef yr arbrawf aflwyddiannus—arbrawf aflwyddiannus a gymerodd lai na mis i ddymchwel o flaen ein llygaid. A'r rheswm y mae'n arbennig o annheg yw bod yr arbrawf wedi ei thynghedu i fethu o'r cychwyn cyntaf. Doedd dim angen dod i gysylltiad â realiti'r marchnadoedd i bobl ddeall hynny. Roedd dull gweithredu economaidd yn...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Mae'r aflonyddwch diweddar ym marchnadoedd ariannol y DU, a datganiad cyllidol Llywodraeth y DU yn gatalydd, wedi cynyddu cost benthyca i'r Llywodraeth, busnesau a dinasyddion cyffredin. Bydd yn niweidio twf, yn gwaethygu'r cyllid cyhoeddus ac yn gwneud bywyd yn anoddach i fenthycwyr, gan gynnwys prynwyr tai.
Mark Drakeford: Llywydd, mae'n bwysig, fel esboniais i, i gadw'r ddau beth ar wahân. Pan fyddwn ni'n siarad am ddeddfu, dydyn ni ddim yn siarad am beth rŷn ni'n ei wneud i bobl sydd yn y sefyllfa bresennol; rydym yn ymateb i hwnna drwy'r arian rŷn ni wedi ei roi ar y bwrdd a'r system sydd yn mynd ymlaen nawr. Dydy hwnna ddim yn dibynnu ar newid y gyfraith. Rŷn ni'n newid y gyfraith ar gyfer y dyfodol, i...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd hi'n gwybod bod Deddf Diogelwch Adeiladau 2020 eisoes yn cynnwys sawl darpariaeth i ychwanegu at amddiffyniadau lesddeiliaid yma yng Nghymru. Felly, roeddem yn gallu sicrhau'r amddiffyniadau ychwanegol hynny drwy Ddeddf 2022. Cyflwynodd Llywodraeth y DU gyfres gyfan o welliannau hwyr iawn i'r Ddeddf—i'r Bil, fel yr oedd bryd hynny—nad oeddem yn...